• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Astudiaeth achos - Coleg Richmond upon Thames

Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnwyd gan Goleg Richmond

Mae Coleg Richmond upon Thames wedi datblygu ei raglen gwirfoddoli ei hun ar gyfer myfyrwyr.

Mae gan bartneriaid lleol ac asiantaethau cenedlaethol rôl allweddol yn datbygu llwybrau eglur ar gyfer chwaraeon a gwirfoddoli.

I gydymffurfio ag amcanion y Cydlynydd Chwaraeon AB newydd, a roddwyd iddo'r dasg o gynyddu cyfranogi mewn chwaraeon ac o ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli ac arwain i bobl ifanc o fewn y coleg, penderfynodd Richmond upon Thames gynnig rhaglen wirfoddoli i'w fyfyrwyr.

Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i hyfforddi, cynorthwyo a lleoli pobl ifanc ac oedolion mewn gweithgareddau arwain chwaraeon a gwirfoddoli priodol, diogel a gwerthfawr.

Mae'r rhaglen wirfoddoli gymunedol yn galluogi'r bobl ifanc hynny sy'n gweithio tuag at Ddyfarniad Arweinwyr Chwaraeon y DU Lefel 2 mewn Chwaraeon Cymunedol i gwblhau'r 10 awr o arwain gofynnol.

Cyn hyn, roedd y niferoedd oedd yn llwyddo yn y Dyfarniad Lefel 2 yn siomedig.

Hyd yma, mae 13 o bobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant gan Step into Sport er mwyn bod yn wirfoddolwyr yn y gymuned. Ar ôl hynny, cafodd tri o fyfyrwyr eu dewis i fynychu'r Step into Sports Camp ym Mhrifysgol Loughborough.

Mae'r gweithgaredd pedwar diwrnod yma yn dod ag oddeutu 400 o bobl ifanc at ei gilydd o amrywiol ysgolion/golegau a chefndiroedd. Un o'r prif bethau sy'n deillio o hyn yw datblygu rhwydwaith o fodelau rôl ifanc a chanddynt y sgiliau a'r hyder i fynd yn ôl i'w cymunedau lleol ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn chwaraeon.

'Hwn oedd profiad gorau fy mywyd. Byswn yn gwahodd unrhyw un i'w wneud. Mae'n eich galluogi i gyfarfod â phobl o'r newydd ac i ddatblygu sgiliau arwain mewn grwpiau'. (Aaron Broderick, Gwirfoddolwr a Llysgennad Ifanc Step into Sport )

Mynd ymhellach gyda rhwydwaith Bydd Barod

Mae dysgu i arwain yn un o brif amcanion Rhaglen Bydd Barod. Mae'r prosiect Step into Sport yn enghraifft o ymarferiad gwych sy'n adlewyrchu'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, ac fe all gyfrif at gais Coleg Richmond upon Thames am gydnabyddiaeth fel rhan o rwydwaith Bydd Barod.