• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Tri syniad ar draws y cwricwlwm

GSgg – WTW film

Rhowch gynnig ar dri o weithgareddau hwyliog ar draws y cwricwlwm.

Mae gweithgaredd Drama estynedig yn galluogi'r plant i ail-greu 'moment i ddisgleirio' Cludydd y Fflam. Yn 'Cynhyrchu ffilm, mae'r plant yn archwilio technegau syml mewn ffilm hyrwyddo ynglŷn â Thaith Gyfnewid y Fflam cyn llunio bwrdd stori ar gyfer eu ffilm eu hunain. Yn olaf, gallant ddatblygu eu sgiliau artistig gyda chreu collage, ffotograffiaeth neu luniau.

1. Hoffwn eich cyflwyno chi i...

Atgoffwch y plant y bydd 8,000 o bobl yn cael eu dewis fel Cludwyr y Fflam. Bydd pob un ohonynt wedi cael eu henwebu gan rywun arall sy'n credu eu bod yn ysbrydoliaeth.

Siaradwch am bobl ysbrydoledig sy'n gyfarwydd i'r plant. Beth maent wedi ei wneud sy'n eu gwneud yn wahanol?

Gwyliwch fideo o'r ddolen hon am fwy o syniadau:
Pwy fyddwch chi yn ei enwebu am gyfle i ddisgleirio?

Gofynnwch i'r plant weithio fesul tri a phenderfynu ar 'stori gefndir' ar gyfer rhywun sydd wedi cael ei enwebu fel Cludydd y Fflam.

Nawr gofynnwch iddynt rannu swyddogaethau a sefyll gyda'i gilydd; maent yn paratoi ar gyfer cyfweliad teledu. Mae un actor yn gyflwynydd teledu, mae un yn enwebu ac mae'r trydydd yn actio fel yr un sy'n cael ei enwebu.

  • 'Hoffwn eich cyflwyno chi i...' Mae'r cyflwynydd teledu'n cyflwyno'r gwesteion.
  • 'Pam fod y person hwn wedi'ch ysbrydoli chi?' Mae'r person sy'n enwebu yn siarad ac yn cyflwyno ei bartner, ac yn adrodd ei stori ysbrydoledig i'r grŵp.
  • 'Hoffwn gario'r Fflam oherwydd...' Mae'r un sy'n cael ei enwebu yn dweud ambell air, fel mewn cyfweliad, gan egluro beth mae'r anrhydedd yn ei olygu iddyn nhw. Atgoffwch hwy i gadw at gymeriad y ddelwedd a ddewiswyd ganddynt.
  • 'Agor yr amlen...' Mae'r grŵp yn meimio'r foment pan fo'r un sy'n cael ei enwebu'n agor yr amlen ac yn cael ei dderbyn fel Cludydd y Fflam.
  • Mae'r cyflwynydd yn gofyn am ymateb sydyn i'r newyddion gan y ddau arall.
  • 'Y diwrnod mawr...' Gofynnwch i'r grŵp feimio'r foment cyn y bydd yr un sy'n cael ei enwebu'n derbyn y Dortsh. Sut fydd y ddau'n teimlo, ac a allant ddangos hyn i'r gynulleidfa?
  • Gall y cyflwynydd sylwebu ar y digwyddiadau.
  • Estynwch hyn trwy ofyn i dri grŵp berfformio'u meim mewn dilyniant gydag un grŵp yn trosglwyddo'r awenau i'r nesaf.
  • Arbrofwch gyda meimio'r rhan hon mewn 'slow motion' gan ofyn i'r plant ddangos eu teimladau trwy bob ran o'u cyrff a thrwy ystum eu hwynebau.
  • Gorffennwch gyda'r grwpiau'n gosod eu hunain ar gyfer llun i'r wasg yn syth ar ôl eu 'moment i ddisgleirio'.

Datblygwch y gwaith hwn i berfformiad fydd yn rhan o gyflwyniad gwsanaeth i weddill yr ysgol ar daith gyfnewid y fflam.

2. Cynhyrchwch ffilm

Gwyliwch rai o ffilmiau hyrwyddo Taith Gyfnewid y Fflam, er enghraifft:

Trafodwch y canlynol:

  • Pa mor hir yw'r ffilm?
  • Beth oedd prif bwrpas y ffilm?
  • A ddefnyddiwyd cerddoriaeth neu benawdau?
  • A gynhaliwyd cyfweliadau â phobl? A ydym yn gweld y sawl sy'n cyfweld?

Nawr heriwch y plant i gynhyrchu eu ffilm Bydd Barod fer eu hunain ynglŷn â Thaith Gyfnewid y Fflam o'r enw 'Flame'.

Gofynnwch iddyng fynegi cyffro eu ffrindiau ysgol wrth iddynt ddisgwyl am i Daith Gyfnewid y Fflam agosau at eu cymuned Allen nhw hefyd gynnwys peth o'r wybodaeth ganlynol ynglŷn â 'grym tri' sydd wedi dylnwadu ar ddyluniad trionglaidd y Dortsh Olympaidd?

  • Dyma'r trydydd tro i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal yn Lundain.
  • Y tri Gwerth Olympaidd yw cyfeillgarwch, parch a rhagoriaeth
  • Mae yn dri gair yn yr Arwyddair Olympaidd: 'Cyflymach, Uwch, Cryfach'

Gall y plant gynnwys cyfweliadau, yn yr un modd â'r ffilmiau hyrwyddo, pan fo pobl amrywiol yn cael cyfle i fynegi eu barn.

Gall y plant ddechrau trwy lunio bwrdd stori.

Ystyriwch bostio'r ffilmiau neu fyrddau stori ar eich blog Bydd Barod.

3. Celfyddyd byw

Ysbrydolwch y plant gyda'r gweithgareddau celf yma.

  • Gall plant iau archwilio lliwiau cyfoethog y Fflam Olympaidd a lliwiau euraidd y Dortsh ei hun trwy baent a collage. Sawl gwahanol liw ellir eu gweld yn y fflam? Ym mhle mae'r fflam oeraf a phoethaf, a sut mae hyn yn amlygu ei hun?
  • Heriwch blant hŷn i finiogi eu llunio arsylwi trwy wneud astudiaethau agos o ddwylo'n cydio yn siâp trionglaidd y Dortsh. Datblygwch hyn ymhellach trwy ddangos dwylo dau Gludydd y Fflam wrth i un drosglwyddo'r Fflam i'r llall yn ystod y Daith Gyfnewid. Gellir archwilio'r thema hon hefyd fel prosiect ffotograffiaeth ddigidol gan ddangos dwylo pobl o bob oedran yn trosglwyddo'r baton o un i'r llall.
  • Crewch lyfr fflipio bach sy'n dangos Cludydd y Fflam yn symud ac yn trosglwyddo'r Dortsh i'r person nesaf.