-
Cefnogwch Dîm!
15 Tach 2011Ysgolion y DU yn mynd yn fyd-eang ac yn dangos cefnogaeth i dimau Olympaidd a Pharalympaidd tramor!
-
Mae Torriano Junior School yn dysgu am Daith Gyfnewid Fflam Llundain 2012, beth amdanoch chi?
Dewch i ganfod i ble fydd y Fflam Olympaidd yn mynd, a defnyddio adnoddau newydd cyffrous i ddysgu mwy am Daith Gyfnewid Fflam Llundain 2012.
7 Tach 2011
-
Wenlock a Mandeville yn ymuno á chymal olaf mis o daith gerdded gyfnewid ar thema'r Gemau!
Dros y pedair wythnos olaf, mae dros 4,000 o ddisgyblion ysgol o 180 o ysgolion wedi cymryd rhan!
3 Tach 2011
-
'Cynlluniwch eich 2012
Ysgolion yn paratoi ar gyfer Llundain 2012 gyda grantiau i gynllunio eu Gemau!
3 Tach 2011
-
Ysgol gynradd y mis Rhwydwaith Bydd Barod'yw...
Springwood Community Primary School yw ysgol gynradd y mis rhwydwaith Bydd Barod!
26 Hyd 2011
-
Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Hydref 2011 yw.....
Mae St Catherine RC school yn ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod!
26 Hyd 2011
-
Cystadleuaeth dwlu am y dolydd
Dyluniwch eich dôl o flodau gwyllt eich hun a ysbrydolir gan Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012!
26 Hyd 2011
-
Bydd Barod i ysbrydoli'r athletwyr
Cystadleuaeth newydd gyffrous ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion!
25 Hyd 2011
-
Chantry High School yn Apus yn Rownd Derfynol Her GTPM 7
Cystadlu am wobrau mawr yn rownd derfynol Her GTPM yn yr Amgueddfa Astudiaethau Naturiol.
24 Hyd 2011
-
Myfyrwyr yn ymweld â'r amgueddfa Olympaidd yn Lousanne
Dewch i weld beth oedd gan grŵp o fyfyrwyr newyddiaduraeth y cyfryngau i’w ddweud am eu hymweliad â‘r amgueddfa Olympaidd yn Lousanne!
20 Hyd 2011
-
Myfyrwyr o Deansfield Community School yn rhoi cyflwyniad i geisio cynnal gwersyll ymarfer cyn-Gemau
Roeddent yn cyflwyno eu hachos i banel o feirniaid gwadd.
17 Hyd 2011
-
Rowndiau Terfynol Mawreddog Pro Tour y Ffederasiwn Tennis Bwrdd Rhyngwladol (ITTF) yn ExCeL
Gall ysgolion brynu tocynnau am ostyngiad!
17 Hyd 2011
-
Menter farddoniaeth Geiriau Gorau 2012 yn cael ei lansio'n genedlaethol
Defnyddio barddoniaeth i ysbrydoli athletwyr sy’n cystadlu a gwylwyr y Gemau.
7 Hyd 2011
-
Liverpool Community College yn cael ymweliad gan enillydd medal aur Team USA!
Mae enillydd medal aur Olympaidd wedi bod yn ysbrydoli myfyrwyr i gymryd rhan yn y freuddwyd Olympaidd.
6 Hyd 2011
-
Prif athletwyr a phlant ysgol lleol yn gyntaf ar drac gorffenedig y Stadiwm Olympaidd
Bu myfyrwyr o ysgol leol o rwydwaith Bydd Barod yn dystion i ddadorchuddio’r trac yn y Stadiwm Olympaidd heddiw!
3 Hyd 2011
-
Lord Lawson of Beamish school yw ysgol y mis Bydd Barod!
Pob mis, caiff ysgol wahanol ei dewis am fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
29 Med 2011
-
Bilborough College yw coleg y mis Bydd Barod!
Dewiswyd y coleg oherwydd ei phostiau blog disglair yn amlinellu ei hymrwymiad i’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
29 Med 2011
-
Siop newydd TeamGB a ParalympicsGB yn agor yn Westfield Stratford City
Myfyrwyr o Kaizen Primary School, aelod o rwydwaith Bydd Barod, yn helpu i agor y siop newydd yn swyddogol.
27 Med 2011
-
Ceisiadau i raglen Gemau-Grewyr Ifanc nawr yn agored!
Allwch chi roi tîm o bobl ifanc 16-18 oed at ei gilydd i helpu i gynnal Gemau Llundain 2012?
22 Med 2011
-
Pobl ifanc yn dathlu'r Cymod Olympaidd
Heddiw dathlodd myfyrwyr Swanlea School yn Tower Hamlets y Cymod Olympaidd gydag Andy Turner, enillydd medal Efydd Pencampwriaeth Athletau’r Byd.
21 Med 2011
-
Jonathan Edwards yn ymweld â Wilson Stuart School yn Birmingham
Bu i Jonathan longyfarch yr ysgol am gael eu dewis fel enillydd cystadleuaeth ‘Bydd Barod i ymarfer blasu’.
19 Med 2011
-
Gemau-Grewyr Ifanc yn dod yn fuan!
Rydym yn chwilio am dros 2,000 o Gemau-Grewyr Ifanc i wirfoddoli yn ystod Gemau Llundain 2012. Dewch i ddarganfod mwy!
8 Med 2011
-
Gemau-Grewyr Ifanc o'r Bwrdeistrefi Cynnal!
Mae arnom angen Gemau-Grewyr Ifanc o chwe Bwrdeistref Gynnal Llundain i wirfoddoli yn ystod cystadleuaeth Tennis Cadair Olwyn Llundain 2012. Dewch i ddarganfod mwy!
7 Med 2011
-
Gemau-Grewyr Ifanc o Wandsworth a Merton!
Mae arnom angen hyd at 170 o Gemau-Grewyr Ifanc o Wandsworth a Merton i wirfoddoli yn ystod cystadleuaeth Tennis Olympaidd Llundain 2012.
