Rhwng nawr a 2012 rydym eisiau creu rhwydwaith bywiog, ysbrydoledig o ysgolion, colegau a darparwyr dysg eraill.
Beth yw Bydd Barod?
Bydd Barod yw rhaglen addysgol swyddogol Llundain 2012 ar gyfer ysgolion, colegau a darparwyr addysg awdurdod lleol ar draws y DU.
Gwyliwch y ffilm hon i ganfod mwy am Bydd Barod
Gwefan Bydd Barod
Mae'r wefan hon yn cynnig ystod helaeth o gyfleon ac adnoddau wedi'u targedu at blant 3-19 oed.
Byddwch yn canfod ystod lawn o adnoddau dysgu hyblyg a rhyngweithiol a ddyluniwyd i'ch sbarduno i ffeddwl am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a Gemau Llundain 2012 - ynghyd â gemau, taflenni ffeithiau, ffilmiau, erthyglau newyddion a llawer mwy.
Cofrestrwch gyda'r rhaglen i dderbyn mynediad at hyd yn oed fwy o adnoddau a chyfleon, cylchlythyr misol a chyfle i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod a chael eich gwobrwyo a'ch cydnabod am waith eich ysgol/coleg.
Mae'r rhwydwaith yn cynnwys darparwyr dysg sy'n wirioneddol amlwg yn byw yn ôl un neu ragor o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd ac sy'n ymrwymedig i integreiddio'r Gwerthoedd hyn i'w cynllun datblygu ac ethos yr ysgol gyfan.
Beth yw'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd?
Y Gwerthoedd Olympaidd:
- cyfeillgarwch
- rhagoriaeth
- parch
Y Gwerthoedd Paralympaidd:
- dewrder
- phenderfyniad
- ysbrydoliaeth
- cydraddoldeb
Amcanion Bydd Barod
- Mwyhau dysg pobl ifanc ar draws y cwricwlwm cyfan - trwy chwaraeon, diwylliant ac addysg
- Cefnogi a sbarduno blaenoriaethau ac agendâu addysgol presennol
- Denu cymaint o blant a phobl ifanc â phosibl i gymryd rhan yng nghyffro Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
- Tynnu swyn ac ysbrydoliaeth Gemau Llundain 2012 o'r ystafelloedd dosbarth a'r caeau chwarae a'i drosglwyddo i fywydau pobl ifanc ar draws y DU.
- Cefnogi plant a phobl ifanc ar draws y DU o ran datblygu eu sgiliau arwain, personol, meddwl a bywyd.













