• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Cloddwyr a Dympwyr

Cloddwyr a Dympwyr

Archeolegwyr yn cloddio yn y Parc Olympaidd

Lluniwch ffeil feithiau am y gwahanol gerbydau ddefnyddir yn y Parc Olympaidd

Adnoddau Cit Adeiladu ODA sydd ar gael

  • Delweddau o wahanol gerbydau a weithiodd yn y Parc Olympaidd
  • Ffeil ffeithiau cerbyd adeiladu Cerbydau ar y Parc Olympaidd

defnyddiwch y delweddau a'r ffeithiau i ddysgu am y cerbydau adeiladu a ddefnyddir ar y safle.

  1. Lawrlwythwch y ffeil ffeithiau, darllenwch y disgrifiadau o'r cerbydau a chanfod llun sy'n paru o'r gronfa ddelweddau.
  2. Trafodwch pa gerbydau fyddai'n cael eu defnyddio i:
  • ddymchwel
  • clirio'r tir
  • glanhau'r pridd
  • codi pwysau trwm
  • gosod sylfeini
  • cadw llwch o'r safle
  • gweithio ar adeiladau tal
  • creu wyneb gorffenedig.

Canlyniad

Crewch ffeil ffeithiau am dri neu bedwar cerbyd lle maent yn enwi'r cerbyd ac yn disgrifio ei swyddogaeth. Gallai hwn fod yn llyfr posau ble maent yn rhoi tri chliw ar un dudalen ac yna'n datguddio'r llun a'r enw ar y dudalen arall.

Er enghraifft:

Beth ydwyf?

  • Gellir fy nefnyddio i ddymchwel adeiladau
  • Gellir fy nefnyddio i godi deunyddiau trwm
  • Mae gen i drawst, pwced a chaban ar blatfform

Ateb: cloddiwr braich hir.

Estyniad

  • Edrychwch ar ddelweddau o graeniau tŵr a thrafod pwysigrwydd gwrth-bwyso'r fraich hir neu'r jib gyda braich fyrach a phwysau. Gwnewch fodel o graen sy'n darlunio'r egwyddor hon.
  • Sut fyddai winsh yn gweithio petai'n sownd i'r strwythur? Pa mor gadarn yw'r model gorffenedig? A ydynt yn cytuno bod yn rhaid i graen lallu codi pwysau trwm, fod yn ddigon cadarn i beidio â disgyn a bod yn ddigon cryf i beidio â thorri?