• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel

Y Gemau Paralympaidd

Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Byddwch barod am lawer o gyfleon cysylltiedig â'r Gemau Paralympaidd! Caiff y rhaglenni hyn eu cynnal gan bartneriaid Llundain 2012.

Plant Egnïol Sainsbury’s

7f326872537d470dae9dd05a1d496a0f.jpg

Mae Plant Egnïol yn ôl am flwyddyn arall, ac yn barod i wneud y mwyaf o flwyddyn chwaraeon fwyaf y DU.

Plant Egnïol Sainsbury’s

Mwy am y rhaglen

Mae Plant Egnïol yn dychwelyd yn 2012 er mwyn helpu i gael hyd yn oed mwy o bobl ifanc o bob oed a gallu i ddilyn ffyrdd o fyw iachach a mwy egnïol. Gyda miloedd o ddarnau o offer a llwyth o brofiadau egnïol ar gael, sicrhewch bod eich ysgol wedi ei chofrestru.

Ar gyfer pwy mae hyn?

rhai 3-18 oed yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Dewch i ddarganfod mwy nawr

Her 1 miliwn o blant

dc84ba4b9dbdbeb3bc706dd6cc89a00e.jpg

Mae Sainsbury’s yn annog 1 miliwn o blant i roi cynnig ar gamp Baralympaidd!

Her 1 miliwn o blant Sainsbury’s

Mwy am y rhaglen

Fel noddwyr balch Gemau Paralympaidd Llundain 2012, mae Sainsbury’s yn annog 1 miliwn o blant o bob gallu i roi cynnig ar gamp Baralympaidd. Mae Sainsbury’s yn cynnig cyfle i bob ysgol sydd wedi cofrestru â Phlant Egnïol dderbyn cit offer am ddim i roi cynnig ar Bêl-gôl, Pêl-foli Eistedd a Phêl-droed Dall.

Ar gyfer pwy mae hyn?

Ysgolion cynradd ac uwchradd yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sydd wedi cofrestru â Phlant Egnïol.

Dewch i ddarganfod mwy nawr

Parachwaraeon Deloitte

99e92e60434eba4a853af39a6883d41f.jpg

Mae Parachwaraeon yn rhaglen gyffrous sy’n cael ei chynnal gan Deloitte. Dewch i ganfod mwy am gymryd rhan mewn chwaraeon anabl.

Parachwaraeon Deloitte

Mwy am y rhaglen

Dyluniwyd Parachwaraeon i ysbrydoli, addysgu, hysbysu a chyfeirio pobl anabl, a’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn chwaraeon anabl, i gyfleoedd o safon uchel. Mae Parasport yn anelu i’ch helpu i gyrraedd eich gorau glas.

Ar gyfer pwy mae hyn?

Unrhyw un yn y DU sydd â diddordeb mewn chwaraeon anabl.

Dewch i ddarganfod mwy nawr

Gwaddol Mandeville

ebfcf981759b8191c2898855242b06ca.jpg

Dewch i ddysgu mwy am sut y cychwynodd y mudiad Paralympaidd a dathlwch!

Gwaddol Mandeville

Mwy am y rhaglen

Ymchwiliwch i stori sut y cychwynodd y mudiad Paralympaidd yn Uned Asgwrn Cefn Ysbyty Stoke Mandeville yn Ne Ddwyrain Lloegr. Sut yr ysbrydolodd dulliau un dyn arloesol o drin cleifion ag anafiadau asgwrn cefn yn y 1940au fudiad chwaraeon gydag arwyddocad rhyngwladol anferthol.

Ar gyfer pwy mae hyn?

Myfyrwyr yn y DU a hoffai ddysgu mwy am wreiddiau’r Gemau Paralympaidd

Dewch i ddarganfod mwy

Diwrnod Ysgol Paralympaidd

d6675171d7c0bf53dcdc60cfe3a11f8e.jpg

Rhaglen addysg sy’n anelu at greu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth mewn ysgolion am bobl ag anableddau.

Diwrnod Ysgol Paralympaidd (DYP)

Mwy am y rhaglen

Mae DYP yn rhaglen hyblyg iawn sy’n offeryn i drosglwyddo gwybodaeth am anabledd a’r Mudiad Paralympaidd.

Mae’n cynnwys set o weithgareddau sy’n addysgu pobl ifanc ynglŷn â chwaraeon Paralympaidd, gwahaniaethau unigol a materion ynglŷn ag anbledd mewn awyrgylch hwyliog. Yn draddodiadol, trefnir y gweithgareddau hyn yn ystod diwrnod ysgol arferol.

Ar gyfer pwy mae hyn?

Pobl ifanc rhwng 6 a 15 oed.

Dewch i ddarganfod mwy

ParalympicSport.TV

4414d5a699daac106ec32b63429b85fa.jpg

Sianel deledu ar-lein Y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol

ParalympicSport.TV

Mwy am y rhaglen

Gwyliwch Chwaraeon Paralympaidd o safon rhyngwladol ar-lein, dysgwch fwy am yr athletwyr Paralympaidd gorau a phrofi gwefr y Gemau Paralympaidd.

Ar gyfer pwy mae hyn?

rhai 11 – 19 oed o bob rhan o’r DU

Dewch i ddarganfod mwy nawr