> Go back to GetSet
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Arweiniad cam-wrth-gam i gynnal gweithgaredd

A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined offset: 0

Filename: components/_enterprise_nav.php

Line Number: 31

A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined offset: 0

Filename: components/_enterprise_nav.php

Line Number: 98

A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined offset: 0

Filename: components/_enterprise_nav.php

Line Number: 98

 

Darllenwch y canllawiau hyn i'ch helpu i wneud y gorau o'ch digwyddiad.

1. Cyflwynwch y gweithgaredd a dangos sleidiau 1-5.

Lawrlwythwch daflen weithgaredd i'ch helpu gyda'r gweithgaredd hwn

2. Cyn i chi ofyn i'r plant weithio mewn grwpiau bach i feddwl am syniadau ynglŷn â'r math o ddigwyddiad yr hoffent ei gynnal, efallai yr hoffech osod rhai canllawiau. Bydd hyn yn eu helpu i benderfynu beth sy'n bosibl. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych eisiau gwneud hyn fel ymarferiad go iawn.

Amserlen

  • Pryd fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal? A oes yna ddyddiad yn y dyddiadur y gall y plant anelu ato?
  • Faint o amser ydych am ei ganiatau? A ydych yn meddwl am gyfnod byr megis amser cinio neu ugain munud ar ôl ysgol, neu a ydych yn anelu am sesiwn hirach megis pryhnawn cyfan neu hyd yn oed gyfres o ddigwyddiadau?

Lleoliad

  • A ydych eisiau i'w syniadau fod yn gysylltiedig â'r ysgol neu a ydych eisiau iddynt fynd allan i'r gymuned neu wneud cysylltiadau ag ysgol arall?

Cyllideb

  • A oes yna unrhyw arian ar gael iddynt i'w ddefnyddio i gychwyn ar y prosiect?
  • A ydych eisiau iddynt godi arian at rywbeth penodol?

3. I roi syniadau i'r plant ynglŷn â'r math o ddigwyddiad y gallant ei gynnal, dangoswch sleidiau 6-11.

4. Edrychwch ar sleid 12 ac yna rhannu'r plant i grwpiau bach fel y gallant drafod eu syniadau.

Lawrlwythwch daflen weithgaredd i'ch helpu gyda'r rhan hon o'r gweithgaredd

5. Gwrandewch ar y cyflwyniad ac yna penderfynu ar y ffordd decaf o benderfynu ar y digwyddiad terfynol. Bydd sleid 13 yn helpu gyda hyn.

Lawrlwythwch daflen weithgaredd i'ch helpu gyda'r rhan hon o'r gweithgaredd

6. Nawr penderfynwch ar enw'r tîm. Gallech wneud hyn fel dosbarth cyfan neu ofyn unwaith eto i'r plant feddwl am syniadau yn eu grwpiau bychan ac yna pleidleisio fel dosbarth.

Lawrlwythwch daflen weithgaredd i'ch helpu gyda'r rhan hon o'r gweithgaredd

7. Nawr mae yna nifer o weithgareddau y gall pawb gymryd rhan ynddynt neu fel arall gallwch rannu'r dosbarth yn grwpiau a phennu gwahanol weithgareddau:

8. Wedi i chi gwblhau'r gweithgareddau a chynnal eich digwyddiad, cwblhewch y daflen werthuso

9. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i dîm Bydd Barod ynglŷn â'r hyn yr ydych wedi bod yn ei wneud trwy flogio am eich digwyddiad.