• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Geiriau Gorau

Mae Geiriau Gorau yn gêm farddonol newydd, ryngweithiol ar-lein a grewyd fel rhan o fenter ehangach i ddathlu a hyrwyddo barddoniaeth wrth i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 agosau.

Gan ddefnyddio geiriau o gronfa o farddoniaeth a ysbrydolwyd gan chwaraeon a delfrydau ac ysbrydoliaeth Olympaidd a Pharalympaidd, gall myfyrwyr weithio gyda'i gilydd i archwilio gwahanol fathau o farddoniaeth, ysgrifennu eu cerddi eu hunain a pherfformio eu gwaith gorffenedig o flaen eu dosbarth. Mae'r gêm yn cynnig dull newydd o ddysgu barddoniaeth yn y dosbarth ac yn tynnu barddoniaeth oddi ar dudalen o bapur.

Trwy wefan Geiriau Gorau, gall athrawon a myfyrwyr ddod â barddoniaeth yn fyw trwy Gynhyrchydd Geiriau Hap neu 'Ddewin Geiriau' sy'n cynhyrchu ystod o eiriau i fyfyrwyr ac athrawon weithio â hwy. Daw y geiriau o 'Gronfa Farddoniaeth' sy'n cynnwys nifer o gerddi a dyfyniadau barddonol a ddewiswyd gan feirdd ac awduron adnabyddus. Rhoddwyd y casgliad at ei gilydd i ysbrydoli sefydliadau barddoniaeth parhaus fydd yn cael eu lansio fel rhan o'r Parc Olympaidd yn 2012. Mae'r holl eiriau'n seiliedig ar themau a gwerthoedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

P'un a ydyw'n Haiku, Barddoniaeth Siâp neu Farddoniaeth Berfformio ar gyfer disgyblion cynradd, a Rap, Soned neu'r Llais Dychmygus ar gyfer disgyblion uwchradd, ceir cerddi i bawb. Pan fônt yn y safle, gall myfyrwyr ddarganfod mwy am y math o gerdd, ei hanes a'i chyd-destun cyn creu cerdd o'r gronfa eiriau. Mae cam olaf y gêm yn annog y myfyrwyr i roi bywyd i'w cerdd newydd trwy ei pherfformio, creu llun ohoni neu ei rhannu â ffrindiau.

Dewch i ddarganfod mwy

Cerdd wedi ei hysgrifennu gan ddisgybl Bl 7 o Globe Academy ar gyfer lansio digwyddiad Geiriau Gorau.

I was made to fly
Flying in the wind
It watches the generations of life
Gathered together to celebrate this special moment
Time runs out as they go
For sweet, glistening gold.