• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Ben Rushgrove

Ben Rushgrove yn croesi'r llinell derfyn yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008

Enillodd Ben Rushgrove fedal arian yn Gemau Paralympaidd Beijing 2008!

Camp: Athletau (100/200m)
Dyddiad geni: 23 Chwefror 1988

Beth yw eich llwyddiant pennaf hyd yma mewn chwaraeon?
Torri'r record byd yn y 200m, ennill y fedal efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd yn y 200m, torri'r record Ewropeaidd yn y 100m ac ennill medal arian yn y 100m (T36) yn Gemau Paralympaidd Beijing 2008.

Sut y cefaist dy flas cyntaf ar Athletau?
Yn yr ysgol - fy athro ymarfer corff ddaru fy nghyflwyno i athletau ar ôl fy ngwylio'n rhedeg o gwmpas yr ysgol.

Beth yw diwrnod 'nodweddiadol' i chi?
Ar hyn o bryd, oherwydd Beijing, mae fy rasus yn y boreau, felly dw i'n codi tua 6:00am. Pan fydd y tymor prifysgol yn dechrau byddaf yn mynychu darlithoedd, yn ysgrifennu gwaith cwrs a thraethodau, yn ogystal â threfnu amser ar gyfer ffisio a phethau eraill. Gyda'r nos dw i'n gwneud y rhan fwyaf o'r ymarfer, fel rheol am ddwy neu dair awr, cyn cyrraedd adref tua 8.00pm. Yna byddaf yn coginio, bwyta a chysgu.

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Yn fy amser hamdden dw i'n ymlacio trwy wylio ffilmiau a theledu, yn ogystal â threulio amser
gyda fy ffrindiau. Yn aml byddaf yn mynd am fwyd gyda rhai o fy mhartneriaid ymarfer.

Ar ba fath o gerddoriaeth yr wyt yn hoff o wrando?
Dw i ddim yn ffan mawr o unrhyw gerddoriaeth. Petai'n rhaid i mi ddewis - Queen mae'n debyg fyddai'r ateb.