CERDDORIAETH
Ni allai yr Arglwydd Coe gynnal y Sioe Fwyaf ar ei ben ei hun, felly bu'n rhai i ni i gyd weithio mewn timau yma yn Llundain 2012.
Dyma sut yr ydym yn gwneud hynny.
MARTIN GREEN:
Rwy'n goruchwylio tîm sy'n gorfod cyflwyno'r Seremonïau Agor a Chloi, Taith Gyfnewid y Fflam, y Seremonïau Dathlu ar gyfer pob enillydd yn y Gemau, a'r Seremonïau Croeso i'r athletwyr yn y Pentref.
Mae tua biliwm o bobl yn gwylio Seremonïau Agor a Chloi y Gemau Olympaidd. Y rhain yw'r rhaglenni teledu sy'n gyntaf ac ail o ran ffigyrau gwylio yn hanes teledu, sydd ar y naill law yn hollol frawychus, ond ar y llaw arall, rydym wedi casglu tîm mor anhygoel o'n cwmpas fel bod gennyf hyder anferthol y byddwn yn cyflwyno rhywbeth y bydd pob un o'r biliwn hwnnw yn ei fwynhau.
DOMINIC OLLIFF:
Fy enw i yw Dominic Olliff, a fi yw Rheolwr Gweithrediadau Lleoliad y Stadiwm Olympaidd. Y sgiliau allweddol ar gyfer fy swydd i mewn gwirionedd yw cyfathrebu. Mae angen i chi yrru ymlaen â phob math o bersonoliaethau, pob math o bobl, a gallu gweithio fel tîm.
Mae'r lleoliad mor fawr, mae'r Gemau mor fawr, mae gwaith tîm ar brosiect fel hwn yn hollol allweddol. Mae gennych Charles Quelch, y dyn mawr, ef yw y Rheolwr Lleoliad Cyffredinol. Yna mae gennym Lucy Blakey, a Charlotte Conway hefyd. Mae'n bwysig gwrando ar farn pawb.
Mae'r hyn allai ymddangos fel syniad twp yn gallu bod yn fflach o athrylith, oherwydd nad oes neb arall wedi meddwl amdano. Gallwch gael unigolion anhygoel sy'n adnabod eu gwaith y tu chwithig allan ac yn gwneud gwaith rhyfeddol, ond os nad ydynt yn cyfathrebu ac yn gweithio fel tîm, fyddai hi ddim yn bosibl cynnal y Gemau.
GILLIAN MILNER:
Yn y Tîm Marchnata, rydym i gyd yn gweithio fel peiriant o Dîm Marchnata bob tro mae yna ymgyrch fawr ar gyfer Llundain 2012. Enghraifft dda o hyn oedd lansio'r Masgotiaid, pan y cafodd pob un ohonom swyddogaeth a chyfrifoldebau ar gyfer cyflawni'r ymgyrch, a dim ond fel tîm y gallwn wneud hynny.
A dyma'r sgiliau sydd eu hangen arnom fel Tîm Marchnata y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Rwy'n credu bod rhaid i chi fod yn hynod hynod drefnus, mae angen i chi fod yn greadigol, mae angen i chi fod yn dda iawn iawn am wrando, a gwrando ar beth mae pobl ei angen, gwrando ar eu problemau efallai a'u heriau a cheisio eu datrys. A llawer o egni ac agwedd bositif.
MARK WARNE:
Mewn gair, heb nawdd, ni fyddai'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn gallu digwydd o gwbl. Yn ei hanfod, mae angen i ni fod yn cyflenwi neges unol a chyson i bob un o'n 48 o Bartneriaid, ac mae yna 18 ohonom yn y tîm, felly os ydym i gyd yn rhoi atebion gwahanol i bob un o'r Partneriaid, ni fuasem yn gallu cyflawni'n gwaith mor effeithiol.
Rwy'n credu bod ein tîm yn arbennig o dda am wneud hyn, a thra bod gennym hierarchiaeth benodedig, gall hyd yn oed y person ar waelod y tîm siarad gymaint â'r person ar y brig, ac rwy'n credu bod hynny'n creu perthynas wych drwy'r tîm, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei amlygu ym mhob agwedd o'r busnes.
JAN MATTHEWS:
Cychwynais 18 mis yn ôl, a dyna lle'r oeddwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi tyfu'n dîm o tua 15. Erbyn amser y Gemau bydd gennyf 140 yn fy nhîm. Yna yn rhan o'r tîm rhangach mae'r arlwywyr, glanhawyr, gweithwyr gwastraff. Felly bydd cyfanswm ein tîm tua 24,000. Byddwn yn darparu 14 miliwn o brydau bwyd yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, felly hon fydd yr ymgyrch arlwyo fwyaf yn hanes amser heddwch y byd.
Mae angen i chi sylweddoli eich bod yn dod â phobl i'r tîm i gyflawni swydd benodol a bod pob un yn dod â'i sgiliau ei hun, a'i wybodaeth a'i brofiad ei hun i'r tîm.
Os gallwch eich amgylchynu'ch hun gyda phobl dda a phenodi penaethiaid da i gyflawni gwaith da gan ddisgwyl iddynt gyflawni gwaith da, yna mewn gwirionedd maent yn llwyddo - rwyf i'n llwyddo.
CERDDORIAETH













