Darllenwch destun cyflwyniad fideo Seb Coe o Bydd Barod ar gyfer addysgwyr.
Ni fedr y weledigaeth a ddanfonwyd i Singapôr fod yn gliriach, ac fe roddwyd honno i bobl ifainc sydd yng nghalon y Gemau.
Dyna oedd ein hymrwymiad, ac fe'i amlygwyd yn fawr yn Singapôr oherwydd, wrth gwrs, fe ymunodd 30 o bobl ifainc o ysgolion yn Nwyrain Llundain â ni, ysgolion y byddai effaith y Gemau fwyaf arnynt.
Mae gennym bobl ifainc ynghlwm wrth ein sefydliad. Roedd angen rhaglen addysgol arnom ynghyd â'r gallu i ddefnyddio pobl ifainc trwy'r holl deyrnas.
Roedd un weledigaeth a ddanfonwyd gennym i Singapôr hefyd yn hollol glir, a honno oedd newid agweddau pobl: newid agweddau tuag at chwaraeon, newid agweddau tuag at gymryd rhan, newid agweddau tuag at y ffordd y dylai dinas cynnal fod yn gweithredu Gemau gyda chymuned gynaliadwy, newid agweddau trwy'r mudiad Paralympaidd, hyd at agweddau'r cyhoedd tuag at anabledd.
Un o'r pethau yn hyn oll yr edrychaf arno gyda phob difrifoldeb, gan gofio mai athrawon fu'r ffynnon i bob ysbrydoliaeth i mi ymgymryd â'm camp ac yna defnyddio'r gamp honno i ymchwilio i weddau eraill o'm bywyd, yw ymorol nad edrychir ar addysg fel rhywbeth pwysig yn ystod pedair blynedd y prosiect Olympaidd hwn yn unig, ond ei fod, mewn gwirionedd, yn gadael gwaddol o agweddau a newidiwyd unwaith y cyrhaeddwn 2012, ac yna ymlaen o'r fan honno.
Roedd y Barwn Pierre de Coubertin, sefydlydd y Mudiad Olympaidd, yn hollol eglur pan fapiodd y llwybr diasiad hwnnw rhwng chwaraeon, addysg a diwylliant.
Roedd o'n iawn 120 mlynedd yn ôl, ac mae o'n iawn heddiw. Mewn gwirionedd, credaf y gallasai, pe bai'n dal yn fyw, fod wedi ymestyn y llwybr hwnnw i gynaladwyedd. Ac i ninnau ddefnyddio yn ein rhaglen addysg Werthoedd y Mudiad Olympaidd - cyfeillgarwch, parch, dewrder, penderfyniad, rhagoriaeth - yr holl bethau y gwyddom fod pobl ifanc yn ymgyrraedd atynt: mae arnom wir angen sefydliadau addysgol, ysgolion, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch i ymuno â ni a'n helpu, ac i annog pobl ifainc i wthio'r Gwerthoedd hynny sydd fwyaf addas i'r sefydliad y maent yn byw ac yn gweithio ac yn ffynnu ynddo fel cymuned.
Yr hyn sy'n hyfryd amdano yw nad ydym yn eistedd yma yn lluchio llechfeini o'r canol. Yr hyn a ddywedwn mewn gwirionedd yw: gwthiwch y Gwerthoedd hynny y tybiwch chi sydd fwyaf addas ar gyfer y gymuned yr ydych yn byw ynddi. A dyna sut roedden ni'n dymuno i bethau fod. Yn hytrach na rhoi gorchmynion i bobl ifainc ar yr hyn roeddent i'w wneud roeddem eisiau eu galluogi i gael gafael yn y Gwerthoedd hynny.
Rydym eisiau gwneud y broses yn un i'w mwynhau, felly fe fydd y deunyddiau geir ar y wefan yn ddeunyddiau ar gyfer arweiniad, yn safleoedd arbenigol, yn bob math o bethau. Ond rydym am iddynt fod yn gonglfaen y meddwl, ond nid yn gaethiwus eu defnydd. Bron na allant bontio unrhyw nifer o gyfleoedd.
Mae fy neges yn un syml, mewn gwirionedd. Rwy'n erfyn arnoch i fod yn rhan o hyn. Gwn am y dylanwad, yn hanesyddol, fu gennych cyhyd ar fywydau pobl ifainc. Arhoswch gyda ni hyd 2012, ac mewn gwirionedd, os caniatewch i mi ddweud, credaf mai dechrau'n unig yw 2012, ac nad yw pethau'n gorffen bryd hynny.













