Rydym eisiau i bawb allu defnyddio Bydd Barod mor gyflawn â phosibl, waeth befo pa dechnoleg maen nhw'n ei ddefnyddio, eu sgiliau TG neu allu personol.
Anghenion defnyddwyr
Wrth ddylunio'r wefan hon, rydym wedi ystyried anghenion:
- Plant a phobl ifanc gydag Anghenion Addysgol Arbennig
- Plant a phobl ifanc gyda nam gweld, clywed neu symud
- Plant a phobl ifanc gydag anawsterau darllen megis dyslecsia
- Plant a phobl ifanc nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
- Plant a phobl ifanc o amrywiol gefndiroedd diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol.
Yn ein gwefan ceir nifer o wahanol nodweddion i helpu defnyddwyr o bob gallu i gael mynediad i wybodaeth ac i ymwneud â Gemau Llundain 2012.
Dyma rai canllawiau i gael y mwyaf o'r wefan.
Cefnogaeth porwr hysbys
Mae'r wefan hon yn gweithio ar ystod eang o borwyr a systemau gweithredu. Mae hi wedi cael ei phrofi'n benodol ar gyfer:
Windows
Firefox 1.5+
Internet Explorer 6+
Netscape 7.2+
Opera 8+
Macintosh
Firefox 1.5+
Netscape 7.2+
Opera 8+
Safari 1.3+
Chwyddo testun
Os ydych yn ei chael hi'n haws gweld gwybodaeth mewn ffont mwy na ffont safonol y tudalennau hyn, gallwch addasu'ch porwr i ddarparu testun o faint mwy gan ddefnyddio'r allweddi + a - ar frig pob tudalen.
Darllen tudalennau'n uchel
Os yw'n well gennych wrando ar gynnwys y tudalennau, yn syml, cliciwch ar ddolen 'Gwrandewch ar y dudalen hon' ar frig pob tudalen. Gallwch hefyd gadw cynnwys sain y tudalennau hyn fel ffeil MP3 fel y gallwch wrando arnynt eto.
Newid lliwiau
Dewiswyd y lliwiau a ddefnyddir yn y wefan hon i ddarparu'r cyferbynnedd mwyaf ac i leihau'r anhawster i'r rhai hynny â gwahanol fathau o ddallineb lliw.
Gall newid lliw cefndir gwefan fod yn ddefnyddiol i bobl sy'n dibynu ar dechnoleg chwyddo, oherwydd gall gwyn greu llacharedd anghyfforddus. Mae hefyd yn bosibl newid lliw corff y testun yn y wefan.
Gellir gwneud y ddau beth trwy newid dewisiadau yn eich porwr. Mae gwefan y BBC yn rhoi arweiniad manwl ar sut i wneud hyn ar gyfer pob porwr a system weithredu. Gweld canllawiau My Web My Way y BBC .
Cynllunio gweledol
Mae'r wefan hon yn defnyddio dalenni arddull rhaeadrol (CSS) ar gyfer y cynllun gweledol. Os nad yw eich porwr neu eich dyfais bori'n cefnogi dalenni arddull o gwbl, bydd cynnwys pob tudalen yn dal i fod yn ddarllenadwy.
Amlgyfrwng
Rydym wedi darparu nifer o glipiau fideo yn y wefan hon, i ddod â Llundain 2012 yn fyw i gynulleidfa ieuengach, fyddai efallai'n ei chael yn haws gweld na darllen yr wybodaeth.
Darperir clipiau fideo mewn Fflach a byddwch angen Flach fersiwn 8.0 neu uwch er mwyn eu gweld. Lawrlwytho Flash Player (meddalwedd am ddim).
Pan fo'n bosibl, rydym wedi darparu penawdau a thrawsgrifiadau o'r ffilmiau ar gyfer unigolion â nam ar y clyw neu sy'n gweld fersiynau testun yn gymorth. Ble gallwn, byddwn hefyd yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i fwyhau profiad y rhai â nam ar y clyw.
Gemau
Mae'r wefan hon yn cynnwys nifer o gemau rhyngweithiol. Mae y rhain wedi eu cynllunio mewn Fflach a byddwch angen Flach fersiwn 9.0 neu uwch er mwyn eu gweld. Lawrlwytho Flash Player (meddalwedd am ddim).
Cynlluniwyd y gemau i alluogi defnyddwyr i symud o'u cwmpas gan ddefnyddio'r bysellau tab yn hytrach na llygodaen.