7 Med 2011
-
Bydd Barod am y Gemau Paralympaidd
‘Gall y Gemau Paaralympaidd fod y rhai gorau eto’. meddai Llywydd y PPRh Syr Philip Craven.
29 Aws 2011
-
Mae amserlen gystadlu'r Gemau Paralympaidd wedi cael ei chyhoeddi.
Wrth i amser y Gemau agosau, mae paratoadau Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn agosach at gael eu cwblhau.
26 Aws 2011
-
Pencampwr Byd yn ymarfer yn galed
Wrth i Gemau Paralympaidd Llundain 2012 agosau, mae David Weir wrthi’n ymarfer yn llawn amser er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddo’i hun ennill aur o flaen ei deulu.
26 Aws 2011
-
Mae Ysgol Gynradd Stanburn yn Harrow newydd ymuno â rhwydwaith Bydd Barod!
Os nad yw eich ysgol neu goleg eisoes yn aelod o rwydwaith Bydd Barod, yna pam na chyflwynwch chi gais heddiw!
18 Aws 2011
-
Diwrnod chwaraeon Ysgol Gosden House
Cafodd Ysgol Gosden House, aelod o rwydwaith Bydd Barod, ddiwrnod chwaraeon bythgofiadwy!
16 Aws 2011
-
Enillwyr Bydd Barod i ymarfer blasu!
Dewch i weld pwy yw’r enillwyr lwcus y bydd eu prydau bwyd yn cael eu gweini ym mhentref yr athletwyr yn ystod y Gemau!
1 Aws 2011
-
Bydd Barod i ddatguddio dy ddyluniadau mascot!
Cymerwch gip ar y dyluniadau buddugol sydd erbyn hyn yn fersiynau swyddogol o Wenlock a Mandeville!
31 Gor 2011
-
Llongyfarchiadau Beth!
Dewiswyd Beth o Beauchamps High School fel un o enillwyr cystadleuaeth ‘Bydd Barod i greu dy fasgot’.
27 Gor 2011
-
Cynlluniwch eich amser tan y Gemau!
Mae Tîm Addysg Llundain 2012 yn rhoi chwe chyngor gorau i chi ar sut i wneud y mwyaf o Lundain 2012 wrth i ni baratoi ar gyfer y sioe fwyaf ar wyneb y Ddaear!
27 Gor 2011
-
Myfyrwyr o Dawn House School ar daith o gwmpas y Parc Olympaidd yn y Triathlon Gyfathrebu!
Dewch i weld beth oedd yr athrawon a’r myfyrwyr yn ei feddwl am y profiad!
22 Gor 2011
-
Mae Bedford Academy yn byw y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd!
Bu myfyrwyr o’r ysgol yn cymryd rhan mewn her fenter a ysbrydolwyd gan Llundain 2012.
1 Gor 2011
-
Pedwerydd diwrnod Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol Lloyds TSB
Denise Lewis, enillydd medal aur Olympaidd, yr atyniad pennaf tra dathlai Birmingham Wythnos Chwaraeon Ysgol Cenedlaethol Lloyds TSB mewn steil.
30 Meh 2011
-
Trydydd diwrnod Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB
Prif atyniad Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB fel y symudai ar ei thrydydd diwrnod i Sheffield oedd yr enillydd medal efydd Paralympaidd Ade Adepitan.
29 Meh 2011
-
Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Mehefin 2011 yw.....
Pob mis, caiff ysgol wahanol ei dewis am fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
28 Meh 2011
-
Ail ddiwrnod Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds
Cymerodd y Gogledd-ddwyrain ganol y llwyfan pan ymunodd 600 o blant ysgol Newcastle ag enillydd medal arian Olympaidd, Gail Emms, yn Ysgol Heaton Manor am ail ddiwrnod Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB.
28 Meh 2011
-
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB
Syr Chris Hoy a Jonathan Edwards yn lansio mewn steil Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB yng Ngholeg Cymunedol Southfields.
27 Meh 2011
-
Ysgol gynradd Osbaldwick yng Nghaerefrog yn derbyn ymweliad sypreis ar eu diwrnod chwaraeon!
Llongyfarchiadau i Calum Japes, myfyriwr a enillodd yr ymweliad ar ran ei ysgol.
20 Meh 2011
-
Dwy ysgol yn ymweld â'r Parc Olympaidd!
Mae dau grŵp o fyfyrwyr eco-gyfeillgar wedi cael eu gwybrwyo am eu llwyddiannau cynaliadwy gyda thocynau i ymweld â‘r Parc Olympaidd a’r EDF Energy London Eye.
14 Meh 2011
-
Cyhoeddwyd enillwyr Rownd Derfynol Genedlaethol cystadleuaeth 'Cynllunio Fy Egwyl' GE.
Ysgol Tregib o Sir Gaerfyrddin ddaeth i’r brig yn rowndiau terfynol cenedlaethol ‘Cynllunio fy Egwyl’ GE gan ennill tocynnau i Gemau Olympaidd 2012!
7 Meh 2011
-
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland wedi cychwyn!
330,000 o blant ysgol yn barod i gyrraedd eu gorau glas!
3 Meh 2011
-
Aelodau rhwydwaith Bydd Barod yn ymweld â fferm!
Plant ysgol Llundain yn cael mewnwelediad unigryw i sut y mae’r bwyd fydd yn bwydo gwylwyr ac athletwyr Llundain 2012 yn cael ei fagu, ei dyfu a’i gynaeafu.
31 Mai 2011
-
Cystadleuaeth Enwi Nodweddion Fferm Hadleigh
Cafodd ysgolion Essex gyfle i enwi pedwar o’r nodweddion ar Gwrs Beicio Mynydd Olympaidd Llundain 2012. Dewch i weld pwy yw’r enillwyr lwcus!
26 Mai 2011
-
Her GTPM 7: Lansio Her Rhaglen BT!
Yr Her yw…dylunio rhaglen ‘app’ ar gyfer Llundain 2012: Gemau i Bawb.
23 Mai 2011
-
Wenlock a Mandeville yn dathlu eu penblwydd cyntaf!
