• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Trawsgrifiad fideo Tom Daley - cyn Beijing

Siaradodd Tom Daley, y deifiwr Olympaidd, gyda Llundain 2012 am ei ddeifio cyn iddo fynd i Gemau Olympaidd Beijing 2008.

Tom Daley, 14 oed, ydw i, ac rwy'n ddeifiwr ac yn dod o Plymouth.

Pan fyddwch yn sefyll ar yr astell ddeifio byddwch yn teimlo'n bur nerfus os na fuoch i fyny yno ers tro, ac mae'n uchel iawn pan ewch yno. Rwy'n dal i fod yn bur ofnus pan af ar yr astell ddeifio uchaf.

Mae edrych dros yr ymyl yn eitha brawychus, ond rhaid ceisio sadio'ch hun, rydych wedi gwneud hyn o'r blaen a rhaid gweld y peth yn y meddwl, ac erbyn dod i sefyll ar ymyl yr astell rhaid gollwng eich hun a daw'r holl symudiadau i'ch canlyn.

Rwyf wedi taro fy mhen ar ochr y pwll ddwywaith. Unwaith gyda fy nhalcen wrth ddeifio ymlaen yn unig a tharo'r ochr wrth blymio, ac unwaith wrth ddeifio wysg fy nghefn trewais fy mhen, gwneud rhyw fath o dro cefn, ond yna glanio ar ochr y pwll ac yna i mewn i'r dŵr.

Ar fy niwrnodau rhydd af gyda'm ffrindiau i'r sinema. Treulio amser gyda fy nheulu. Peth da yw treulio amser gyda nhw pan fydd gennyf ddiwrnodau rhydd.

Tanni Grey-Thompson, Syr Steve Redgrave, maent oll wedi bod â rhan bwysig yn fy ngyrfa trwy roi cefnogaeth ymgynghorol i mi, ac hefyd bu fy nhad yn gefnogol iawn, yn fy nanfon i bob sesiwn ymarfer.

Mae yna lawer o bethau sy'n fy nghadw i fynd ac yn fy nghadw'n frwdfrydig ynglŷn â deifio, ac yn fy nghadw i fod eisiau mynd i'r Gemau Olympaidd.

Mae'r Gemau yn Llundain 2012 yn wirioneddol gyffrous i mi. Rwyf ar binnau eisiau cael gwybod a fyddaf yn gymwys i fynd i'r Gemau Olympaidd hynny, oherwydd byddant y Gemau Olympaidd mwyaf rhyfeddol i unrhyw un o Brydain fod ynddynt, yno'n cynrychioli eich gwlad yn un peth, a'i chynrychioli ar eich tomen eich hun a chael pawb yno i leisio'u cefnogaeth.

Byddai'n wych o beth pe bawn, yn y pen draw, yn gallu ennill y fedal aur gerbron fy mhobl fy hun.