• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd

Credo Olympaidd

Mae a wnelo'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd â mwy na rhagoriaeth mewn chwaraeon. Craidd y Gemau yw athroniaeth Pierre de Coubertin, sefydlydd y Mudiad Olympaidd Modern.

Yn y Gemau, fe welodd gyfle delfrydol i ddatblygu set o egwyddorion cyffredinol - neu Werthoedd - a ellid eu cymhwyso at addysg ac at gymdeithas yn ei chyfanrwydd, yn ogystal ag at chwaraeon ei hun.

Y Gwerthoedd hyn yw:

  • parch - chwarae teg; adnabod eich ffiniau personol; a chymryd gofal o'ch iechyd a'r amgylchedd.
  • rhagoriaeth - sut i roi o'ch gorau, ar y maes chwarae neu mewn bywyd; cymryd rhan; a chamu ymlaen yn ôl eich amcanion eich hun.
  • cyfeillgarwch - sut, trwy chwaraeon, i ddeall ein gilydd er gwaethaf unrhyw wahaniaethau.

Caiff y Gwerthoedd Paralympaidd eu seilio ar hanes y Gemau Paralympaidd a thraddodiad chwarae teg a chystadlu'n anrhydeddus mewn chwaraeon.

Y rhain yw:

  • dewrder
  • phenderfyniad
  • ysbrydoliaeth
  • cydraddoldeb.

Gwyliwch ffilm am y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.

Mae Bydd Barod wedi ei seilio ar y saith o Werthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yma, ac mae rhaglen rhwydwaith Bydd Barod yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc brofi y gallan nhw hefyd adlewyrchu'r Gwerthoedd yn eu bywydau, canolfannau dysg a chymunedau lleol.

Yn ôl ymchwil annibynnol a gynhaliwyd yn ystod Mai a Gorffennaf 2010, dywedodd 69% o'r rhai ymatebodd bod eu myfyrwyr wedi cael eu hysbrydoli gan y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd a chytunodd 45% bod canolbwyntio ar y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd wedi cael effaith arwyddocaol ar yr ysgol.

bq. "Mae'r Gwerthoedd wedi bod yn fachyn enfawr i ni gydio ym mhopeth, rhaglen gyfoethogi ysgol gyfan, ac mae'r myfyrwyr yn teimlo'n angerddol tuag ati. Mae gweld beth mae'r Gwerthoedd wedi ei dynnu ohonynt, y daith, yn rhyfeddol i'w weld, mae wedi agor eu llygaid" (Teacher)

"Gallwch siarad am yr holocost a'i gysylltu â chydraddoldeb, ei gysylltu â phopeth, mae'n berthnasol i bopeth. Rydym wedi gosod y gwerthoedd, eu mabwysiadu, a gallwn archwilio bwlio, ac rydym wedi ei gysylltu â llawer o newidiadau yn yr ysgol, wedi mabwysiadu 5 cartref yn yr ysgol, lliwiau'r cylchoedd, popeth wedi ei gysylltu gyda'i gilydd, fframwaith sy'n ei gwneud yn hawdd" (Athro)