• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Addysgwyr

Dyma'r lle i ganfod cefnogaeth ac arweiniad ar ddefnyddio rhaglenni ac adnoddau Bydd Barod i roi ffocws Llundain 2012 i'ch rhaglenni addysgu a dysgu.

Fel cyd-destun i addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm mae Gemau Llundain 2012 yn ddi-guro.

Mae'r holl brosiectau a deunyddiau cefnogi wedi cael eu hadeiladu o gwmpas Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, ac maent yn annog plant a phobl ifanc i chwarae rhan weithgar yn eu haddysgu eu hunain, i ddatblygu sgiliau arwain ac i'w herio eu hunain i roi cynnig ar bethau newydd.

Cliciwch ar Arweiniad i Addysgwyr am gefnogaeth a syniadau ychwanegol i wneud y gorau o'r hyn gaiff ei gynnig gan Bydd Barod.

Gwyliwch Seb Coe yn cyflwyno rhaglen Bydd Barod ac yn egluro pam fod addysg yn rhan mor bwysig o Lundain 2012.

Mwy am Sebastian Coe

Seb Coe yw Cadeirydd Pwyllgor Trefnu'r Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn Llundain, wedi iddo eisoes fod yn Gadeirydd cwmni bidio Llundain 2012.

Mae Seb yn Bencampwr Olympaidd dwbl ac wedi dal record byd mewn Athletau 12 o weithiau. Enillodd aur yn y 1500m ac arian yn yr 800m yn Gemau Moscow 1980 a Los Angeles 1984.

Ymddeolodd o athletau cystadleuol ym 1990 a daeth yn AS Ceidwadol ac yn Ysgrifennydd Preifat i William Hague. Yn 2002 fe'i gwnaethpwyd yn Arglwydd - Arglwydd Coe o Ranmore. Derbyniodd urdd marchog ar Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2006.