• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Trawsgrifiad-ffilm-gweithgaredd-Cymod-Olympaidd

Darllenwch drawsgrifiad ffilm Bydd Barod am y gweithgaredd Cymod Olympaidd.

[LOGO A CHERDDORIAETH]
MYFYRIWR 1
Gall chwaraeon ddod â phobl at ei gilydd trwy gael pobl i siarad â'i gilydd, gwneud ffrindiau a ballu.

MYFYRIWR 2
Mewn chwaraeon rydych yn dod at eich gilydd er gwaethaf popeth, yn chwarae mewn tîm gyda'ch gilydd a dyna yw holl hanfod y Gemau Olympaidd.

[CERDDORIAETH A THESTUN]

MYFYRIWR 3
Mae'r Cymod Olympaidd yn cynnwys pawb, nid un person yn unig. Sut ydych yn gwneud rhywbeth sy'n bwysig, nid beth ydych yn ei wneud.

[CERDDORIAETH A THESTUN]

MYFYRIWR 4
Byddant yn sylweddoli y gallwch ymuno â'r Cymod Olympaidd beth bynnag yw eich crefydd - nid oes gwahaniaeth.

MYFYRIWR 5
Gallant gael cystadlaethau rhwng pobl pan ydych yn dysgu am bobl eraill a'r hyn maent yn hoffi ei wneud.

[CERDDORIAETH A THESTUN]

MYFYRIWR 6
Gallech fynd i ysgolion cynradd a sicrhau eu bod yn dysgu am y math yma o bethau megis y Cymod Olympaidd, a'r ffaith bod yn rhaid i chi barchu pobl eraill i ennill y parch a ddymunwch.

MYFYRIWR 2
Bu i ni ymuno â'r clwb hoci yn Ballymena a bu iddyn nhw ddysgu sut i chwarae camogie a bu i ni ddysgu sut i chwarae hoci.

MYFYRIWR 7
Pan aethom yno nid oeddem yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan y genethod eraill, yna roedd pawb yn ffrindiau.
MYFYRIWR 2
Mae pawb yn gwneud ffrindiau gyda'i gilydd.

MYFYRIWR 7
Mae'n beth da oherwydd yn ein gwlad ni mae yna lawer o wrthdaro a bu i ni allu anghofio amdano a chymryd rhan yn y chwaraeon yr ydym yn eu caru, ac mae'n ysbrydoledig gan mai hyn maent yn ei wneud yn y Gemau Olympaidd.

[CERDDORIAETH A THESTUN]

MYFYRIWR 8
Mae ein prosiect drama yn dda oherwydd gallwn fynd i gymryd rhan mewn drama a rhoi ein gwahaniaethau i'r neilltu. Rydym wedi dysgu llawer gyda'r ddwy ddrama yr ydym wedi eu cynhyrchu. Gallwch wneud ffrindiau newydd a dweud wrthyn nhw beth ydych wedi bod yn ei wneud a beth ydych wedi ei ddysgu o hynny.

MYFYRIWR 1
Y ni yw'r grŵp dawnsio cyntaf i bobl ag anableddau yng Ngogledd Iwerddon.

MYFYRIWR 4
Rydym yn dangos i bobl os ydych yn anabl neu beidio y gallwch dal wneud beth mae pobl nad ydyn nhw'n anabl yn ei wneud. Efallai y byddwch yn ei wneud yn wahanol neu'n arafach, ond gallwch ddal wneud hynny.

MYFYRIWR 10
Rwy'n meddwl y dylem geisio gwneud wal Gymod fawr, gyda lluniau o wahanol fathau o bobl o wahanol gefndiroedd, lliw, hil a chrefydd.

MYFYRIWR 11
Mae yna lawer o ymladd yn y byd o hyd, dylai pobl ddod at ei gilydd mewn heddwch. Gallan nhw ddod at ei gilydd a mynd i'r afael â'r chwaraeon a wnânt orau.

[CERDDORIAETH A LOGO]