Penblwydd Hapus!
17 Mai 2011
-
Cyflwynwch gais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod heddiw a hawlio'ch tocynnau Ticketshare!
Mae’n rhaid i ysgolion gyflwyno cais i fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod erbyn 16 Rhagfyr 2011 er mwyn bod yn gymwys i dderbyn eu dyraniad o docynnau.
16 Mai 2011
-
Mae yna'n dal ddigon o amser i wneud cais am docynnau i Gwpan y Byd Baralympaidd BT!
Mae yna docynnau am ddim ar gael i ysgolion i wylio’r goreuon yn y byd ar y trac ym Manceinion yng nghystadleuaeth athletau Cwpan y Byd Baralympaidd BT ar ddydd Gwener 27 Mai 2011.
13 Mai 2011
-
Mis yn unig ar ôl!
Mis yn unig sydd ar ôl nes bod cystadleuaeth Bydd Barod i ymarfer blasu yn cau. Cyflwynwch eich cynigion nawr! Gallai’ch prydau bwyd chi fod yn danwydd torri recordiau yn Llundain 2012!
9 Mai 2011
-
Cynnau'r Golau
Mae disgybl o Middle Park Primary School yn Eltham yn byw yn ôl y Gwerth Paralympaidd, penderfyniad!
4 Mai 2011
-
Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Ebrill 2011!
Bob mis caiff ysgol wahanol ei dewis i fod yn ‘ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod’ am eu hymrwymiad rhyfeddol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Dewch i ddarganfod mwy!
30 Ebr 2011
-
Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Mawrth 2011!
Pob mis, caiff ysgol wahanol ei dewis am eu hymrwymiad neilltuol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Dewch i weld pwy sydd wedi cael ei ddewis!
24 Maw 2011
-
Lansio Gwyddonwyr Chwaraeon!
GSK yn lansio menter Llundain 2012 gyda King’s College Llundain i ysbrydoli pobl ifanc i ddewis gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth.
22 Maw 2011
-
Adroddiad Ysgol Newyddion BBC 500 o ddyddiau ar ôl!
Dewch i weld beth a weloddd myfyrwyr o ddwy ysgol o rwydwaith Bydd Barod wrth fynd ar daith o gwmpas y Parc Olympaidd.
15 Maw 2011
-
Y tocyn gorau yn y byd!
Heddiw, mae ceisiadau am docynnau Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn agored.
15 Maw 2011
-
Gwobrau Plant Egnïol Sainsbury's
Mae Chadsgrove School and Specialist Sports College wedi ennill 100,000 o dalebau Plant Egnïol!
7 Maw 2011
-
Ysbrydoli disgyblion Hackney yn ystod wythnos Dysgu'n Gyntaf.
Enillydd medal aur Olympaidd, Tim Brabants yn paratoi i Ddysgu’n Gyntaf, ymarfer wedyn!
3 Maw 2011
-
Chef Michelin yn helpu ysgol i anelu am fri Olympaidd.
Ymwelodd y Chef Seren Michelin o Swydd Efrog, Simon Gueller, ag ysgol yng Ngorllewin Swydd Efrog i helpu ieuenctid i ddylunio pryd bwyd ar gyfer athletwr Llundain 2012.
1 Maw 2011
-
Myfyrwyr o Sidmouth College yn ymweld â'r amgueddfa Olympaidd yn Lousanne
Cafodd myfyrwyr o Sidmouth College eu dewis fel enillwyr ‘A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?’ ac maent wedi ennill taith i’r amgueddfa Olympaidd yn y Swistir!
1 Maw 2011
-
Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod Chwefror 2011!
Mae ‘Ysgol y mis rhwydwaith Bydd Barod’ y mis hwn yn dod o Ogledd Iwerddon! Dewch i ganfod pwy ydynt a’r hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud.
23 Chw 2011
-
Dadorchuddio Felodrom Llundain 2012!
Mae’r ODA wedi cwblhau adeiladu’r lleoliad cyntaf yn y Parc Olympaidd yn brydlon ac o fewn y gyllideb.
22 Chw 2011
-
Bt yn lansio rhaglen ffôn symudol newydd!
Leon Taylor, Enillydd Medal Arian Olympaidd a Llysgennad BT yn ymweld ag ysgol rhwydwaith Bydd Barod i lansio rhaglen ffôn BT fel rhan o raglen Hyfforddi am Oes BT.
18 Chw 2011
-
Cofrestrwch ar gyfer tocynnau!
Heddiw cyhoeddodd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd amserlen lawn y gystadleuaeth chwaraeon ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
15 Chw 2011
-
Pŵer y Gemau i droi pobl ifanc yn Legacy Champions
Bydd myfyrwyr yn ymuno ag EDF Energy i weithio ar Brosiectau Gwaddol ym Mwrdeistrefi Llundain.
11 Chw 2011
-
Bedfordshire College
Bedfordshire College fel aelod o rwydwaith Bydd Barod. Dewch i ganfod beth maent wedi bod yn ei wneud a phwy ymwelodd â‘r coleg.
10 Chw 2011
-
Curwen primary school yn croesawu gwahoddedigion arbennig!
Mae’r ysgol wedi bod yn dathlu Gemau Paralympaidd Llundain 2012 mewn ffyrdd creadigol a dyfeisgar. Dewch i ganfod pwy ymwelodd â‘r ysgol i’w llongyfarch ar eu gwaith.
9 Chw 2011
-
Enillwyr cystadleuaeth gynradd Bydd Barod i greu dy fasgot!
Dewch i ganfod pa ysgolion enillodd gystadleuaeth gynradd Bydd Barod i greu dy fasgot a chlywed y cyfan am y rownd derfynol.
8 Chw 2011
-
Pencampwriaethau BUCS 2011!
Mae Pencampwriaeth Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) 2011 yn cynnig mynediad am ddim i ddisgyblion ysgol a chlybiau lleol!
4 Chw 2011
-
Myfyrwyr y Coleg Celf Brenhinol i ddylunio elfennau allweddol o Seremonïau Dathlu Llundain 2012.
