Yn eofn a phenderfynol, rasiwr BMX ydi Shanaze Reade sydd eisoes yn ymarfer ar gyfer Gemau Llundain 2012.
Chwaraeon: Rasio BMX
Tref enedigol: Crewe
Dyddiad geni: 23 Medi 1988
Arwyr byd chwaraeon: Y Fonesig Kelly Holmes a Daley Thompson
Gyrfa chwaraeon: Mae Shanaze yn Olympiad, wedi cystadlu yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008 Mae hi wedi ennill Pencampwriaeth BMX UCI y Byd dair gwaith ac wedi bod yn bencampwraig ieuenctid ddwywaith ar y BMX.
Nid Pencampwraig y Byd ar y BMX yn unig yw Shanaze, mae hi hefyd yn cystadlu yn y Tîm Gwibio gyda Victoria Pendleton - nhw ddaeth yn Bencampwyr y Byd yn y gamp hon yn 2007.
Gwyliwch fideo o Shanaze Reade













