Yn y gweithgaredd hwn mae plant yn gweithio gyda'i gilydd fel Tîm Digwyddiadau Bydd Barod. Yr her iddynt yw cynllunio digwyddiad arbennig yn eu cymuned sy'n gysylltiedig â Gemau Llundain 2012.
Mae nifer o ysgolion yn rhwydwaith Bydd Barod yn awyddus i gynnal digwyddiad arbennig i ddathlu Gemau Llundain 2012, ac mae'r adnodd hwn yn darparu arweiniad cam-wrth-gam syml i'ch helpu i gynnwys eich digwyddiad arbennig fel rhan o addysg menter.
Mae'r gweithgaredd hwn yn cael ei argymell yn arbennig i blant rhwng 9 ac 11 oed. Gellid ei addasu ar gyfer plant iau.
Cyflenwi
Dyluniwyd yr adnodd ar gyfer cyflenwi hyblyg, naill ai dros gyfres o wersi byrion, neu fel diwrnod cyflawn.
Yn ddelfrydol, byddwch yn defnyddio'r adnodd i helpu'r plant feddwl drwy'r holl brosesau sydd ynghlwm wrth gynnal digwyddiad menter gymdeithasol go iawn.
Mae'r gweithgareddau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng cyflwyniad PowerPoint a gefnogir gan daflenni arweiniol a thaflenni gweithgaredd ar gyfer y plant fel y gallant ymarfer sgiliau menter craidd.
Cyflwyno'r gweithgaredd
Mae popeth sydd ei angen arnoch i gyflwyno'r gweithgaredd i'r plant yn gynwysiedig mewn Cyflwyniad PowerPoint byr. dolen goll.
Mae'r sgript isod ar gael yn y nodiadau sy'n rhedeg ar waelod y Cyflwyniad.
Mae trefnu digwyddiad mawr megis Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 yn dasg enfawr. Meddyliwch am yr holl swyddi sydd angen eu cyflawni cyn, yn ystod ac ar ôl y Gemau, a faint o bobl sydd ei angen i sicrhau fod popeth yn llwyddiant. Mae'n ymdrech tîm enfawr i sicrhau bod popeth yn barod yn brydlon.
Nawr yw eich cyfle i ddangos bod gennych y sgiliau i gynllunio digwyddiad cyffrous.
Nid ydym yn gofyn i chi gynnal digwyddiad byd-eang megis y Gemau ond rydym yn eich herio i gynnal digwyddiad hwyliog yn eich cymuned sy'n gysylltiedig â Gemau Llundain 2012.
Rydych chi a'ch ffrindiau yn mynd i ffurfio Tîm Digwyddiadau Bydd Barod.
Eich tasg gyntaf yn penderfynu sut fath o ddigwyddiad i'w gynnal.
Dyma rai syniadau i chi feddwl amdanynt:
- Gŵyl o gerddoriaeth neu theatr; cyfle i berfformwyr, ffrindiau a phobl sy'n byw yn agos i'r ysgol ddangos eu talentau
- Digwyddiad chwaraeon arbennig; gall hyn fod yn ddiwrnod o hwyl i'r teulu oll neu efallai gyfle i roi cynnig ar weithgaredd newydd neu sesiwn o gemau i'r teulu.
- Digwyddiad codi arian megis stondin gyfnewid neu ddigwyddiad noddedig ar gyfer rhywbeth sy'n agos iawn at eich calon.
- Digwyddiad ag iddo thema yn seiliedig ar fywydau pobl mewn gwlad arall; gallech hyd yn oed gysylltu ag ysgol mewn rhan arall o'r byd.
Dyma rai awgrymiadau yn unig a chi sydd i benderfynu beth i'w wneud. Ond mae yna dri pheth pwysig i'w pwysleisio:
1. Sicrhewch fod cynaliadwyedd wrth galon eich digwyddiad. Mae hyn yn golygu eich bod wedi meddwl am effaith yr hyn a wnewch ar yr amgylchedd - hyd yn oed mewn ffyrdd bychan. Er enghraifft, gall feddwl eich bod wedi gofyn i bobl eraill gerdded i'r digwyddiad, i rannu trafnidiaeth os oes raid iddynt deithio, neu eich bod yn defnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu pryd bynnag fo hynny'n bosibl.
2. Dylai'ch digwyddiad ddangos eich bod yn deall pwysigrwydd y Gwerthoedd Olympaidd o Barch, Cyfeillgarwch a Rhagoriaeth a'r Gwerthoedd Paralympaidd o Ddewrder, Penderfyniad, Ysbrydoliaeth a Chydraddoldeb. Sut fydd pobl yn cael profiad o'r rhain?
3. Mae'n rhaid i chi ddangos eich bod wedi meddwl am faint fydd yn ei gostio i gynnal eich digwyddiad. Am beth fydd angen i chi ei dalu amdano ac a ydych eisiau cael eich arian yn ôl?