Yn 2012 bydd dros 770 o Seremonïau Dathlu yn cael eu cynnal mewn 29 o wahanol leoliadau ar draws y DU! Bydd myfyrwyr o’r Coleg Celf Brenhinol yn gweithio ac arbenigwyr y diwydiant i ddylunio elfennau allweddol y seremonïau.
27 Ion 2011
-
Jonathan Edwards yn ymweld â Brighton.
Myfyrwyr o ysgolion sy’n aelodau o rwydwaith Bydd Barod yn dangos eu gwaith gerbron Olympiad!
15 Ion 2011
-
Mae'r canlyniadau wedi cyrraedd ...
Mae 23 o ysgolion cynradd yn y DU wedi cael dewis i fynd drwodd i rownd derfnyol cystadleuaeth creu dy fasgot Bydd Barod!
11 Ion 2011
-
Cornwall College yn cyfarfod â Wenlock!
Cafodd myfyrwyr Cornwall College ymweliad arbennig gan Wenlock, masgot Llundain 2012, i nodi achlysur y Coleg yn ymuno â rhwydwaith Bydd Barod.
15 Rha 2010
-
Mae 'Coleg y mis Rhwydwaith Bydd Barod' wedi cael ei gyhoeddi!
Pob mis, caiff ysgol neu goleg gwahanol sy’n rhan o rwydwaith Bydd Barod ei dewis am fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac am eu dathlu mewn ffyrdd dyfeisgar a chreadigol.
15 Rha 2010
-
Mae'n fwy na chwaraeon yn unig!
Dysgodd myfyrwyr o Southfields Community College am beth arall a gynllunir ar gyfer Llundain 2012 fel rhan o adroddiad newyddion ysgol y BBC!
7 Rha 2010
-
Ymweliad sypreis!
Ymwelodd dau westai arbennig ag ysgol gynradd Chisenhale yn Tower Hamlets. Dewch i ddarganfod mwy.
30 Tach 2010
-
'Ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod' mis Tachwedd yw...
Pob mis, dewisir ysgol rhwydwaith Bydd Barod wahanol am fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac am eu dathlu mewn ffyrdd dyfeisgar a chreadigol.
29 Tach 2010
-
Colin Jackson yn ymweld â myfyrwyr Haringey!
Croesawodd plant ysgol o Haringey, Gogledd Llundain, yr Olympiad Colin Jackson fel rhan o ddathliadau rhaglen Ysbrydoliaeth Rhyngwladol Llundain 2012.
24 Tach 2010
-
Dyluniwch wisg wlyb!
Dyluniwch wisg wlyb ar gyfer yr Her GTPM ddiweddaraf a chael cyfle i ennill offer werth hyd at £1000 i’ch ysgol!
24 Tach 2010
-
Felodrom Llundain 2012 yn derbyn canmoliaeth arolygwyr Olympaidd
Mae trac seiclo Felodrom Llundain 2012 wedi ei orffen a bu dau berson ifanc yn ddigon lwcus i gael mynd i’w weld.
22 Tach 2010
-
Ysgolion yn Llundain yn cymryd rhan yn y Big WoW
Cymerodd ysgolion yn Llundain ran mewn digwyddiad cyfnewid torfol i ddathlu Llundain 2012.
14 Tach 2010
-
A yw plant yn y DU yn cael eu cyffroi gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd? Heb os!
Mae ysgol gynradd Pippins yn wirioneddol yn byw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac yn ysbrydoli staff Pwyllgor Trefnu Llundain 2012 y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
2 Tach 2010
-
Mae 'Ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod' wedi cael ei chyhoeddi!
Pob mis, caiff ysgol wahanol ei dewis am eu hymrwymiad neilltuol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
1 Tach 2010
-
Mae gan Sidmouth College yr hyn sydd ei angen!
Myfyrwyr Sidmouth College yw enillwyr ‘A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?’ ac maent wedi ennill taith i’r amgueddfa Olympaidd yn y Swistir!
17 Hyd 2010
-
Tocynnau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012!
Cyhoeddwyd prisiau tocynnau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012!
15 Hyd 2010
-
Dyluniadau'r genedl ar ddarnau arian 50c ar gyfer Llundain 2012!
Y gyfres weithredol gyntaf o ddarnau arian 50c a ddyluniwyd gan y cyhoedd yn cael eu dangos heddiw!
13 Hyd 2010
-
Enillwyr cystadleuaeth ysgolion Ysbrydoliaeth Rhyngwladol yn ymweld â'r Parc Olympaidd
Dewch i weld sut enillodd tair ysgol daith o gwmpas y Parc Olympaidd.
10 Hyd 2010
-
Cyhoeddi enillydd Her GTPM Llundain 2012
Mae Bishop Rawstorne School wedi dangos bod ei myfyrwyr yn awyddus i guro’r twyllwyr mewn her gwrth dopio
8 Hyd 2010
-
Mae cystadleuaeth Llais Mawr BT wedi cael ei lansio - Cymerwch ran nawr!
Mae BT wedi lansio eu cystadleuaeth Llais Mawr, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr a phobl ifanc ar draws y DU gynhyrchu ffilm yn ymwneud â themâu amrywiaeth a chynhwysedd.
28 Med 2010
-
Mae 'ysgol y mis Rhwydwaith Bydd Barod' gyntaf erioed wedi cael ei chyhoeddi!
Pob mis, caiff ysgol wahanol ei dewis am eu hymrwymiad neilltuol i fyw yn ôl y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
27 Med 2010
-
Cymerwch ran yn Film Nation: Shorts nawr!
Film Nation: Shorts yn lansio strand newydd o’u cystadleuaeth ar gyfer egin gynhyrchwyr ffilmiau.
21 Med 2010
-
Cymerwch ran yn Cynllunio Fy Egwyl nawr!
Mae GE, partner Llundain 2012, yn herio myfyrwyr i greu gweithgareddau egwyl ysbrydoledig a diddorol trwy gystadleuaeth newydd – Cynllunio Fy Egwyl.
