Croeso i'r Parc Olympaidd!
Canfod popeth am y Parc Olympaidd gyda'r cit Adeiladau ODA!
Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael:
- Map o'r Parc Olympaidd - Map o'r Parc Olympaidd
- Delweddau o'r Lleoliadau: Stadiwm, Canolfan Chwaraeon Dŵr, Felodrom, IBC/MPC, Pentref yr Athletwyr, y Ganolfan Ynni a'r Parcdir
Edrychwch ar y map ar fwrdd gwyn rhyngweithiol neu lawrlwythwch gopiau i bawb gael gweithio gyda hwy. Gwnewch gasgliad o luniau am y Lleoliadau ac anodwch y map a llun o'r lleoliad. Yn olaf, dyluniwch allwedd ag arno ddelweddau o'r chwaraeon a'r cystadlaethau a gynhelir ym mhob lleoliad.
Canlyniadau
- Crewch arddangosfa wal anodedig o leoliadau llundain 2012
- Gweithiwch mewn grwpiau bychain i greu cyflwyniad PowerPoint neu amlgyfrwng arall sydd yn rhoi trosolwg o'r Parc Olympaidd
Estyniad
- Cynhwyswch dair ffaith allweddol am adeiladu pob un o'r lleoliadau.
Chwilio am Waith
Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael
- Taflenni ffeithiau am chwech o weithwyr y Parc Olympaidd
- Delweddau o'r gwaith adeiladu
- Fideo o ddau weithiwr , Shelley (gweinyddiaeth a chefnogaeth graidd) a Cyrill (gweithiwr tir)
Dysgwch am rai o'r swyddi sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r Parc Olympaidd.
- Dangoswch y gwahanol ffeiliau ffeithiau ac yna dewiswch un sydd o ddiddordeb i chi.
- Pa fath o wybodaeth yr hoffech ei chael petaech yn ystyried ymgeisio am swydd fel hon? Pa sgiliau a rhinweddau arbennig fyddai ei angen ar weithiwr i wneud ei waith yn dda?
Canlyniad
- Lluniwch hysbyseb papur newydd neu wefan ar gyfer "Gweithio ar y Parc Olympaidd (gweithio ar y parc olympaidd)": http://getset.london2012.com/en/the-games/about-london-2012/the-olympic-park/working-on-the-olympic-park-1 Gellid casglu'r rhain at ei gilydd fel portffoli swydd: 'Cyfleoedd yn y Parc Olympaidd'
Estyniad
- Edrychwch ar y daflen 'Y Criw Adeiladu' a'r poster 'Cyfleoedd' a chael gwybod am bobl sy'n gweithio ar y Parc Olympaidd
- Dyluniwch boster trawiadol wedi ei anelu at bobl ifanc sy'n byw yn yr ardal sy'n eu hannog i ymgeisio am swydd gweithio ar y Parc Olympaidd.













