• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Pa Leoliad?

Pa Leoliad?

Argraff arlunydd o Stadiwm Olympaidd Llundain 2012

Dysgwch bopeth am y gwahanol leoliadau yn y Parc Olympaidd

Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael

Chwiliwch am yr atebion i'r cwestiynau hyn sydd ynglŷn â nodweddion dylunio'r gwahanol leoliadau. Gallwch weithio mewn parau.

  • Pa adeilad a ddyluniwyd i adlewyrchu dyluniad effeithlon beic? (Y Felodrom).
  • Ar ba adeilad y gwelir to trawiadol sy'n debyg i don? (Canolfan Chwaraeon Dŵr).
  • Pa stadiwm a amgylchynir â dŵr ar dair ochr? (Stadiwm Olympaidd).
  • Ym mha adeilad y defnyddiwyd pinwydd o ffynhonell gynaliadwy i adeiladu'r trac? (Y Felodrom).
  • Petaech yn adeiladu trac seiclo, a fyddech yn defnyddio coed syth a thal neu drwchus a llydan? Allwch chi ddweud pam? (Mae coed tal a syth yn fwy tebygol o gynhyrchu'r darnau hir o goed sydd eu hangen i siapio'r trac).
  • Rhowch enghraifft o sut y defnyddir dŵr yn effeithiol yn y Ganolfan Chwaraeon Dŵr (bydd dŵr y pwll yn cael ei ail-ddefnyddio i fflysio toiledau'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr).
  • Ym mhle y gallwch ganfod boeler biomas? (Y Ganolfan Ynni).
  • Pa danwydd mae boeler biomas yn ei ddefnyddio? (sglodion pren).
  • Ym mhle mae'r athletwyr yn aros? (Pentref yr Athletwyr).
  • Pa gyfleusterau a adeiladwyd ar gyfer yr athletwyr yn y Pentref? (Fflatiau, siopau, tai bwyta, cyfleusterau meddygol, pethau i'w gwneud i'w helpu i ymlacio yn cynnwys mannau agored mawr).
  • Ai i bobl yn unig mae'r Parcdir yn addas? (Na, gofalwyd bod y lle'n cael ei reoli ar gyfer rhywogaethau plahnigion ac anifeiliaid sydd yno ar hyn o bryd a rhai sy'n brin).

Canlyniad

  • Adeiladwch arddangosfa neu greu cyfeirlyfr ar gyfer y llyfrgell/cornel lyfrau ynglŷn â'r gwahanol leoliadau.
  • Gofynnwch iddynt ddewis un o'r lleoliadau a welir ac ysgrifennu 'cwestiwn her' i'w ffrindiau - wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt wybod yr ateb!

Estyniad

Lluniwch boster am un o'r lleoliadau a welir fydd yn cynnwys delweddau a gwybodaeth am nodweddion dylunio sy'n adlewyrchu amcan cynaliadwyedd. Er enghraifft, defnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu, uchafu defnyddio dŵr wedi ei ailgylchu, defnyddio siafftiau awyru ar gyfer awyr iach ac yn y blaen.