16 Med 2010
-
Breuddwydion Olympaidd - Chwilio am Ysgol!
Gall eich ysgol chi fod â gobaith o wneud cysylltiad ag ysgolion ar draws y byd trwy’r gystadleuaeth newydd hon gan y BBC a’r Cyngor Prydeinig.
9 Med 2010
-
Mae Gemau Olympaidd Ieuenctid Singapore wedi cychwyn!
Cychwynodd Gemau Ieuenctid Singapore yn swyddogol ar 14 Awst!
20 Aws 2010
-
Mae pobl ifanc yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cymryd eu SmallSteps4Life!
Pam na wnewch chi ymuno â‘r bobl ifanc hyn o’r Alban a Gogledd Iwerddon a derbyn her SmallSteps4Life yr hydref hwn?
6 Aws 2010
-
Partneriaeth Chwaraeon Ysgol Macclesfield -‘On yoUR Marks, Get Set, Go’
27 Gor 2010
-
Kelly Holmes yn cyfarfod â Chriw Adeiladu 2010!
Kelly Holmes yn canmol plant ysgol sy’n graddio o Griw Adeiladu’r Parc Olympaidd
21 Gor 2010
-
Syr Chris Hoy yn ymweld â Hartford High i ddathlu eu rhaglen Ysbrydoliaeth Ryngwladol
Ymwelodd Syr Chris Hoy â Hartford High yn Sir Caer i ddathlu’r gwaith a wnânt fel rhan o’u gwaith Ysbrydoliaeth Ryngwladol a’u partneriaeth gydag ysgol ym Malaysia.
7 Gor 2010
-
Film Nation: Shorts - nawr yn agored i gystadleuwyr!
Agorodd cystadleuaeth ffilm fer Llundain 2012 ar gyfer pobl ifanc ar 23 Mehefin 2010
30 Meh 2010
-
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB yn cychwyn!
Mae ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn dathlu Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Lloyds TSB ac yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon!
29 Meh 2010
-
Y masgotiaid yn parhau â'u taith o gwmpas y DU!
Mae enillwyr cystadleuaeth ‘Bydd Barod i gyfarfod y masgotiaid’ yn cyfarfod â Wenlock a Mandeville wrth iddynt deithio o gwmpas y DU!
28 Meh 2010
-
Bydd Barod i ymweld â'r Parc Olympaidd!
Aelodau rhwydwaith Bydd Barod yn cael mynediad egsglwsif i’r Parc Olympaidd!
7 Meh 2010
-
Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland
Mae ysgolion ar hyd a lled Yr Alban yn cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol Bank of Scotland!
7 Meh 2010
-
Rhwydwaith Bydd Barod yn dysgu am y cynlluniau i'n bwydo yn 2012!
Aeth dwy ysgol sy’n rhan o rwydwaith Bydd Barod i lansiad menter Fferm Agored McDonalds i ganfod sut maent yn paratoi i’n bwydo i gyd yn 2012!
28 Mai 2010
-
Lansio Awn i Goginio o Gwmpas y Byd!
Helpodd myfyrwyr o Eldon Junior School i ddathlu lansio ‘Awn i Goginio o Gwmpas y Byd’ trwy wneud smwddis o Frasil a dysgu Portiwgaleg!
26 Mai 2010
-
Cyfle i gyfarfod Wenlock a Mandeville!
Masgotiaid Llundain 2012, Wenlock a Mandeville, yn cael eu lansio i’r byd!
19 Mai 2010
-
99 diwrnod ar ôl hyd at gychwyn Gemau Olympaidd Ieuenctid Singapore!
Cadwodd y Pwyllgor Gemau Olympaidd Ieuenctid at eu harwyddair Olympaidd ‘Tanio’r trywydd’ wrth iddo nodi 99 diwrnod hyd at gychwyn y Gemau Olympaidd Ieuenctid (GOI) Agoriadol yn Singapore.
7 Mai 2010
-
Cyfle i weld eich ffilm ar sgriniau lleoliadau Llundain 2012!
Gall cynhyrchwyr ffilmiau ifanc weld eu gwaith ar sgriniau Live Sites ac yn lleoliadau eiconig Llundain 2012 trwy Film Nation: Shorts, cystadleuaeth newydd ar gyfer y DU gyfan.
22 Maw 2010
-
Gemau Paralympaidd Vancouver 2010 yn dechrau!
Mae cyffro Gemau’r Gaeaf yn parhau yn Vancouver wrth i’r Gemau Paralympaidd agor!
12 Maw 2010
-
Ysgolion Greenwich yn ymuno â'r rhwydwaith ac yn cymryd rhan yn Sioe Deithiol Her Masnachu BP
Mae dwy ysgol arall o Greenwich wedi ymuno â rhwydwaith Bydd Barod ac wedi cymryd rhan yn Sioe Deithiol Her Masnachu BP.
11 Maw 2010
-
Lansio'r Her GTPM newydd!
Mae adidas, trwy gyfrwng yr Her GTPM diweddaraf, yn herio myfyrwyr i ddylunio maneg wlyb ar gyfer ei defnyddio mewn chwaraeon dŵr!
25 Chw 2010
-
Supporter 2 Reporter a Wright Robinson yn gweld hanes yn cael ei greu!
Cafodd dau fyfyriwr o Wright Robinson Sports College ym Manceinion fynediad egsglwsif i’r Bathdy Brenhinol yng Nghymru fel gohebyddion Supporter 2 Reporter!
17 Chw 2010
-
Vancouver 2010 yn cychwyn!
Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf Vancouver 2010 wedi cychwyn!
12 Chw 2010
-
Disgybl o Sir Efrog yn ennill cystadleuaeth ddylunio Llundain 2012
Theo Crutchley-Mack, 16 oed, yn creu hanes wrth i’w ddarn 50c ag arno seiclwr yn rasio mewn felodrom gael ei ddewis gan y Bathdy Brenhinol!
9 Chw 2010
-
Y degfed coleg AB yn ymuno â rhwydwaith Bydd Barod!
