• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Eleanor Simmonds

Eleanor Simmonds yn derbyn ei medal aur yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008

Roedd Eleanor Simmonds yn enillydd medal aur Baralympaidd pan ond yn 13 mlwydd oed!

Camp: Nofio
Tref enedigol: Abertawe
Dyddiad geni: 11 Tachwedd 1994

Gyrfa chwaraeon: Daeth Ellie yn un o Baralympiaid mwyaf llwyddiannus Prydain yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008 pan enillodd ddwy fedal aur pan yn 13 oed yn unig yn y nofio 100m a 400m Dull Rhydd. O ganlyniad i'r llwyddiannau hyn, hi yw'r athletwr Prydeinig ieuengaf i ennill medal aur unigol mewn Gemau Paralympaidd.

Dechreuodd Ellie nofio gyda'i chlwb lleol pan yn bump oed. Cystadleuodd yn rhyngwladol am y tro cyntaf Ym Mhencampwriaethau Byd Y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn Ne Affrica yn 2006. Yn ddiweddar, cystadleuodd Ellie ym Mhencampwriaeth Prydain 2012 yn Llundain ble enillodd fedal aur yn y Dull Rhydd 400m, gan ddal ei gafael ar ei theitl fel y rhif un yn y byd yng nghategori nofio S6 (S6 yw nofio Paralympaidd dull rhydd, pili-pala ac ar y cefn ). Yn yr un Bencampwriaeth, hi oedd yr athletwraig gyntaf i dorri record byd yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Llundain; gan ennill aur yn y Dulliau Cymysg 200m Unigol a thorri ei record flaenorol ei hun gydag amser newydd o 3:08:14.

Yn 2008 enillodd Ellie Wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ac yn 2009 hi oedd y person ieuengaf erioed i dderbyn MBE gan Frenhines Lloegr.

Dewch i ganfod mwy am Ellie...

Beth yw diwrnod 'nodweddiadol' i chi?
Dw i'n codi am 5:30am, cael brecwast sydyn ac yna'n dechrau ymarfer rhwng 6:00am - 7:30am. Dw i'n ymarfer mwy ar ôl ysgol rhwng 3.30pm - 5.30pm. Ar ôl swper, dw i'n gwneud fy ngwaith cartref ac yn paratoi fy nghit a fy mag ysgol ar gyfer y diwrnod canlynol, ac yna gobeithio gallu sgwrsio gyda ffrindiau ar-lein a gwylio teledu cyn mynd i'r gwely am 9.00pm.

Sut wyt ti'n cadw cydbwysedd rhwng ymarfer a dy waith ysgol?
Mae cael trefn gyson ac ymarfer yr un pryd bob dydd yn help. Mae fy ysgol yn gefnogol iawn pan fyddaf yn cael amser rhydd ar gyfer cystadlaethau ac yn fy helpu i ddal i fyny ar yr hyn wyf wedi ei golli. Rwy'n siwr y bydd yn mynd yn galetach wrrth i mi ddechrau ar fy TGAU.

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dw i'n mwynhau mynd i siopa gyda fy ffrindiau a mynd i'r sinema.

Ar ba fath o gerddoriaeth yr wyt yn hoff o wrando?
R&B a Rihanna

Pa un yw dy hoff ffilm?
Hairspray

Beth sy'n dy ysgogi?
Eisiau bod y gorau ac ennill.

Sut wnest ti ddathlu'r Trosglwyddo?
Roeddwn i yn y Seremoni Gloi yn Beijing yn dathlu llwyddiant y
Gemau Paralympaidd.