• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

Dyma'r cwestiynau a ofynnwyd amlaf yn ystod cyfnodau ymgynghorol rhaglen Bydd Barod:

A fydd ein cydnabyddiaeth o fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod yn gwella'r gwaith yr ydym eisoes wedi ymrwymo iddo yn ein dogfennau cynllunio?

Bydd, adeiladwyd y rhaglen ar y sail fod ysgolion a cholegau i'w cydnabod am y gwaith rhagorol a wnant eisoes; gwaith y gellir ei ddangos fel gwaith sy'n adlewyrchu rhai neu'r cyfan o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd integreiddio'r Gwerthoedd hyn i'ch holl gynlluniau ysgol a'u gweithredu yn rhoi canolbwynt a chyfle i ddysgwyr afael yn yr awennau. Yn sicr, nid yw hyn ynglŷn ag ail-ddyfeisio'r olwyn.

Ewch i adran Astudiaethau achos y safle i weld enghreifftiau o sut y gall hyn weithio ar gyfer eich ysgol.

Ai ynglŷn â chwaraeon yn unig y mae Bydd Barod?

Na. Defnyddia Bydd Barod 'effaith tyrbochwythiad' Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 i ysbrydoli plant a phobl ifanc i gyflawni pethau newydd a chyffrous yn eu cymunedau addysgol a chymdeithasol eu hunain. Gall hyn gynnwys prosiectau seiliedig ar y celfyddydau, gweithgareddau amgylcheddol, creu cysylltiadau newydd ag ysgolion eraill, cymryd y cam cyntaf parthed parch neu gyfeillgarwch... mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd. Darperir yr echel i'r cyfan trwy ganolbwyntio ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd - yn hytrach na'r chwaraeon eu hunain.

Ewch i'r Astudiaethau achos am enghreifftiau o'r prosiectau 'Seiliedig-ar-werthoedd' a ymgymerwyd â hwynt eisoes gan ysgolion a cholegau.

Ysgol gynradd fechan, wledig ydym ni, filltiroedd o Lundain - beth sydd a wnelo Llundain 2012 â ni?

Mae gan y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd le canolog ym mhob ysgol, ac yn gallu rhoi canolbwynt adfywiol ar gyfer addysgu, dysgu a gwella. Mae gwerthoedd fel cyfeillgarwch, parch, cydraddoldeb, penderfyniad a rhagoriaeth yn berthnasol i bob ysgol, a gall hyd yn oed y plant ieuengaf ddeall beth yw eu pwysigrwydd. Ceir hefyd ddiweddariadau rheolaidd ar fideo ynglŷn â'r datblygiadau yn y Parc Olympaidd a'r bobl tu ôl i'r llenni.

Faint o amser a gymer hyn oll?

Cyn gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Mae rhaglen rhwydwaith Bydd Barod yn hyblyg dros ben, a gellir cwblhau'r gweithgareddau a'r cynlluniau o fewn amser cwricwlaidd, amser tiwtorial neu fel diwrnod arbennig pan y gohirir amserlenni arferol. Gallwch gymryd yr holl amser a ddymunwch i gwblhau pob cam o'ch cais, gan ymorol bod disgyblion yn arwain pan fo hynny'n bosibl.

Beth yw ei gost?

Dim. Mae cofrestru ar gael am ddim i ysgolion, colegau a lleoliadau cysylltiol. Mae holl ddeunyddiau gwefan Bydd Barod am ddim.

Ewch i'r adran gofrestru am fwy o fanylion.

Rwy'n athro mewn Ysgol Arbennig sy'n darparu ar gyfer plant 2-19 oed sydd ag ystod o anghenion addysgol arbennig neilltuol ac anableddau neilltuol. Beth all Bydd Barod ei gynnig i mi?

Mae gan tîm Bydd Barod ymrwymiad cadarn i gynnwys yn y rhaglen blant a phobl ifanc rhwng 3-19 oed. Eisoes yn y wefan hon ceir tair gêm a luniwyd yn benodol ar gyfer plant o bob oedran sydd ag anghenion ychwanegol:

•Paru'r Sŵn
•Trac Sain
•Stori Mewn Lluniau

Ychwanegir rhagor o ddeunyddiau yn rheolaidd.