Ymwelodd y gymnastwr Olympaidd, Craig Heap â Carmel College yn St Helens, Glannau Merswy, i roi eu plac rhwydwaith Bydd Barod iddynt!
5 Chw 2010
-
Ysgolion rhwydwaith Bydd Barod yn cyfarfod â'r Archesgob Desmond Tutu!
Cafodd myfyrwyr o ysgolion a cholegau sy’n aelodau o rwydwaith Bydd Barod gyfarfod â Desmond Tutu!
4 Chw 2010
-
GreenZone yn ymuno â'r rhwydwaith!
Y Ganolfan Playing for Success gyntaf i ymuno â‘r rhwydwaith yn cael ymweliad arbennig gan un o ddarpar athletwyr 2012, Andy Robertson o Sale Harriers, tîm addysol Llundain 2012 a Chyfarwyddwr Cyffredinol Adran Weithredol Olympaidd y Llywodraeth, Jeremy Beeton!
3 Chw 2010
-
Adnoddau newydd ar SmallSteps4Life!
Bydd yr adnoddau newydd hyn yn helpu’ch ysgol i gymryd camau bychan tuag at fwyta’n dda, teimlo’n dda a bod yn egnïol!
2 Chw 2010
-
Ysgolion rhwydwaith Bydd Barod yn ennill camerâu digidol!
Mae 15 o ysgolion a cholegau wedi ennill camerâu digidol Panasonic mewn raffl fawr egsglwsif ar gyfer aelodau rhwydwaith Bydd Barod!
1 Chw 2010
-
Grantiau o £500 ar gael ar gyfer gweithgareddau dinasyddiaeth sy'n gysylltiedig â'r Gemau!
Ychydyg wythnosau yn unig sydd ar ôl i gyflwyno’ch cais am grant Pwy Ydan Ni’n Feddwl Ydan Ni?
22 Ion 2010
-
Dilynwch Team GB ar eu taith i Vancouver
Dewch i ganfod yr holl newyddion, fideos, delweddau a blogiau diweddaraf gan athletwyr sy’n paratoi i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Vancouver 2010
18 Ion 2010
-
Cyfweliad egsglwsif â Phrif Weithredwr Llundain 2012
Enillodd myfyrwyr o Fairfax School yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr y cyfle i dreulio diwrnod gyda Prif Weithredwr Llundain 2012, pan ymunodd eu hysgol â rhwydwaith Bydd Barod. Dewch i ganfod beth wnaethon nhw ei ofyn iddo.
27 Tach 2009
-
Gorllewin Canolbarth Lloegr yn mynd y tu ôl i'r llenni gyda Llundain 2012
Ysgol gynaf Gorllewin Canolbarth Lloegr i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod yn cael profiad VIP, a Leone Davis, sydd â dyheadau Olympaidd, yn ymweld â‘r Parc Olympaidd!
13 Tach 2009
-
Lansio Mentrwch
Dewch i ddarganfod mwy am ein rhaglen Mentrwch newydd!
3 Tach 2009
-
Criw Adeiladu'n cyfarfod Ei Mawrhydi Y Frenhines!
Cafodd 40 o fyfyrwyr ysgol gynradd sy’n cymryd rhan yn y prosiect Criw Adeiladu gyfarfod Ei Mawrhydi Y Frenhines pan ymwelodd â‘r Parc Olympaidd i weld y cynnydd sydd wedi digwydd ers iddi ymweld y tro diwethaf bedair blynedd yn ôl.
3 Tach 2009
-
Lansio Ysbrydoliaeth Ryngwladol yn Yr Iorddonen
Y Fonesig Tanni Grey-Thompson yn gweld sut mae Ysbrydoliaeth Ryngwladol yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn Yr Iorddonen!
2 Tach 2009
-
Logo addysgol newydd Llundain 2012 yn lansio rhwydwaith Bydd Barod
Dewch i ganfod sut i ddod yn aelod o’n cymuned newydd arbennig, rhwydwaith Bydd Barod – a gweld logo addysgol newydd sbon Llundain 2012 y mae gan ddefnyddwyr y rhwydwaith yr hawl i’w ddefnyddio!
15 Med 2009
-
Mentrwch
Dewch i ganfod mwy am y cyfleon newydd yn strand Menter Bydd Barod
7 Gor 2009
-
Jonathan Edwards yn helpu athrawon ym Manceinion gyda Bydd Barod!
Cymerodd Jonathan Edwards ran mewn gweithdai gydag athrawon ar draws Manceinion a Gogledd Orllewin Lloegr. Mynychodd Gohebwyr Ifanc y gweithdai hefyd – dewch i wybod be ddigwyddodd a gweld eu hadroddiadau!
5 Meh 2009
-
Enillwch daith i'r Parc Olympaidd yng nghwmni Jonathan Edwards!
Mae Gogledd-orllewin Lloegr wedi lansio cystadleuaeth gyda gwobr anhygoel! Bydd dau berson ifanc yn ennill y cyfle i fynd ar daith o gwmpas y Parc Olympaidd gyda Jonathan Edwards!
22 Mai 2009
-
Cymerwch Smallsteps4life a bod yn iach ac egnïol!
Bydd rhaglen newydd ar gyfer helpu pobl ifanc i gymryd Smallsteps4life yn cael ei lansio’n ddiweddarach y flwyddyn hon…dewch i ganfod mwy!
14 Mai 2009
-
Lansio cronfa ddelweddau Bydd Barod!
Mae Bydd Barod wedi lansio cronfa ddelweddau sy’n llawn o luniau Olympaidd a Pharalympaidd gwych. Gallwch eu gweld, eu lawrlwytho a’u hargraffu!
8 Mai 2009
-
Pobl ifanc ym Medway yn cael eu hysbrydoli gan Gemau Llundain 2012
Medway yw’r awdurdod lleol cyntaf yn y wlad i dderbyn Nod Ysbrydoli Llundain 2012 am addysg. Dewch i ganfod mwy am yr hyn a wna pobl ifanc yn yr ardal.
