Rhowch gynnig ar dri syniad ynglŷn â llythrennedd ac adrodd stori a rhoi bywyd i Daith Gyfnewid y Fflam!
Mae'r testunau ysgrifennu yma yn galluogi plant i archwilio sut deimlad fyddai bod yn rhan o'r achlysur mawr, naill ai yn y gorffennol neu fel Clududd y Fflam Llundain 2012.
1. Fy 'moment i ddisgleirio'
Gofynnwch i'r plant ddychmygu eu bod wedi cael eu dewis fel Cludydd y Fflam sydd yn ailadrodd stori ei ddiwrnod mawr.
Strwythurwch yr adroddiad o gwmpas tri pharagraff - y dechrau, canol a'r diwedd.
- Disgwyliad - gosod yr olygfa a pharatoi.
- Y Fflam yn agosau - Cludydd y Fflam yn cael ei foment i ddisgleirio yn Nhaith Gyfnewid y Fflam.
- Ar ôl y digwyddiad - siarad â'r wasg, ffrindiau a theulu.
Dilynwch y ddolen hon i gael engraifft o stori: Diwrnod ym mywyd Cludydd y Fflam
2. Dychmygwch hyn
Ewch i'r gronfa ddelweddau a gofynnwch i'r plant ddewis tri llun o adran Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd. Er enghraifft, cynnau'r Fflam Sanctaidd yn Olympia, trosglwyddo'r Fflam ar draws y dŵr neu ddod â'r Dortsh i mewn i'r stadiwm.
Gofynnwch iddynt gasglu'r delweddau hyn mewn llyfr bach ar gyfer plant iau ac ysgrifennu brawddeg ar gyfer bob delwedd. Allen nhw gynnwys yr wybodaeth ganlynol?
- Pryd a lle fydd y Fflam yn cael ei chynnau? (Gwlad Groeg 10 Mai 2012)
- Beth mae'r Fflam yn ei gynrychioli? (Heddwch, undod a chyfeillgarwch)
- Sawl Cludydd y Fflam fydd yn cario'r dortsh o gwmpas Prydain? (8,000)
3. Pasiwch hi ymlaen...
Ceisiwch ysgrifennu stori gyfnewid. Bydd tri phlentyn yn gweithredu fel awduron ar y cyd gan drosglwyddo'r stori o un i'r llall.
- Bydd y cyntaf yn dechrau trwy osod yr olygfa a disgrifio'r cymeriadau.
- Bydd yr ail yn ysgrifennu'r adran ganol sy'n gosod gwrthdaro neu broblem i'w datrys.
- Bydd y trydydd yn datrys y gwrthdaro ac yn dod â phopeth at ei gilydd mewn diweddglo boddhaol.
Teitlau a awgrymwyd ar gyfer y stori gyfnewid:
Lladrad yn nheml Hera!
Hon yw'r deml yn Olympia ble cafodd y Fflam ei chynnau o belydrau'r haul fel rhan o seremoni draddodiadol. Beth allai ddigwydd petai lladrad yn digwydd cyn y seremoni bwysig hon?
Mae'r amser wedi cyrraedd - enwebu Cludydd y Fflam!
Gall hyn fod am ras yn erbyn y cloc i enwebu Cludydd y Fflam. Gall yr awduron adrodd stori am pam fod yr un gaiff ei enwebu yn ysbrydoledig.
'Gaf i weld!'
Mae'r torfeydd ar y strydoedd i wylio'r Fflam yn mynd heibio, ond mae yna rywun yn y dorf na all weld yn iawn.













