Gweld siap yn y Gwagle
Dysgwch am gynllunio'r lleoliadau yn y Parc Olympaidd
Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael
Cynllun pensaer o un o'r lleoliadau
Delweddau o'r lleoliadau
- Trafodwch bwrpas lluniadau pensaer. Nid yn unig mae'n rhoi delwedd o'r adeilad gorffenedig, ond mae'n cynnwys yr holl fanylion technegol sydd ei angen ar yr adeiladwyr. Dychmygwch geisio adeiladu rhywbeth heb gynllun!
- Edrychwch ar gynllun y pensaer a'i gymharu ag un neu fwy o'r delweddau o'r lleoliad. A allwch chi weld sut mae'r cynllun yn berthnasol i'r delweddau o'r lleoliad pan yn cael ei adeiladu?
- A allwch chi adnabod unrhyw siapiau geometrig elfennol yn y cynllun?
Canlyniad
- Gwnewch eich llun eich hun o adeilad rydych yn gyfarwydd ag ef. A allwch chi restru'r deunyddiau y tybiwch a ddefnyddiwyd i'w adeiladu? A ydynt wedi cynnwys siapiau geometrig yn eu lluniadau?
Estyniad
- Dysgwch yr hyn a olygir gan 'cyfleustodau' ac ym mhle y gosodid y rhain yn yr adeilad. A ellwch chi nodi hyn ar eu cynllun?













