• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Trawsgrifiad ffilm

GSgg – WTW film

Darllenwch drawsgrifiad ffilm ar gyfer ffilm Croesawu'r Byd.

DANNY BOYLE

Bydd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn digwydd mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled y DU. Ac ym mhob un o'r lleoliadau hynny bydd sgriniau mawr fydd yn croesawu'r holl athletwyr a'r ymwelwyr fydd yn dod i'r DU ar gyfer y Gemau.

MYFYRIWR 1

Cawsom cyfarfod â'r cyfarwyddwr ffilmiau, Danny Boyle, sy'n gyfrifol am ffilmiau megis 127 Hours, Slumdog Millionaire a The Beach gyda Leonardo di Caprio. Mae wedi'n dysgu am sut all onglau saethu greu ac adeiladu awyrgylch eu hunain, ac y gall synnau hefyd wneud gwahaniaeth mawr. Os edrychwch ar ffilm arswyd mewn tawelwch, ni fydd yn codi braw arnoch o gwbl, oherwydd mae angen sain i wneud i chi neidio.

DANNY BOYLE

Gallwch greu eich byd eich hun drwy greu eich props eich hun a'ch gwisgoedd a phethau fel yna, ond y ffordd arall i wneud hynny yw mynd i rywle go iawn a ffilmio yno. Rydych yn gadael i'r lle go iawn eich ysbrydoli, a buaswn yn eich annog i wneud hynny os galwch.

MYFYRIWR 3

Mae wedi fy ysbrydoli gyda ffilm yr wyf yn ei gwneud ym mlwyddyn 11, sef y flwyddyn nesaf, felly rwyf am ddefnyddio rhai o'r syniadau ynglŷn â sain.

DANNY BOYLE

Ceir gwahanol fathau o luniau agos, ac maent yn bwtsig iawn. Gallwch ddefnyddio hynny, gallwch bron â gweld beth mae'n feddwl, neu rydych yn credu y gallwch. Mae'n ddiddorol gwylio athletwyr pan maent yn ennill ras, neu pan maent yn llwyddo i gyflawni nod. Mae gan y lluniau agos hyn rym anhygoel. Felly yn gyffredinol yn y sinema dylech gyfyngu ar ddefnydd o'r lluniau agos hynny, a'u defnyddio ar gyfer eiliadau gwirioneddol rymus yn unig. Mae gennych hefyd y cyferbyniad rhwng unigrwydd ymarfer, a'r llwyddiant mewn stadiwm. Me hynny'n newid hyfryd mewn deinameg. Fel rheol dyma sut y caiff drama ei greu, y newid mawr hwnnw, eich bod yn sydyn yn gweld wyneb Kelly Holmes [Danny'n ochneidio] a'i bod yn sylweddoli ei bod wedi llwyddo, y newid yn ei hwyneb, mae'n ffrwydro'n agored, a dyna beth rydym wrth ein boddau yn ei weld, rydym yn hoffi gweld y newidiadau dramatig mawr hynny. Rydym yn gobeithio ein bod wedi rhoi rhai syniadau i chi fan hyn, ac y byddwch yn gallu mynd i ffwrdd ac adrodd eich straeon eich hunain, a'n helpu i groesawu'r byd i Lundain 2012.