• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Arwyr

Dewch i gyfarfod â rhai o'n Athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd ifanc mwyaf talentog - arwyr ym myd chwaraeon ac arwyr Bydd Barod. Wrth i Bydd Barod symud yn ei flaen, bydd Tom Daley, Shanaze Reade, Xavier Mohammed a Shelly Woods yn westeion rheolaidd.

Tom Daley

Tom Daley ar ganol deifio

Mae Tom Daley eisoes wedi cyrraedd rownd-derfynol Olympaidd, yn ddim ond 14 oed! Mae hefyd yn un o’r gobeithion am fedal yn Llundain 2012. Gwyliwch ffilm o Tom.

Shanaze Reade

Shanaze Reade yn troi cornel yn ystod Gemau Olympaidd Beijing 2008

Mae Shanaze, y rasiwr BMX eofn a phenderfynol, eisoes yn ymarfer ar gyfer Llundain 2012. Gwyliwch ffilm am hanes Shanaze.

Shelly Woods

Shelly Woods yn ystod sesiwn ymarfer

Un o raswyr cadair olwyn gorau’r DU fu’n cystadlu mewn tair cystadleuaeth yng Ngemau Paralympaidd Beijing, mae Shelly wedi hoelio’i golwg ar Lundain 2012. Gwyliwch ffilm am hanes Shelly.

Xavier Mohammed

Xavier Mohammed yn ystod sesiwn ymarfer

Xavier Mohammed, nofiwr o’r radd flaenaf sy’n breuddwydio am gael cystadlu yn Llundain 2012. Gwyliwch ffilm am hanes Xavier.

Eleanor Simmonds

Eleanor Simmonds yn derbyn ei medal aur yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008

Roedd Eleanor Simmonds yn enillydd medal aur dwbl yn Gemau Paralympaidd Beijing 2008, pan ond yn 13 mlwydd oed. Darllenwch broffil Eleanor.

Ben Rushgrove

Ben Rushgrove yn croesi'r llinell derfyn yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008

Mae Ben Rushgrove yn athletwr Paralympaidd enillodd fedal arian yn y 100m yn Beijing. Darllenwch broffil Ben.