• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Dolenni allanol

Dysgwch fwy am y Mudiadau Olympaidd a Pharalympaidd. Ewch i ymweldâ'r wefannau isod:

Llundain 2012

Gwefan swyddogol Gemau Llundain 2012.

Y Teulu Olympaidd

COP yw'r seydliad sy'n gyfrifol am arwain a pharatoi TeamGB ar gyfer y Gemau Olympaidd ac mae'n gyfrifol am ddatblygu'r Mudiad Olympaidd drwy'r DU.

Fel cangen elusennol Cymdeithas Olympaidd Prydain, mae'r SOP yn hyrwyddo addysg Olympaidd a'r Gwerthoedd Olympaidd ymysg pobl ifanc ar draws Prydain.

Mae'r PORh yn goruchwylio gwaith trefnu Gemau Olympaidd yr Haf a'r Gaeaf.

Y Teulu Paralympaidd

Gallu vs Gallu yw rhaglen Addysg Baralympaidd swyddogol Cymdeithas Baralympaidd Prydain, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â NASUWT.

Mae CBP yn gyfrifol am ddethol, paratoi, cofrestru, ariannu a rheoli timau sy'n cystadlu yn y Gemau Paralympaidd ac yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf.

Mae'r PPRh yn goruchwylio ac yn cydlynu Gemau Paralympaidd yr Haf a'r Gaeaf a chystadlaethau eraill yn cynnwys Pencampwriaethau Byd a Rhanbarthol mewn 13 o gampau.

Mae ParalympicSport.TV yn sianel deledu am ddim o safon uchel a ddarlledir ar y Rhyngrwyd. Nod ParalympicSport.TV yw darparu cynnwys amrywiol o'r byd Paralympaidd.

Mae Parasport yn fenter ar y cyd rhwng CBP a'r cwmni gwasanaethau proffesiynol, Deloitte. Mae'r prosiect eisoes yn helpu i greu cyfleon chwaraeon i bobl anabl ar hyd a lled y DU, gan gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ar lefel gymunedol.

Rhaglenni Partner eraill

Athletwyr elît Olympaidd, Paralympaidd ac o Chwaraeon Byd-eang ar gael i'w bwcio am ymweliad unigryw i ysbrydoli pobl ifanc. Mae athletwyr cofrestredig yn cael eu sgrinio ar gyfer y profiad o ymweld a chodir ffi fechan arnynt. Dysgwch fwy a bwciwch athletwr i fynychu diwrnod chwaraeon eich ysgol, nosweithiau cyflwyno, sesiynau holi ac ateb yn y dosbarth a mwy.

Cynlluniwyd Ymgyrch Byd Gwell BT i'ch helpu i fod yn well cyfathrebwr. Mae yna lwythi o adnoddau am ddim a chyfleon gwych ar gael i bawb sy'n ifanc.

Mae Menter Cyflogadwyedd Deloitte yn cynorthwyo colegau addysg bellach i gyflwyno sgiliau cyflogadwyedd i'w myfyrwyr ochr yn ochr â hyfforddi galwedigaethol mewn unrhyw sector. Bydd naw o Ganolfannau Cyflogadwyedd Deloitte yn hyfforddi 800 o athrawon AB sydd yn eu tro yn cynnal cyrsiau cyflogadwyedd ar gyfer 40,000 o bobl ifanc.

Yr APYTh yw'r adran sy'n arwain ar gyflawni etifeddiaeth addygol Gemau Llundain 2012.

Dysgwch fwy am raglen Gwyddoniaeth Fentrus BP, ac am sut y gall ychwanegu gwerth i'ch dysgu Gwyddoniaeth.

Gwefan swyddogol Maer Llundain ac Awdurdod Llundain Fwyaf.

Podiwm yw Uned AB ac AU Gemau Llundain 2012.