Darllenwch drawsgrifiad o gyfweliad Bydd Barod gyda Shanaze Reade flwyddyn ar ôl ei phrofiadau yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.
Ar fore'r prawf amser ar gyfer fy nghamp, pan wisgais fy nghrys rasio, meddyliais, "dyma ni" a dyna'r eiliad y teimlais y balchder mwyaf erioed. Ac i sefyll yno a meddwl - adref, mae'n debyg bod fy nheulu yn teimlo mor falch ohonaf.
Roedd y Pentref ei hun mewn lleoliad hollol hyfryd. Roedd y gwellt i gyd yn berffaith a'r holl randai yn cynnwys yr holl offer gorau. Mae'r neuadd fwyd yn cynnwys...me gennych eich bwyd Tsieineaidd yno, y bwyd traddodiadol arferfol, eich bwyd Indiaidd... mae'n arlwyo ar gyfer, wel, pawb o bob cefndir sydd allan yno.
Roedd yn wych i mi gael cyfarfod â rhai o'r athletwyr yr oeddwn yn arfer eu hedmygu. Dim ond 19 oed oeddwn i yn mynd i'r Gemau Olympaidd - mor ifanc - felly, i'ch person 19 oed cyffredin, pwy bynnag yr oedd yn ei edmygu, roeddynt yno i gyd. Felly i mi roedd yn arbennig.
Rwyf wedi aeddfedu cymaint fel athletwr, ac fel person. Rwyf wedi ymdrin â'r holl bethau drwg a ddigwyddodd i mi yno, a cheisio'u troi yn bethau positif. I ddechrau, meddyliais, ni allaf roi fy hun drwy bedair blynedd arall o hynny eto ac yn methu... wel, i hynny ddigwydd i mi eto. Meddyliais nad oedd hynny ynof i. Ac yna, wrth i amser fynd heibio - maen nhw'n dweud bod amser yn gwella popeth, ac mae hynny'n wir. Cymerais gam yn ôl ac edrych ar bopeth ac asesu fy mywyd a meddwl pa fywyd gwell sydd yna na reidio'ch beic am fywoliaeth? Be arall all roi i mi hynny a'r un cyffro a mwynhad? Ac yn ymwneud â BMX a beicio a chwaraeon yr wyf eisiau bod yn gyffredinol.
Mae gennyf awch mor gryf yn fy mol erbyn hyn i ennill medal aur, a Chris Hoy a'i debyg... i gyrraedd mawredd megis bod yn Syr a chael eich Urddo a... mae hynny i mi yn rhywbeth yr wyf yn dyheu amdano ac rwyf wirioneddol eisiau i hynny ddigwydd i mi, a nawr mae'n rhaid i mi gyflawni hynny.
Mewn gwirionedd byddaf yn cystadlu mewn pedair cystadleuaeth yn y Gemau Olympaidd yn 2012. Rasio BMX yn amlwg, ac yna seiclo trac a'r gwibio - gobeithio yn erbyn Victoria Pendleton. Ac yna mae yna un cystadleuaeth arall sydd newydd gael ei hychwanegu, sef BMX dull-rhydd. Felly oes, mae yna bedwar cyfle yno i mi ac mae gen i lawer o waith gwenud i fyny ers China, felly mae gen i'r awch.
Gelwir eleni, yn arbennig, yn flwyddyn ddatblygu. Felly beth bynnag sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn honno, os na enillir Pencampwriaethau Byd ar hyd y daith, rwyf eisiau o leiaf, ar ddiwedd y flwyddyn honno, allu meddwl - wel ni gipiais y teitl, ond yr hyn sydd gen i yw, rwyf wedi datblygu mewn meysydd nad oeddwn wedi datblygu erioed o'r blaen nac wedi edrych arnynt o'r blaen yn fy nghamp.
I unrhyw un sydd eisiau bod yn Olympiad: Mae'n golygu gwaith caled, ymroddiad, a'r peth sy'n gryfach na'r ddau yma yw mwynhad.













