• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel

Dysgu ymarferol

Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Rydym eisiau defnyddio Gemau Llundain 2012 i ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn dysgu ymarferol.

Yn y Parth

3276ae5dacdaebd37bad6977efccc2b4.jpg

Pecynnau arbrofi am ddim yn gysylltiedig á‘r cwricwlwm ar gyfer holl ysgolion a cholegau’r DU – gwyddoniaeth ymarferol yn archwilio’r meddwl a symudiad y corff.

Yn y Parth

Mwy am y rhaglen

Yn y Parth yw menter genedlaethol yr Ymddiriedolaeth Groeso sy’n cysylltu gwyddoniaeth â‘r Gemau i bawb yn 2012.

Bydd pecynnau arbrofi am ddim yn orlawn o offer, arbrofion a chynlluniau dysgu yn cael eu postio yn gynnar yn 2012 i bob ysgol a choleg yn y DU i helpu rhoi bywyd i wyddoniaeth yn y dosbarth.

Bydd arddangosfa deithiol am ddim yn teithio i bob rhan o’r DU gan ymgysylltu pobl á gwyddoniaeth y corff dynol.

Ar gyfer pwy mae hyn?

Mae’r pecynnau arbrofi ar gyfer ysgolion yn y DU gyda myfyrwyr rhwng 4 a 19 oed. Mae’r arddangosfa deithiol ar gyfer pob oedran.

Dewch i ddarganfod mwy

Ysbrydoliaeth Dylunio

b182057d9bcfcc4727e95b9e6c164074.jpg

Mae Ysbrydoliaeth Dylunio’n adnodd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain er mwyn i fyfyrwyr ymgysylltu â phensaerniaeth Llundain 2012 trwy heriau dylunio, gwybodaeth a delweddau.

Ysbrydoliaeth Dylunio

Mwy am y rhaglen

Cyfres o gyflwyniadau ysbrydoledig gydag arweiniad yn archwilio adeiladu’r Parc Olympaidd, gan ddangos prosesau pensaerniol tra’n gosod gweithgareddau dylunio ymarferol i fyfyrwyr.

Mae’r adnodd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yn amlygu sgiliau dylunio allweddol, mae’n hyblyg ar gyfer anghenion dysgu ac addysgu, ac mae’n galluogi cysylltiadau mewn ardal leol.

Ar gyfer pwy mae hyn?

11-19 oed o bob rhan o’r DU

Dewch i ddarganfod mwy nawr

Gwyddonwyr Chwaraeon

ee886fca8e367cc1047689af5c79afbc.jpg

Digwyddiadau ac adnoddau am ddim i ysbrydoli pobl ifanc i fynd â‘u hastudiaethau gwyddonol ymhellach ac i ystyried gyrfa mewn gwyddoniaeth chwaraeon.

Gwyddonwyr Chwaraeon

Mwy am y rhaglen

Mae Gwyddonwyr Chwaraeon yn raglen allestyn ysgolion GlaxoSmithKline a ysbrydolir gan Gemau Llundain 2012.

Mae’n cynnwys cyfres o ddigwyddiadau i bobl ifanc ddysgu am y defnydd amrywiol a wneir o wyddoniaeth mewn chwaraeon ac adnoddau am ddim i gefnogi athrawon i gyflwyno gweithgareddau yn yr ysgol sy’n cysylltu dysgu gwyddoniaeth â pherfformiad chwaraeon a gwrth ddopio.

Ar gyfer pwy mae hyn?

rhai 11-14 oed o bob rhan o’r DU

Dewch i ddarganfod mwy

Cyrraedd y Gemau

7dca0c9e1acbceae22cf6c92bd7a3d54.jpg

Mae Cyrraedd y Gemau yn gobeithio ysbrydoli pobl ifanc i ystyried llwybrau gyrfa ymarferol a galwedigaethol

Cyrraedd y Gemau

Mwy am y rhaglen

Trwy roi cyfle i bobl ifanc ddilyn rhai o’r uniogolion talentog sy’n gweithio y tu ôl i lenni’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a dysgu am eu gyrfaoedd, mae Edge yn gobeithio dangos iddynt bod nifer o lwybrau at ddyfodol llwyddiannus

Ar gyfer pwy mae hyn?

rhai 14-16 oed o bob rhan o’r DU

Dewch i ddarganfod mwy nawr