Mae Shelly yn siarad am sut brofiad yw ymarfer fel athletwraig Baralympaidd sy'n paratoi ar gyfer Llundain 2012.
Rwyf yn mwynhau rasio cadair olwyn oherwydd rydych yn mynd mor gyflym, mae'n her go iawn. Mae'n rhaid i chi gael stamina da, pŵer a chryfder, ond mae hi hefyd yn eitha tactegol, felly mae'n fath o gêm i'r meddyliwr.
Rwyf yn ymarfer pob diwrnod ar wahân i ddydd Sul. Mae'n amrywio o sesiynau yn y gampfa, i sesiynau ar y ffordd, ac ar y trac. Gan weithio ar eich cyflymder, eich pŵer a'ch stamina hefyd, felly mae'n gynhwysfawr iawn.
Rwyf yn bwyta llawer, mae'n rhaid i chi gadw at ddeiet iach. O ran ymarfer rwyf yn bwyta llawer o garbohydredau i sicrhau bod gennyf ddigon o danwydd i'm cynnal drwy'r sesiynau, yn nwediag pan fônt yn wirioneddol galed. Wedyn byddaf yn bwyta llawer o brotein i helpu'r cyhyrau ail-adeiladu eu hunain yn dilyn yr holl waith yr ydych wedi ei wneud.
Pe na bawn yn athletwraig, ni wn be fyswn i'n ei wneud, ond roeddwn wastad awydd bod yn feddyg neu'n Archwilydd Safle Trosedd. Ond o fy adnabod fy hun, fe fyswn yn debygol o ymddangos ar safle'r drosedd a difetha'r holl dystiolaeth!
Mae'r blynyddoedd nesaf yn ymwneud yn gyfangwbl â pharatoi ar gyfer 2012 a sicrhau fy mod yn y cyflwr gorau posibl. I mi fel athletwraig, af allan yno ac ymarfer i fod y gorau y gallaf fod, a dyna beth mae'r holl Baralympiaid yn ei wneud, felly rwy'n credu y dylai'r Gemau Paralympaidd fod yn gyfochrog â'r Gemau Paralympaidd. Mae safon yr athletwyr mor uchel, maent mor dalentog â'r athletwyr Olympaidd. Felly ni welaf bod unrhyw wahaniaeth o gwbl.
Pob tro y cymerais ran mewn rownd derfynol yn Beijing, roedd yna 80,000 o bobl yn y stadiwm. Roedd y dorf mor drydanol, ni allech glywed eich hun. Allwch chi ond dychmygu bod yn eich gwlad eich hun, a'r bobl hynny yn gwaeddi dostoch chi, felly mae'n fy nghyffroi drwyddaf.
Y cyfan sydd gennyf i'w ddweud wrth y bobl yw cefnogwch hyn ac ymunwch yn ysbryd y Gemau, oherwydd mae'n mynd i fod yn anferthol, ac mae'n beth gwirioneddol gyffrous ac nid yw'n digwydd yn aml iawn.
Os allaf ennill Aur yn Llundain, hynny fyddai pinacl fy ngyrfa.













