Darllenwch y trawsgrifiad o gyfweliad Bydd Barod Xavier Mohammed.
Helo! Mi chiamo Xavier Mohammed, sono nuotatore e vi presento il programma London 2012. [Helo, f'enw i ydi Xavier Mohammed, nofiwr ydw i ac rwy'n cyflwyno'r rhaglen London 2012].
Un o'r Eidal ydi Mam ac mae Dad o Trinidad.
Bûm yn byw yn yr Eidal am bum mlynedd - ysgol gynradd - ac arferwn nofio yno. Yno, yn yr Eidal, y dysgais y rhan fwyaf o'm sgiliau.
Pan ddois i i'r wlad hon cyfarfûm â fy hyfforddwr. Rwyf wedi bod gyda'm hyfforddwr er saith mlynedd, ac mae hynny'n gyfnod maith, a bu hi'n hyfforddwr rhyfeddol.
Mae cael y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain yn wirioneddol ryfeddol. Bydd yn gyfle unwaith-mewn-oes a bydd yn digwydd adref.
Pan fyddwch wedi nofio ras ac ar ei diwedd yn gwybod i chi wneud yn dda, hyd yn oed os na lwyddoch i gael GP a'ch bod yn gwybod i chi wneud yn dda, fe deimlwch yn... ni allwch ddisgrifio'r teimlad, mae mor rhyfeddol, y teimlad gorau erioed.
Rhaid i chi fod yn ddigon disgybledig i reoli'ch amser, bod yn benderfynol a brwdfrydig i barhau â'r gamp hyd yn oed pan nad yw pethau cystal... dim ond i ddal ati.
Tueddaf i annog rhai o'r nofwyr ieuengaf yn fy sgwad i ddal i ddod i ymarfer ac i gael trefn. Os dywedwch eich bod am ddod i wyth sesiwn yr wythnos, yna dewch i wyth sesiwn yr wythnos.
Cefais lawer o gymorth gan fy ysgol, mae fy ysgol yn gefnogol iawn i mi ac mae hynny'n beth da. Caf help gan fy athrawon pan fo ei angen arnaf.
Fy arwr mwyaf yw Ian Thorpe oherwydd ei fod yn nofiwr dull-rhydd rhyfeddol: mae'r hyn a wnaeth ym myd nofio yn anhygoel.













