• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Trawsgrifiad fideo Tom Daley - ar ôl Beijing

Tom Daley yn gorymdeithio yng ngorymdaith yr athletwyr yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008

Darllenwch drawsgrifiad o gyfweliad Bydd Barod gyda Tom Daley flwyddyn ar ôl ei brofiadau yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.

Mynd i fy Ngemau Olympaidd cyntaf oedd yr hyn a freuddwydiais amdano erioed. Ers yr oeddwn yn fachgen bach, rwyf bob amser wedi bod eisiau gwneud yn dda mewn chwaraeon, ond pan ddaeth y cyfle i mi allu mynd i'r Gemau Olympaidd, fe gydiais ynddo â dwy law a cheisio gweithio mor galed ag yr oedd yn bosibl i mi ei wneud.

I mi, y seremoni agor oedd yr uchafbwynt. Oherwydd, roedd mynd yno - eich Gemau Olympaidd cyntaf - nid ydych wedi cael profiad o'r Gemau olympaidd eto, ond eto rydych yn mynd i mewn yno ac yn cerdded o amgylch y trac gyda'r Team GB cyfan ac yn gweld pawb yn chwifio'i baneri Prydeinig - roedd yn anhygoel.

Roedd yn Bentref anferth. Wrth gerdded i mewn - byddech yn disgwyl iddo fod yn eithaf mawr ac mae yno lawer o dai a fflatiau ac yn y blaen. Ond wrth fynd i mewn yno, fe welwch gannoedd o adeiladau dros chwe llawr gyda rhandai ar ôl rhandai ac roedd yn hollol anferth. Ac roedd y neuadd fwyd yr un maint â phedwar cae pêl-droed - bwyd am ddim di-ddiwedd pryd bynnag yr oeddech ei eisiau! A roeddech yn cael rhannu ystafell gyda'r holl ddeifwyr ac roedd yr awyrgylch yn dda iawn.

Pan aethom i mewn yno, roeddem yn adnabod llawer o'r deifwyr o wledydd gwahanol beth bynnag, felly aethom i mewn yno gan ddymuno cyfarfod â phawb a siarad â phawb oherwydd roedd pawb yn y Pentref mor gyfeillgar. Roedd yna bob amser fan cychwyn i bob sgwrs. Ac roedd yn wirioneddol ysbrydoledig cael cerdded o amgylch y Pentref a gweld pobl gyda'u holl fedalau am eu gyddfau, ac mae'n eich llenwi ag awch i fynd i gipio un yn y Gemau nesaf.

Cefais gyfarfod â Chris Hoy, Rebecca Adlington, Victoria Pendleton - yr oeddwn wedi eu cyfarfod o'r blaen - roedd llwythi ohonynt allan yno, ac maent i gyd yn bobl gyfeillgar a'u traed ar y ddaear.

Mae'n eithaf brawychus meddwl bod Llundain mor agos nawr, a phan oeddem yn y seremoni gloi ac yn gweld y faner ei hun yn cael ei throsglwyddo i Boris... roedd yn eithaf brawychus meddwl 'dim ond pedair blynedd ar ôl nawr'... er ei fod yn gyfnod hir, mewn chwaraeon nid yw mor hir â hynny.

Rwyaf bob amser wedi credu mewn deifio, ac rwyf wedi teimlo'n angerddol tuag ato erioed, ac mae mynd yno i'r Gemau Olympaidd a methu ag ennill medal wedi fy llenwi ag awch i fynd yn ôl i ymarfer mor galed ag y gallaf er mwyn ennill medal aur yn y rhai nesaf.

Rwy'n teimlo'n eithriadol ffodus fy mod yn cael teithio o gwmpas y byd i gyd. Er bod pawb yn dweud "ti mor lwcus, mae gen ti fywyd mor dda"... ydyw, mae yn fywyd da, ond mae'n rhaid i chi weithio'n galed iawn. Fe ewch allan yno ac rydych yn ymarfer, ac nid ydych yn cael cyfle i weld llawer ar y llefydd. Fe ewch yno ac mae'n rhaid i chi fod yn y pwll deifio ddwywaith y dydd - nid oes gennych lawer o amser mewn gwirionedd i wneud unrhyw beth arall.

Ydwyf, rwyf yn dal yn yr ysgol, mae'n rhaid i mi sicrhau bod gen i drefn ar bopeth ac fy mod yn rheoli popeth. Mae'r athrawon yn dda iawn am y peth - maent yn rhoi gwaith i mi fynd gyda fi ac maen nhw'n fy helpu i ddal i fyny pan ddof yn ôl.

Mae 2012 wedi bod yn brif nod i mi wastad, felly rwyf yn wirioneddol edrych ymlaen ato ac ni allaf ddisgwyl i fynd yno a chael gymaint o hwyl â phosibl a gobethio ennill y fedal aur. Mae yna lawer o gystadlaethau rhwng nawr a hynny. Mae gennym Bencampwriaethau Byd, Gemau'r Gymanwlad a Chwpan y Byd - llawer o bethau gwahanol ar y gorwel. Felly mae'n rhaid i ni gymryd un cystadleuaeth ar y tro, ond Llundain 2012 yw'r prif nod.