Rydych wedi gofyn am fwy o ddeunyddiau cefnogi i'ch helpu i annog ysgolion a cholegau i ymwneud â Bydd Barod a rhwydwaith Bydd Barod. Rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld y bydd y pecyn cymorth hwn yn help i chi.
Gwneud y mwyaf o wefan Bydd Barod
Pori
Y tro nesaf y mae gennych awr o amser rhydd, dychwelwch i wefan Bydd Barod a phori o gwmpas yr adran adnoddau , sydd wedi cael ei rhannu yn ôl grwpiau oedran gwahanol. Byddwch angen eich cyfrinair i fewngofnodi ac i gael mynediad i'r holl ddeunyddiau.
Dewiswch grŵp oedran yr ydych yn gweithio ag o, ac edrychwch ar y syniadau a'r adnoddau yn yr ardal gyfranogi. Mae rhyddid i chi eu defnyddio: nid oes pwrpas ailddyfeisio'r olwyn. Rhowch gynnig ar y gemau rhyngweithiol a meddwl pa fyfyrwyr neu blant ifanc eraill allai eu mwynhau a chael budd ohonynt.
Os nad ydych yn sicr am unrhyw un o'r syniadau, mae yna nodiadau arweiniad yn yr adran addysgwyr.
Adrannau defnyddiol iawn eraill o'r wefan:
Ffilmiau - Mynediad i'r carwsel ffilm drwy'r ddolen 'dyma ni'n perfformio' yn hafan Bydd Barod. Mae ffilm ddefnyddiol i gefnogi'ch gweithgareddau yn sicr o fod yno.
Y Gemau - Llawer o wybodaeth gefndirol ar y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, newyddion diweddaraf am Lundain 2012, cip ar y bobl y tu ôl i'r llenni a chronfa ddelweddau ragorol. Gallwch lawrlwytho ac ailfeintio cymaint o luniau ag y dymunwch am ddim. Mae yno luniau o arwyr Bydd Barod - Tom Daley, Shanaze Reade a Shelly Woods yn perfformio, yn ogystal â phopeth o Rygbi Cadair Olwyn i Bêl-foli Glan Môr i Taecwondo.
Arwyr - Ffilmiau a chyfweliadau gyda rhai o Dîm GB sy'n gobeithio am lwyddiant yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Map - Canfod beth mae ysgolion a cholegau eraill ar draws y DU - a'ch cyd-Lysgenhadon Ifanc - wedi bod yn ei wneud.
Bydd Barod+ - Wyth o raglenni partner Llundain 2012 eraill allai ysbrydoli ysgol neu goleg cyfagos! Efallai mai nawr yw'r amser i ymwneud ag ysgol neu goleg mewn gwlad arall, ymgymryd â her fenter yn rhaglen 'Mentrwch', neu annog ysgolion cynradd i ddefnyddio rhaglen 'Small Steps 4 Life', sy'n cefnogi plant sy'n awyddus i wella eu iechyd, diet a ffitrwydd. Gallai her GE, 'Cynllunio fy egwyl', y gellir ei chanfod hefyd yn ardal ffyrdd o fyw'n iach ac egnïol Bydd Barod+, ddarparu ffocws i'ch gweithgareddau gyda rhai 11-14 oed allai gynllunio eu hamser cinio ac o bosibl ennill tocynnau i'r Gemau.
Rhwydwaith - Wedi anghofio beth yw'r broses i ysgolion a cholegau ymuno â rhwydwaith Bydd Barod? Dewch i ddarganfod sut y gallwch wneud cais i ymuno â rhwydwaith Bydd Barod ar ran eich ysgol a helpu ysgolion eraill yr ydych yn gweithio â hwy.