Cynlluniwyd y gemau Trac Sain a Stori Mewn Lluniau yn benodol i gynorthwyo'r dysgwyr hynny sydd ag anghenion ychwanegol sylweddol. Mae nhw'n cynnwys trac sain ar gyfer rhai ag anawsterau cyfathrebu neu weld.
JavaScript
Defnyddir Javascript yn y wefan hon ond yn unig mewn modd sy'n raslon ddiraddiadwy - hynny yw, yn syml mae'n gwella defnydd yn hytrach na bod yn ofyniad gweithredu allweddol.
PDFau ac atodiadau
Ceir nifer o atodiadau PDF (Portable Document Format) ar ein tudalennau.
Mae fformat ffeil PDF yn fformat ffeil Rhyngrwyd gyffredin. Fe'i defnyddir ar gyfer dosbarthu electronig pan fo'n bwysig cadw cynllun a theimlad y ddogfen wreiddiol, yn cynnwys ffontau, lliwiau a delweddau. Mae o hefyd yn ddefnyddiol oherwydd gellir ei ddefnyddio ar nifer o wahanol fathau o gyfrifiaduron a phorwyr.
Yn gyffredinol rydym yn defnyddio PDFau ar y wefan hon ar gyfer cyhoeddiadau, taflenni a ffurflenni swyddogol.
I weld atodiadau PDF, gallwch lawrlwytho darllenwr dogfen PDF. Mae nifer o wahanol fathau ar gael, ac mae Acrobat yn fath adnabyddus iawn. Gellir lawrlwytho nifer o ddarllenwyr PDF am ddim oddi ar y rhyngrwyd. Lawrlwytho Acrobat Reader (meddalwedd am ddim).
Yr ail ddewis yw defnyddio offeryn trosi PDF ar-lein. Gallwch ymweld â gwefan Adobe Acrobat, teipio cyfeiriad ffeil PDF a'i orchymyn i gyfieithu'r ffeil i fformat mwy darllenadwy tra eich bod yn disgwyl. Neu fe allwch e-bostio cyfeiriad y ffeil (neu'r ffeil ei hun) at Adobe, a byddan nhw'n e-bostio'r cyfieithiad yn ôl. Efallai na fydd y cyfieithiadau o'r ffeiliau hyn wedi cael eu fformatio mor glir â'r ffeil PDF wreiddiol. Defnyddiwch yr offeryn trosi Acrobat ar-lein .
Mae PDFau wedi dod yn fwy hygyrch trwy dechnolegau megis darllenwyr sgrîn, llywio trwy'r bysellfwrdd a ffyrdd gwell o weld deunydd ar sgrîn. Gallwch ganfod cyngor ar sut i ddefnyddio'r nodweddion hyn trwy wefan Adobe.
Defnyddio iaith heblaw Saesneg
Ar hyn o bryd mae'r wefan hon ar gael mewn Saesneg yn unig, ond bydd fersiwn Gymraeg yn cael ei lansio'n gynnar yn 2009.
Rhagor o gymorth ar ddefnyddio'r We Fyd-eang
Mae yna lwyth o gyngor ar-lein ar gael i helpu defnyddwyr o allu amrywiol i addasu eu sgriniau i'w siwtio nhw.
Mae'r BBC wedi gweithio gyda'r elusen hygyrchedd AbilityNet i ddatblygu canllaw cynhwysfawr i helpu pobl i ddarganfod y ffordd orau o ddefnyddio'r We, a gall y canllaw hwn fod yn gymorth i chi addasu'ch porwr i'ch siwtio chi orau. Gweld canllawiau My Web My Way y BBC .
Adborth
Mae gwneud gwefan yn hygyrch yn broses barhaus, ac mae gennym ragor o waith i'w wneud i gyrraedd y safonau yr ydym wedi eu gosod i ni'n hunain. Fodd bynnag, os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio'r wefan hon, neu os oes gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni drwy e-bost os gwelwch yn dda enquiries@london2012.com .
Y darlun ehangach
Mae ein polisi hygyrchedd gwefan yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i ddylunio hygyrch, ac i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn gyffredinol.
Mae'n ystod sy'n cynnwys sicrhau y ceir grŵp o bobl teg a chynrychioliadol yn ein gweithlu a'n cyflenwyr, i sicrhau y bydd yn hawdd i bawb symud o gwmpas y Parc Olympaidd a'r lleoliadau.
[[library_document::2913]]Ffeithiau Rhewllyd (7-11 oed)[[/library]]













