• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Trawsgrifiad fideo Shelly Woods

Darllenwch drawsgrifiad o gyfweliad fideo gyda'r Paralympiad Shelly Woods.

Helo! Fi yw Shelly Woods ac rwyf yn rasio mewn cadair olwyn ac yn rasio mewn marathonau gan amlaf.

Dechreuais rasio pan oeddwn yn 15 mlwydd oed. Dw i bellach yn 22, felly dw i wedi bod yn rasio ers saith mlynedd bellach.

Yn y bôn roeddwn yn ferch ifanc egnïol iawn ac wrth fy modd gyda chwaraeon yn gyffredinol, a dechreuais rasio cadair olwyn pan yn 15 gan ddatblygu a gwella fwyfwy - a dyma fi!

Beijing fydd fy Ngemau Paralympaidd cyntaf a dw i'n awyddus iawn i fynd yno ac i rasio ac i wneud y gwaith yr wyf wedi ymarfer ar ei gyfer, a bod yno ar y trac. Fedra i ddim disgwyl, dw i'n meddwl y bydd yn rhyfeddol.

Fe fyddai'n 26 yn 2012 a gobeithio ar fy ngorau.

Os ydyw'n rhywbeth yr ydych wirioneddol eisiau ei wneud, peidiwch ag ildio oherwydd gydag ychydig o ymrwymiad a phenderfyniad fe wnewch chi gyrraedd y nod gyda dyfalbarhad gwirioneddol.

Y teimlad - does dim byd tebyg. Rydych yno, yn gwybod eich bod wedi gwthio'ch corff i'r eithaf wrth ymarfer, ac rydych wedi ymarfer mor galed mewn pob math o dywydd, ac rydych yn gwybod bod y cyfan wedi bod werth yr holl ymdrech. A'r ffaith eich bod wedi cyrraedd y nod a osodwyd gennych, ac wedi llwyddo: Mae'n deimlad mor rhyfeddol a dwi'n ei garu.

I mi, mae Kelly Holmes a Paula Radcliffe yn ddwy ddisglair, oherwydd popeth y maent wedi ei gyflawni mewn chwaraeon. Er gwaetha'r holl anafiadau, ni ildiodd Kelly Holmes, a phan enillodd y fedal aur am yr 800m yn Athen, ddaru hi ddim gorffwys na dathlu - aeth hi'n syth yn ôl ar y trac ac ennill y 1500m. Roedd yn rhyfeddol ei weld.