Darllenwch drawsgrifiad ffilm Bydd Barod am y Cymod Olympaidd.
Myfyriwr 1: Mae'r Cymod Olympaidd yn ymrwymiad rhwng yr holl wledydd i ddangos parch i'w gilydd, ac i fod yn heddychlon am saith diwrnod cyn ac ar ôl y Gemau.
Myfyriwr 2: Mae'r Cymod Olympaidd yn golygu uno'r byd a dod â gwledydd at ei gilydd, gan sicrhau bod pawb yn gyfartal.
Myfyriwr 3: Yn y bôn, parchu'n gilydd yw'r Cymod Olympaidd, cyn belled â bod yna barch nid wyf yn credu y bydd ffraeo rhwng gwledydd a thimau.
ADRODDWR:
Cynhaliwyd yr Hen Gemau Olympaidd cyntaf i gael eu cofnodi yng Ngwlad Groeg yn 776 CC.
Yn y dyddiau hynny, roedd yn rhaid i athletwyr, artistiaid a gwylwyr deithio ar draws rhanbarthau peryglus a hyd yn oed diriogaeth gelynion er mwyn cyrraedd Olympia.
Felly, penderfynwyd datgan heddwch rhyngddynt tra bod y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal, olygai y gallai pawb deithio'n ddiogel, cymryd rhan a bod yn gyfeillgar tuag at ei gilydd.
Cadwyd at y cytundeb hwn a chrewyd traddodiad y Cymod Olympaidd. Yn yr iaith Roegaidd, fe'i galwyd yn 'Ekecheiria'.
Ym 1992, ailgyflwynodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, ynghyd â'r Cenhedloedd Unedig, y Cymod Olympaidd, alluogodd athletwyr o hen Weriniaeth Iwgoslafia i gymryd rhan yng Ngemau Barcelona. Y flwyddyn ganlynol, gofynwyd i wledydd y byd arwyddo'r cytuniad Cymod Olympaidd cyntaf. Mabwysiadwyd hyn gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ac mae cytuniadau Cymod Olympaidd wedi bod yn rhan o Gemau Haf a Gaeaf ers hynny.
Yn 2012, bydd y DU yn cynnal y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Bydd hyd at 204 o dimau ar gyfer y Gemau Olympaidd a hyd at 170 o dimau ar gyfer y Gemau Paralympaidd o bedwar ban byd yn dod yma i gymryd rhan yn yr ŵyl anghygoel hon o chwaraeon a diwylliant.
Gall y Gemau ddangos i ni sut mae'r Cymod Olympaidd yn dod â phobl a chenhedloedd sy'n anghytuno â'i gilydd at ei gilydd, hyd yn oed os ydynt yn rhyfela, gan helpu i greu heddwch a chyfeillgarwch drwy chwaraeon.
[CERDDORIAETH]
ADRODDWR:
Felly, gan ein bod nawr yn gwybod beth yw'r Cymod Olympaidd, sut allwn ei ddefnyddio i newid ein bywyd bob dydd?
Myfyriwr 4: Gellir defnyddio chwaraeon i uno pobl o bedwar ban byd, gall pobl gymryd rhan mewn chwaraeon gyda'i gilydd a darganfod nad oes gaanddynt broblem gyda'r person, hil neu grefydd hwnnw mewn gwirionedd.
Myfyriwr 3: Yn y cyfnod modern mae'r Cymod Olympaidd yn golygu dod â'r holl wledydd at ei gilydd i gynnal y Gemau Olympaidd, oherwydd heb yr holl wledydd ni fyddai'r Gemau Olympaidd yr hyn ydynt.
Myfyriwr 5: Pryd bynnag fyddwch yn cymryd rhan mewn chwaraeon nid oes gwahaniaeth beth yw eich hil, crefydd neu eich gwlad. Rydych ond yn chwarae gyda'ch gilydd am eich bod yn caru'r gêm.
Myfyriwr 6: Petai hynny'n cychwyn cadwyn o bobl sy'n parchu ei gilydd gall hynny wedyn fynd o gwmpas y byd. Petai pobl yn parchu ei gilydd ni fyddai rhyfeloedd wedi digwydd o gwbl.
Myfyriwr 1: Os ydych yn gwybod mwy am y tîm arall gallwch eu parchu'n fwy a deall o ba gefndir y dônt, oherwydd mae chwaraeon yn dir gwastad, nid oes lleiafrifoedd mewn chwaraeon felly mae'n helpu pobl i ymuno â'i gilydd.
ADRODDWR:
Mae thema'r Cymod Olympaidd wedi ysbrydoli a dylanwadu ar bobl greadigol o bob rhan o'r byd. Mae artistiaid wedi peintio lluniau amdano, mae straeon a cherddi wedi cael eu hysgrifennu amdano.
Allwch chi feddwl pam mae'r Cymod Olympaidd yn bwysig i chi a sut mae syniad y Cymod Olympaidd wedi helpu i ddod â phobl at ei gilydd a gwneud y byd yn lle mwy heddychlon?
Myfyriwr 4: Rwy'n meddwl y byddai'n syniad da petaent bob blwyddyn yn ychwanegu diwrnod ychwanegol i'r Cymod Olympaidd, fel y byddai'n 8 diwrnod y flwyddyn nesaf cyn y Gemau Olympaidd ac yna 9 diwrnod cyn y Gemau Olympaidd canlynol, felly gydag amser bydd yna gymod hirach a hirach, a wyrach mewn nifer o flynyddoedd bydd pob diwrnod yn ddiwrnod cymod.
[LOGO] DIWEDD













