• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Buddion Bydd Barod

Dewch i weld sut effaith mae Bydd Barod wedi ei gael ar ysgolion a cholegau ar draws y DU.

Cynhaliwyd ymchwil annibynnol gan Nielsen yn ystod Mai 2010 a Gorffennaf 2010 oedd yn cynnwys ymchwil ansoddol a meintiol.

Roedd y tri prif ganlyniad yn dangos bod:

  • 65% o athrawon Ysgolion Uwchradd yn credu bod Bydd Barod wedi cyfoethogi dysgu ac addysgu

"Credaf fy mod wedi cael budd mawr ac wedi ehangu fy ngwybodaeth yn barod ym meysydd gweithgareddau, sgiliau, gwerthoedd pwysig a'r hyn mae'n ei olygu i fod yn arweinydd a chyfathrebwraig dda ac yn aelod o dîm." (merch 16 oed)

  • 57% o athrawon yn credu ei fod wedi cynyddu diddordeb mewn dysgu.

"Mae plant yn sicr yn dangos mwy o ddiddordeb. Yn gofyn cwestiynnau, eisiau helpu a chymryd rhan. Nid eistedd yna'n unig yn syllu drwy'r ffenestr" (Athro)

  • 45% o athrawon yn credu bod y rhaglen wedi cael effaith bositif ar ymddygiad.

"Roeddwn yn arfer gwneud lol yn y dosbarth pan oedd hi'n ddiflas. Ond nawr rwy'n meddwl mwy am fy ymddygiad, ei fod yn effeithio ar bawb arall" (merch 12 oed)

Gwyliwch Jonathan Edwards yn cyflwyno Bydd Barod a chanfod beth sydd gan athrawon a myfyrwyr i'w ddweud am eu hymwneud â rhaglen addysg swyddogol Llundain 2012.

Nodyn i Addysgwyr: Mewngofnodwch ar Bydd Barod a lawrlwytho'r ffilm hon o'r llyfrgell fideo