27 Ebr 2009
-
A yw athletwyr elît yn fodelau rôl da? Gan Mabel Collins.
Enillodd Mabel Collins, o Ringwood Junior School, Hampshire, y gystadleuaedd ‘Bydd Barod i newyddiadura’. Ysgrifennodd erthygl wych am athletwyr fel modelau rôl – dewch i weld beth oedd ganddi i’w ddweud…
24 Ebr 2009
-
Y chwilio am dalent baralympaidd yn parhau...
Mae ParalympicsGB wedi cyhoeddi y bydd y Diwrnod Talent Paralympaidd nesaf, y chweched o’i fath, yn cael ei gynnal ym Manceinion ar 4 Mehefin 2009
15 Ebr 2009
-
Ysgol yn ennill ymweliad gan athletwr!
Mae Ysgol Gynradd yn Greenwich wedi ennill ymweliad gan athletwr yn raffl fawr mis Mawrth Bydd Barod! Cafodd llawer o ysgolion a cholegau eraill anrhegion Llundain 2012 hefyd!
15 Ebr 2009
-
Bydd Barod mewn Cymraeg
Mae gwefan Bydd Barod nawr ar gael mewn Cymraeg! Dewch i ganfod mwy am sut mae myfyrwyr yng Nghymru yn dysgu am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd
6 Ebr 2009
-
Ei fyw. Ei anadlu. Ei gynllunio.
Mae Llundain 2012 wedi lansio cystadleuaeth dylunio ecsglwsif, sy’n herio dylunwyr ifanc i greu mewnlenwad newydd ar gyfer logo Llundain 2012!
19 Maw 2009
-
Cystadleuaeth menter ecsglwsif
Mae Bydd Barod yn lansio cystadleuaeth menter ecsglwsif!
12 Maw 2009
-
Mae Bydd Barod yn chwilio am newyddiadurwyr ifanc!
Ydych yn mwynhau ysgrifennu ac yn breuddwydio am fod yn newyddiadurwr? Mae Bydd Barod eisiau clywed gennych chi!
25 Chw 2009
-
Vancouver yn cyfrif i lawr un flwyddyn i fynd!
Mae dydd Iau 12 Chwefror yn dynodi un flwyddyn yn unig hyd at ddechrau Gemau Gaeaf Vancouver 2010. Edrychwch ar sut mae plant yn y DU wedi bod yn dathlu’r achlysur.
12 Chw 2009
-
Y Prif Weinidog yn cyfarfodâ chefnogwyr ifanc Llundain 2012
Mae grŵp o blant o Ddwyrain Llundain wedi bod yn dysgu am waith adeiladu’r Parc Olympaidd ac wedi bod yn rhannu eu gwybodaeth gyda’u ffrindiau, teuluoedd a’u cyd-ddisgyblion dosbarth.
23 Ion 2009
-
£5,000 i'w ennill gan ysgol wyrddaf y DU
Gydag ond ychydig wythnosau ar ôl, nid oes dim amser i’w wastraffu o ran cyflwyno’ch ymgais i Wobrau EDF Energy i Ysgolion Gwyrddach.
23 Ion 2009
-
Pobl ifanc ar draws Canada yn dysgu am y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Mae pobl ifanc ar draws Canada yn gwneud y mwyaf o’r paratoadau ar gyfer Gemau Vancouver 2010.
22 Ion 2009
-
Team GB yn gadael Gŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia gyda 68 o fedalau!
Bu dros 2000 o athletwyr ifanc elît o fwy na 20 gwlad yn cystadlu mewn 21 o gampau Olympaidd yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia 2009 yr wythnos diwethaf
20 Ion 2009
-
Mae canlyniadau'r arolwg barn wedi cyrraedd!
Mae pleidlais gyntaf un Bydd Barod wedi cau ac mae’r canlyniadau wedi cyrraedd. Ydych chi’n credu bod athletwyr yn gwneud modelau rôl da?
16 Ion 2009
-
Dyluniwch ddarn arian a chreu hanes!
Rhoir cyfle i fyfyrwyr 13-19 mlwydd oed i wneud eu marc ar ddarnau arian y genedl ac i fod yn rhan o Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012.
16 Ion 2009
-
James Milton yn deifio i esgidiau Tom Daley
James Milton yn paratoi i ddilyn ynôl traed Tom Daley yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia.
12 Ion 2009
-
Bydd Barod mewn partneriaeth â Nortel yn BETT
Mae Bydd Barod a Nortel yn arddangos yn BETT yr wythnos hon, sioe dechnoleg addysgol fwya’r byd.
12 Ion 2009
-
Chwilio am sêr Paralympaidd newydd
Mae ParalympicsGB yn trefnu Diwrnod Talent Paralympaidd fel rhan o’u hymgyrch i ganfod talent newydd!
9 Ion 2009
-
Maer Llundain yn penodi prentis ifanc
Mae swyddfa Maer Llundain yn bwriadu penodi prentis ifanc.
9 Ion 2009
-
Ellie Simmonds yn ennill Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC
Cafodd dau o’Arwyr’Bydd Barod eu cydnabod yn ystod gwobrau Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC ddoe.
15 Rha 2008
-
Beth Tweddle yn ymweld ag Ysgol Gynradd Forefield
Ymwelodd Beth Tweddle, athletwraig Tîm Visa, Gymnastwraig Olympaidd, ag Ysgol Gynradd Forefield yn Lerpwl ddoe.
11 Rha 2008
-
Athletwyr Paralympaidd yn ennill gwobrau
Mae rhai o Baralympiaid gorau Prydain wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol yr haf hwn gan ennill Gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn rhanbarthol.
10 Rha 2008
-
Pwy yw'r banana gorau?
Cynhaliwyd Rownd Derfynol Gwneud Eich Marc heddiw, gyda 21 o dimau yn teithio o bob cwr o’r DU i gyflwyno’u syniadau i’r panel beirniadu.
9 Rha 2008
-
Athletwyr gobeithiol Team GB ar eu ffordd i Awstralia
Dewiswyd dros gant o athletwyr ifanc i gynrychioli Team GB yng Ngŵyl Olympaidd Ieuenctid Awstralia yn Sydney mis Ionawr nesaf.
