Darllenwch drawsgrifiad o gyfweliad Bydd Barod gyda Shanaze Reade cyn iddi gystadlu yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.
Shanaze Reade ydw i, rwy'n 19 oed ac rwy'n rasio BMX.
Dechreuais arni tua deng mlynedd yn ôl. Dechrau pethau oedd i'm hewythr fynd â mi i'r trac BMX lleol i wylio fy nghefndryd yn rasio, ac roeddent hwy yn cymryd rhan mewn digwyddiad rhanbarthol. Felly dyma fynd yno a gwylio, ac wedi'r ras gellid llogi beiciau, a dyma fi'n llogi beic am bunt ac rwy'n credu mai dyna'r bunt orau a weriais erioed!
Nid camp i'r gwrywod yn unig ydi rasio BMX, yn sicr. Yng nghategori'r gwrywod ym mhencampwriaeth y Byd roedd yno gymaint o enethod ag yr oedd yna o fechgyn. Chi enethod: does dim rhaid i chi fod yn swil, nac unrhyw beth fel'na. Unwaith y'i gwnewch am y tro cyntaf, yna fe ddiflanna pob ofn, felly ffwrdd â chi i roi cynnig arni a chael hwyl.
Cyn cychwyn pob ras rydw i'n llawn cyffro. Y noswaith gynt fe gaf, fel rheol, rhyw bedair neu bum awr o gwsg, oherwydd byddaf wedi ymarfer yn galed i gael fy hun i gyflwr gorau fy mywyd, a'r cwbl fydd arnaf ei eisiau fydd mynd allan yna i rasio.
Allwch chi ond gwneud eich gorau ac os mai trydydd neu bumed neu unrhyw safle arall yw eich gorau, fe gewch yr un teimlad o fodlonrwydd.
Rwy'n bencampwr byd ond edrychaf arnaf fy hun, ar raddfa o 1 i 10, rywle tua 6. Dywed fy hyfforddwr wrthyf yn barhaus fod llawer o weddau y dyliwn weithio arnynt ac mai dyna'r unig ffordd o wella a chynyddu. Pan enillais bencampwriaeth y Byd dywedodd fy nhaid fod yna rywun bob amser yn rhywle sy'n gyflymach na fi, ac mae hynny'n fy nghymell i wneud yn dda a rhwystro unrhyw un rhag fy nghuro.
Fel rheol, deffro tua hanner awr wedi saith, ymarfer am hanner awr wedi wyth (dyna'r sesiwn gyntaf), yna cael cinio, ac wedyn yr ail sesiwn o ymarfer, sy'n golygu dwy sesiwn y dydd a phob sesiwn yn para am oddeutu dwyawr.
Mae Kelly Holmes yn siŵr o fod yn un o f'arwyr chwaraeon oherwydd iddi gymryd cyhyd i ddringo ysgol llwyddiant. Ni roddodd y gorau iddi pan ddywedai pobl wrthi nad oedd gobaith ganddi mwyach. Daliodd ati a chyrraedd y nod yn y diwedd gan ennill dwy fedal aur.
Heb os, ei dycnwch a'i dewrder i ddal ati'n ddi-baid a'r ymdrech i ennill - ni allaf feddwl am unrhyw athletwr i'w gymharu â hi. Roedd darllen am Daley Thompson a'r sgarmesoedd a'r brwydrau a gâi gyda'i wrthwynebwyr yn ysbrydoliaeth gwirioneddol i mi.
Os nad ydych yn mwynhau yr hyn a wnewch pan fo'n tywallt y glaw, neu pan fyddwch yn agor y llenni yn y bore heb unrhyw awydd i fynd ar eich beic na rhoi eich esgidiau rhedeg am eich traed, yna ni fyddwch yn cyrraedd y nod. Y diwrnod y byddaf yn peidio mwynhau'r gamp fydd y diwrnod y byddaf yn ymddeol ohoni.













