• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Trawsgrifiad ffilm perfformio

GSgg - WTW performance

Darllenwch drawsgrifiad ffilm ar gyfer ffilm perfformiad Croesawu'r Byd.

ESRA KILIC
Helô, Esra ydw i a chroeso i fy nghymuned. Rwyf yn byw yn un o Fwrdeistrefi Cynnal Llundain 2012, a dyma lle bydd rhai o gystadlaethau Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu cynnal. Rydym eisiu i chi fynd allan i'ch cymuned a rholi cyflwyniad ar gemau a digwyddiadau diwylliannol sy'n cael eu cynnal. Gall hyn fod yn bethau megis dathliad ysgol, drama neu hyd yn oed ddigwyddiad chwaraeon, megis Diwrnod Chwaraeon y Byd Llundain 2012. Rwy'n rhan o ysgol rhwydwaith Bydd Barod, ac mae gen i ddiddordeb mewn cyflwyno hefyd; felly rwyf am ofyn i'r enillydd medal Aur Olympaidd, Jonathan Edwards, beth sy'n gwneud cyflwynydd da. Helô Jonathan, Esra ydw i.

JONATHAN EDWARDS
Hia, da dy gyfarfod, sut wyt ti?

ESRA KILIC
Beth yw dy gynghorion gorau ynglŷn â chyflwyno?

JONATHAN EDWARDS
Rwy'n credu mai'r peth pwysicaf, a rwyt ti'n dda am wneud hyn, yw bod yn naturiol a bod yn chdi dy hun...a weithau gall hynny fod yn anodd. Pan mae gen ti ddarn i gamera, cofia ei ymarfer sawl tro a rhoi gwên fach, defnyddio'r dwylo, ac mae'n teimlo'n fwy naturiol. A'r peth arall hefyd, addasa dy ddull cyflwyno yn ôl ble'r wyt ti, mae hynny'n bwysig iawn.

ESRA KILIC
Sut ydych chi'n pratoi ar gyfer cyfweliadau?

JONATHAN EDWARDS
Yn gyntaf, paratoi rhai cwestiynau ymlaen llaw, ac ymchwilio i bwy bynnag wyt ti'n ei holi. Fel holwr, rwyt ti eisiau cael y gorau allan o'r sawl ti'n ei holi, rwyt ti eisiau i'w wyneb lawenhau, gwenu, a meddwl am y cwestiynau yr wyt wedi eu gofyn.
ESRA KILIC
Beth ydych yn ei feddwl yw'r peth gorau am fod yn gyflwynydd?

JONATHAN EDWARDS
Wrth fod yn gyflwynydd chwaraeon, rwyt yn cael bod yn yr holl ddigwyddiadau mawr. Rwyf wedi bod mewn Gemau Olympaidd ddwywaith fel cyflwynydd a'r holl brif bencampwriaethau sydd wedi cael eu cynnal a rwyt ti yno reit wrth ochr y trac, gen ti mae'r sedd orau, ti'n cael cyfweld â sêr fel Usain Bolt, sy'n anhygoel o cŵl. A rwy'n meddwl mai dyna'r peth gorau, gan dy fod reit yng nghanol y cyffro.

ESRA KILIC
Diolch yn fawr iawn am ddod heddiw, ac i bawb, diolch Jonathan am ddod yma. Mae partoi ymlaen llaw ac ymchwilio i'ch maes yn beth da i'r cyflwynydd allu egluro pethau megis ble mae'r lleoliad, pwy maent yn eu cyfweld, a beth yw cefndir eu stori. Brwdfrydedd! Byddwch yn angerddol am bob pwnc, p'un a yw'n dwmpath twrch daear neu'n fynydd. Byddwch yn eglur a chryno, gan ofalu ynganu'n eglur, a chyflwyno mewn ffordd fydd yn diddanu'r gwylwyr. Nid yw siarad a cherdded mor hawdd ag y mae'n edrych, cofiwch ymarfer! Mae yna gyfle arbennig i fyfyrwyr 16 a hŷn o ysgolion a cholegau rhwydwaith Bydd Barod. Crewch becyn ffilm hyd at 2 funud sy'n eich dangos yn cyflwyno digwyddiad chwaraeon neu ddiwylliannol ac fe fydd gennych gyfle i gael eich dewis fel cyflwynydd ifanc yn y Parc yn ystod y Gemau. Gall fod eich ysgol neu goleg wedi cofrestu â Bydd Barod ond gwiriwch ei bod wedi ymuno â rhwydwaith Bydd Barod. Os nad ydyw, gofynnwch i'ch ysgol neu goleg wneud cais. Trwy wneud pecyn ffilm a dangos eich bod yn cael eich ysbrydoli gan Gemau Llundain, mae eich ysgol neu goleg eisoes yn gymwys. Felly cofiwch beth ydym wedi ei weld yma heddiw, Bydd Barod i gyflwyno!