1 Rha 2008
-
Ysbrydoliaeth Ryngwladol yn ymestyn
Ysbrydoliaeth Ryngwladol ar gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ifanc o amgylch y byd.
26 Tach 2008
-
Y Crysau Duon yn ymweld â Greenwich i gael plant Llundain i fod yn egnïol
Heddiw mae tîm rygbi byd enwog Crysau Duon Seland Newydd yn helpu adidas, Partner Dillad Chwaraeon Swyddogol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012, i agor yr ‘adiZone’ diweddaraf, lleoliad aml-chwaraeon awyr agored anferth.
25 Tach 2008
-
EDF Energy yn lansio'u Gwobrau
Mae EDF Energy yn credu y dylid dathlu llwyddiant, ac felly maen nhw wedi lansio eu Gwobrau. Gallai ysgolion buddugol dderbyn £5000 i’w roi tuag at brosiectau i wneud eu hysgol yn hyd yn oed gwyrddach.
5 Tach 2008
-
Prynwch 'Bein' Green' a helpwch i daclo'r newid yn yr hinsawdd
Mae EDF Energy wedi lansio’r seng ‘Bein’ Green’ a welir yn eu hysbysebion teledu diweddaraf.
5 Tach 2008
-
Cynghorion gorau ar gyfer Her Gwneud Eich Marc
Ar 17 Tachwedd 2008, bydd dros 45,000 o fyfyrwyr ar draws y DU yn wynebu’r her o feddwl am syniadau newydd am gynhyrchion a gwasanaethau yn y gystadleuaeth menter un diwrnod fwyaf yn y DU, Her Gwneud Eich Marc.
26 Hyd 2008
-
Her Gwneud Eich Marc - Cofrestrwch Nawr!
Mae’r cyffro’n cynyddu wrth i’r amser agosau at lansio brîff cyfrinachol Her Gwneud Eich Marc.
14 Hyd 2008
-
Geiriau Croeso
Mae Blwyddyn Genedlaethol Darllen, trwy weithio â Llundain 2012, yn gwahodd plant y phobl ifanc ar draws y wlad i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth newydd, Geiriau Croeso.
6 Hyd 2008
-
Gwyliwch y Parc Olympaidd yn dod yn fyw
Mae Llundain 2012 wedi gosod chwe chamera newydd sy’n galluogi’r cyhoedd i weld y gwaith adeiladu sy’n digwydd yn y Parc Olympaidd.
6 Hyd 2008
-
Caniatâd i leoliad Olympaidd newydd
Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r Ganolfan Canwio Dŵr Gwyn newydd yn Broxbourne fydd yn cynnal y cystadlaethau Slalom Canŵ a Chaiac yn ystod Gemau Llundain 2012.
1 Hyd 2008
-
Yr Olympiad Diwylliannol yn cychwyn ar wib
Rhoddwyd cychwyn ar Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 y bore yma yn y Tate.
26 Med 2008
-
Y Parc Olympaidd yn Llundain fydd yr un mwyaf hygyrch erioed.
Y Parc Olympaidd yn Llundain fydd yr un mwyaf hygyrch erioed.
24 Med 2008
-
Pencampwyr i godi Baneri Olympaidd a Pharalympaidd yng nghanol Llundain.
Bydd y Baneri Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu codi mewn seremoni arbennig ar 26 Medi, i nodi Llundain fel Dinas Gynnal nesaf Gemau’r Haf.
22 Med 2008
-
Dathliadau Trosglwyddo Paralympaidd yn Beijing
Heddiw, digwyddodd Trosglwyddo’r Gemau Paralympaidd o Beijing i Lundain yn Stadiwm Nyth yr Aderyn.
17 Med 2008
-
Dathlu'r Trosglwyddo Paralympaidd yn y DU
Miliynau o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn dathliadau Trosglwyddo Paralympaidd ar draws y DU gyfan.
17 Med 2008
-
Adidas ewch i 'zone' 2012
Adidas yn agor eu adiZone cyntaf – lleoliad amlchwaraeon awyr agored i gymunedau lleol.
11 Med 2008
-
Y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn cychwyn gydag agoriad trawiadol.
Mae Gemau Paralympaidd Beijing 2008 wedi cael eu lansio gyda Seremoni Agor ryfeddol.
6 Med 2008
-
Danny Crates i gario baner y Seremoni Agor ar ran ParalympicsGB
Heddiw cyhoeddodd ParalympicsGB mai Llysgennad Llundain 2012, Danny Crates, fydd yn cario’r faner ar ran tîm Prydain Fawr yn Seremoni Agor Gemau Paralympaidd Beijing yfory, dydd Sadwrn 6 Medi.
5 Med 2008
-
Y Stadiwm Olympaidd yn edrych yn dda
Mae lluniau newydd a gyhoeddwyd gan yr Olympic Delivery Authority (ODA) yn dangos bod strwythur y Stadiwm Olympaidd yn dechrau siapio.
26 Aws 2008
-
Y DU un uno i ddathlu'r Trosglwyddo Olympaidd
Daeth dros 200,000 o bobl at ei gilydd mewn lleoliadau o gwmpas y DU i ddynodi’r adeg y trosglwyddwyd y Gemau o Beijing i Lundain.
25 Aws 2008
-
'Whole lotta love'
Cymerodd bws deulawr coch, tri seiclwr oedd wedi ennill medalau aur, y pêl-droediwr David Beckham a’r cerddorion Jimmy Page a Leona Lewis ran mewn sioe drawiadol i ddynodi trosglwyddo’r faner Olympaidd o Beijing i Lundain.
24 Aws 2008
-
Gemau Beijing yn dechrau mor drawiadol
Dechreuodd Gemau Olympaidd Beijing 2008 mewn modd trawiadol iawn gyda Seremoni Agor wefreiddiol yn stadiwm Nyth yr Aderyn.
8 Aws 2008













