Addysgwyr - ymunwch â ni. Does dim i'w golli - a chymaint i'w ennill.
Mae cofrestru â rhaglen Bydd Barod yn golygu y byddwch yn gallu:
- Dod â'ch disgyblion a'ch myfyrwyr i fod yn rhan o baratoadau Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 mewn modd sy'n ystyrlon i'w bywydau.
- Mwynhau adnoddau am ddim ar y wefan hon, gaiff eu hadnewyddu a'u hymestyn yn rheolaidd yn ystod y pedair blynedd nesaf.
- Derbyn anogaeth a chymorth ymarferol i gynorthwyo plant a phobl ifanc i arwain cais i fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod.
- Os bydd eich cais i fod yn rhan o'r rhwydwaith yn llwyddiannus, caiff eich ysgol/coleg ei chydnabod a'i gwobrwyo am y gwaith rhagorol yr ydych eisoes yn ei wneud. Gall eich ysgol/coleg gael mynediad i 'frand dysgu' arbennig Llundain 2012 - y tro cyntaf erioed yn hanes y Gemau i sefydliadau dysg gael eu cydnabod yn y modd hwn.
- Datblygu dealltwriaeth ddofn o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, sef parch, cyfeillgarwch, rhagoriaeth, dewrder, penderfyniad, cydraddoldeb ac ysbrydoliaeth, a defnyddio'r Gwerthoedd hyn fel offeryn addysgu, dysgu a chynllunio unigryw.













