Mae'r cwricwlwm yn cynnwys popeth o Gynllunio a chyfathrebu syniadau i werthuso a deall y deunyddiau sy'n rhan o greu'r cynnyrch.
Lloegr
Dylunio a Thechnoleg - gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth
Datblygu, cynllunio a chyfathrebu syniadau
- datblygu syniadau a'u hesbonio'n eglur, gan lunio rhestr o amcanion eu dyluniad.
- cynllunio'r hyn sydd raid ei wneud, gan awgrymu cyfres o weithrediadau a rhai amgen os oes angen
- cyfathrebu syniadau dylunio mewn ffyrdd gwahanol wrth iddynt ddatblygu, gan ystyried rhinweddau esthetig, a defnydd a phwrpas y cynnyrch.
Gweithio ag offer, deunyddiau a rhannau i greu cynhyrchion o safon
- dewis offer a thechnegau priodol er mwyn creu eu cynnyrch
- mesur, marcio, torri a siapio ystod o ddeunyddiau, a gosod, uno a chyfuno rhannau a deunyddiau yn gywir.
- defnyddio technegau gorffen i gryfhau a gwella edrychiad y cynnyrch, gan ddefnyddio ystod o offer yn cynnwys TGC [er enghraifft, meddalwedd 'llunio' neu feddalwedd Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) ac argraffydd]
Gwerthuso prosesau a chynhyrchion
- ystyried cynnydd eu gwaith wrth iddynt ddylunio a chreu, gan nodi ffyrdd y gallant wella eu cynhyrchion
- sylweddoli bod ansawdd y cynnyrch yn dibynnu ar ba mor dda y'i cynhyrchwyd a pha mor dda y mae'n ateb ei bwrpas [er enghraifft, pa morr dda mae cynhyrchion yn bodloni ystyriaethau economaidd ac amgylcheddol.]
Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeunyddiau a rhannau
- sut mae priodweddau gweithredol deunyddiau yn effeithio ar y ffyrdd y'u defnyddir
- sut y gellir cyfuno a chymysgu deunyddiau i greu rhinweddau mwy defnyddiol [er enghraifft, defnyddio trionglau cardfwrdd ar gorneli ffram goed i'w chryfhau.]
Yr Alban
Technolegau - Cyd-destunau crefft, dylunio, peirianneg a graffeg ar gyfer datblygu sgiliau a gwybodaeth dechnolegol.
Ail a Thrydydd
Trwy ddefnyddio fy ngwybodaeth a fy sgiliau mewn gwyddoniaeth a mathemateg, gallaf beiriannu gwrthrychau 3D sy'n dangos cryfhau, trosglwyddo egni a symudiad.
TCH 2-12a / TCH 3-12a
Cyntaf ac Ail
Yn ystod gweithgareddau ymarferol a heriau dylunio, gallaf amcangyfrif a mesur gan ddefnyddio offer ac unedau priodol.
TCH 1-13a / TCH 2-13a
Trwy ddarganfod a dychmygu, gallaf ddatblygu a defnyddio strategaethau datrys problemau i greu modelau.
TCH 1-14a / TCH 2-14a
Wedi gwerthuso fy ngwaith, gallaf addasu a gwella, lle fo'n briodol, trwy broses llwyddo a methu neu trwy ddefnyddio adborth.
TCH 1-14b / TCH 2-14b
Gallaf ddefnyddio technegau lluniad, gyda llaw neu yn electronig, i gynrychioli gwrthrychau neu syniadau, a'u cyfoethogi gan ddefnyddio effeithiau megis golau, cysgod a gwead.
TCH 2-15a
Datblygiadau technolegol mewn cymdeithas
Ail
Gallaf ymchwilio i ddefnyddio a datblygu ynni adnewyddadwy a chynaliadwy i gael ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd cynyddol yn Yr Alban a thu hwnt.
