Ffyrdd o fyw'n iach ac egnïol
Oeddech chi'n gwybod?
SmallSteps4Life
Helpu pobl ifanc i ymgymryd â heriau cyraeddadwy yn ymwneud â themâu bwyta’n iach, bod yn egnïol a theimlo’n dda.
SmallSteps4Life
Mwy am y rhaglen
Mae SmallSteps4Life yn cefnogi pobl ifanc i gymryd camau syml at wella eu iechyd a’u lles. Wedi ei hysbrydoli gan bobl ifanc, mae’r rhaglen yn eu hannog i gymryd yr awenau, i rannu profiadau ac i wneud eu gorau i fwyta’n iach, bod yn egnïol a theimlo’n dda
Ar gyfer pwy mae hyn?
rhai 3-19 oed o bob rhan o’r DU
Dewch i ddarganfod mwy nawr
http://www.direct.gov.uk/smallsteps4life
Awn i Goginio o Gwmpas y Byd
Ffordd hwyliog ac ymarferol o ddysgu ieithoedd trwy ddefnyddio rysetiau iach o wahanol wledydd sy’n cymryd rhan yng Ngemau Llundain 2012.
Awn i Goginio o Gwmpas y Byd
Mwy am y rhaglen
Mae coginio rysetiau iach a ysbrydolir gan wledydd sy’n cymryd rhan yng Ngemau Llundain 2012 yn ffordd hwyliog ac ymarferol o ddysgu ambell air mewn iaith arall. Mae’r rysetiau a’r syniadau cyfieithiedig yma ar gyfer digwyddiadau coginio cymunedol yn ffordd wych o ennyn diddordeb yr ysgol gyfan.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Athrawon, rhieni a phobl ifanc o bob oed ar hyd a lled y DU
Cynllunio Fy Egwyl
Cystadleuaeth GE i roi cyfle i bobl ifanc i gynllunio eu hegwyl canol dydd delfrydol ac ennill tocynnau i’r Gemau Olympaidd
Cynllunio Fy Egwyl
Mwy am y rhaglen
Mae cystadleuaeth cynllunio fy egwyl GE yn gyfle i bobl ifanc feddwl am eu syniadau eu hunain ynglyn â‘r egwyl canol dydd gan fanteisio ar ei botensial llawn ar gyfer gwella hunan-les emosiynol yn ogystal ag annog bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol.
Ar gyfer pwy mae hyn?
rhai 11-14 oed o bob rhan o’r DU
Mwy o wybodaeth
www.designmybreak.co.uk
Goleuo’r Ffordd
Rhaglen Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd dan law arweinwyr ifainc wedi ei chanoli ar weithgaredd corfforol ac iechyd.
Fflamau: Goleuo’r ffordd
Mwy am y rhaglen
Mae fflamau’n ysbrydoli, cymell a chodi brwdfrydedd pobl ifainc i fod yn fwy egnîol yn defnyddio’r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd. Hyfforddir arweinwyr ifainc i gyflwyno rhaglen o weithgaredd corfforol gynhwysol ar gyfer plant a phobl ifainc gyda’r uchafbwynt mewn gŵyl Fflamau.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Plant a phobl ifainc 4-19 oed ar draws y DU













