• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Trawsgrifiad ffilm Shanaze Reade - paratoi ar gyfer Llundain 2012

Shanaze Reade yn troi cornel yn ystod Gemau Olympaidd Beijing 2008

Darllenwch drawsgrifiad o gyfweliad Bydd Barod gyda Shanaze Reade wrth iddi baratoi ar gyefr Llundain 2012.

I unrhyw un sydd eisiau bod yn Olympiad, mae'n golygu gwaith caled, ymroddiad, a'r peth sy'n gryfach na'r ddau yma yw mwynhad.

Fel rheol rwyf yn deffro tua hanner awr wedi saith, ymarfer am hanner awr wedi wyth, a dyna'r sesiwn gyntaf. Yna cael cinio a'r ail sesiwn o ymarfer.

Felly, fel rheol mae'n ddwy sesiwn o ymarfer bob dydd. Mae pob sesiwn yn para am tua dwy awr.

Mae Kelly Holmes wrth gwrs yn un o fy arwyr ym myd chwaraeon oherwydd iddi gymryd cyhyd i ddringo'r ystol ond ni roddodd y ffidil yn y to.

Ei phenderfyniad a'i dewrder i ddyfalbarhau drwy'r amser, a'r frwydr i ennill. Nid wyf yn credu bod unrhyw athletwr neu athletwraig arall yn cymharu â hynny.

Mae fy nhaid bob amser yn dweud bod yna rywun yn rhywle wastad rownd y gornel sydd yn gyflymach na chi. Mae hynny'n fy ysgogi i wneud yn dda, ac i beidio â gadael i neb fy nghuro.

Nid wyf wedi colli ras mewn deng mlynedd, ond mae siom bob amser yn rhan o yrfa athletwyr, ond i mi yr awch a'r penderfyniad i ennill sy'n bwysig.

Ond cyn i mi gychwyn rasio, rwy'n llawn cyffro, a'r noson cynt fe gaf rhyw bum neu bedair awr o gwsg fel rheol.

Rydych wedi ymarfer yn galed ac rydych ar eich gorau, rydych eisiau mynd allan a rasio!

Ar fore'r prawf amser ar gyfer fy nghamp, pan wisgais fy nghrys rasio, meddyliais, 'dyma ni' a dyna'r eiliad y teimlais y balchder mwyaf erioed, ac i sefyll yno a meddwl, adref, mae'n debyg bod fy nheulu yn teimlo mor falch ohonaf.

Rwyf wedi aeddfedu cymaint fel athletwr, ac fel person. Rwyf wedi ymdrin â'r holl bethau drwg a ddigwyddodd i mi yno, a cheisio'u troi yn bethau positif.

I ddechraumeddyliais, ni allaf roi fy hun drwy bedair blynedd arall i hynny ddigwydd i mi eto.

Meddyliais, nid oes gennyf y cryfder, ond maent yn dweud bod amser yn feddyginiaeth dda, ac roedd hynny'n bendant yn wir, a chymerais gam yn ôl ac edrych ar bopeth ac asesu fy mywyd a meddwl, pa fywyd gwell sydd na beicio bob dydd am fywoliaeth, beth arall all roi i mi yr un cyffro a mwynhad?

Ac yn ymwneud â BMX a beicio a chwaraeon yr wyf eisiau bod yn gyffredinol.

Mae gennyf awch mor gryf yn fy mol erbyn hyn i ennill medal aur, ac mae Chris Hoy a'i debyg, yn cyrraedd mawredd megis bod yn Syr, mae hynny i mi yn rhywbeth yr wyf yn dyheu amdano ac rwyf wirioneddol eisiau i hynny ddigwydd i mi, a nawr mae'n rhaid i mi gyflawni hynny.

Byddaf yn cystadlu mewn pedair cystadleuaeth yn y Gemau Olympaidd yn 2012, rasio BMX yn amlwg, ac yna seiclo trac a'r Gwibio, gobeithio yn erbyn Victoria Pendleton. Ac mae yna gystadleuaeth arall, BMX dull rhydd.

Felly mae yna bedwar cyfle yno i mi ac mae gen i lawer o waith gwenud i fyny ers China, felly mae gen i'r awch.