TCH 2-02b
Cymru
Dylunio
Dylai disgyblion gael cyfleoedd i:
- ddefnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth i gynhyrchu syniadau am gynhyrchion
- ymchwilio i sut mae cynhyrchion presennol yn edrych ac yn gweithredu fel ffynhonell syniadau ar gyfer eu
- cynhyrchion eu hunain
- datblygu manyleb/rysait syml ar gyfer eu cynhyrchion sy'n dangos eu pwrpas a'u ffordd o weithio
- dangos eu creadigrwydd meddyliol wrth ystyried a chofnodi atebion i broblemau sy'n codi yn ystod dylunio a chreu
- datblygu a chyfathrebu eu syniadau dylunio mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan ddefnyddio TGC a modelau pan fo'n briodol
- ystyried diogelwch, dibynadwyedd a chynaliadwyedd eu gweithgaredd/cynnyrch,
- gwerthuso eu syniadau dylunio wrth iddynt ddatblygu, gan ystyried anghenion y defnyddiwr.
Cynhyrchu
Dylai disgyblion gael cyfleoedd i:
- weithio yn ôl eu manyleb/rysait penodol i greu eu cynhyrchion
- dewis deunyddiau, cynhwysion, offer, teclynnau a thechnegau o ystod fydd ar gael iddynt
- mesur, marcio, torri, siapio, uno, pwyso a chymysgu ystod o ddeunyddiau a chynwysion, gan ddefnyddio offer, teclynnau a thechnegau priodol.
- canfod ffyrdd amgen o gynhyrchu os yw'r cynnig cyntaf yn methu
- defnyddio gorffeniadau priodol ar eu cynhyrchion
Deunyddiad hyblyg ac anhyblyg:
- defnyddio ystod o ddeunyddiau a rhannau, gan wneud dewisiadau ar sail eu gwybodaetth ddatblygedig am y ffordd y dylid eu defnyddio
- dysgu am ddefnyddio deunyddiau'n effeithiol
- defnyddio technegau i atgyfnerthu a chryfhau strwythurau yn eu cynhyrchion
Dylai disgybliion gael cyfleoedd i ddatblygu eu gallu dylunio a thechnoleg trwy:
- weithgareddau fydd yn eu caniatau i ymchwilio i, gwerthuso a dadnsoddi cynhyrchion er mwyn cael gwybodaeth a dealltwriaeth am dechnoleg ac iechyd a diogelwch y gellir eu defnyddio wrth iddynt ddylunio a chynhyrchu.
- gweithgareddau fydd yn eu caniatau i ddysgu am ddefnyddio deunyddiau'n gyfrifol gan ystyried materion cynaliadwyedd
- ystyried gwaith dylunwyr, dyfeiswyr, penseiri a chogyddion, yn cynnwys rhai o Gymru
- gweithgareddau fydd yn caniatau iddynt ddatblygu ac ymarfer sgiliau a thechnegau ymarferol y gellir eu
- defnyddio wrth iddynt ddylunio a chynhyrchu
- gweithgareddau fydd yn caniatau iddynt ddylunio a chreu cynhyrchion, gan ganolbwyntio ar gyd-destunau
- a deunyddiau.
Gogledd Iwerddon
Y Byd o'n cwmpas
CA2 Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Cwestiynu a chynllunio
Gofyn cwestiynau dyfnach a mwy heriol, cynllunio a gosod amcanion, dylunio atebion a herio rhagdybiaethau.
Cynhyrchu cyfres o gynlluniau dylunio ar gyfer modelau mwy cymhleth sy'n dangos sut y cânt eu gwneud, yn cynnwys y defnydd o ddeunyddiau, dimensiynau etc.
Gwneud amgrymiadau ynglŷn â beth, pryd a sut i fesur.
Canfod a dewis
Dewis amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth, megis lluniau, ffotograffau, ffilmiau, creiriau, y rhyngrhwyd, llyfrau a sain.
Datblygu cymhwysedd a chywirdeb cynyddol o ran dewis a defnyddio'n ddiogel ystod ehangach o offer a thechnegau priodol wrth adeiladu.
Adnabod cyfyngiadau dylunio, megis gofynion y defnyddiwr a rhinweddau'r deunyddiau.













