Ffurfiwch dîm Bydd Barod
Cymerwch yr awenau
Dyma'ch cyfle chi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch ysgol a phawb ynddi, a rydym eisiau i chi gymryd yr awenau wrth wneud i hynny ddigwydd. Mae'n iawn i athrawon ac oedolion eraill helpu - mewn gwirionedd bydd hynny'n bwysig iawn - ond rydym eisiau i chi - y myfyrwyr - gymryd gwir gyfrifoldeb am y cais.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw dweud wrthym sut y mae rhai neu'r oll o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd megis cyfeillgarwch, parch neu ragoriaeth eisoes yn helpu pobl yng nghymuned eich ysgol. Er enghraifft, sut mae 'cyfeillgarwch' wedi helpu plant ac oedolion yn eich ysgol chi i deimlo'n ddiogel a theimlo bod croeso iddynt? Neu sut ydych yn gwybod bod pawb yn cael ei drin yn gyfartal a gyda pharch yn eich ysgol? Ydy pawb yn benderfynol o ymdrechu'n galed ac o wneud yn dda?
Y cam nesaf yn meddwl am a gwneud cynllun gweithredu bychan er mwyn gweld sut y gallwch adeiladu ar eich gwaith da yn y dyfodol.
Ond un cam ar y tro... Bydd angen i chi weithio fel tîm
Ffurfiwch dîm rhwydwaith Bydd Barod
Fe allech fod yn bencampwyr newid yn eich ysgol trwy ffurfio tîm arbennig i ymgymryd â'r cais a chael llawer o hwyl ar hyd y ffordd.
Efallai mai pedwar ohonoch yn unig fydd ar y cychwyn. Efallai bod yna grŵp mwy o bobl sydd eisoes yn awyddus i ymuno â chi, megis eich Cyngor Myfyrwyr neu unrhyw grŵp arall sy'n cynrychioli barn y myfyrwyr, neu glwb ysgol.
Eich tasg yw canfod a all eich ysgol a'ch teuluoedd fyw'n iachach a hapusach drwy gael eu hysbrydoli gan y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd.
Cynghorion gorau ar ffurfio tîm rhwydwaith Bydd Barod
Yn union fel petaech yn gweithio mewn cwmni neu sefydliad go iawn, gallai pob un ohonoch ymgymryd â swyddi gwahanol a derbyn cyfrifoldeb am gyflawni pethau.
Bydd arnoch angen:
- Cydlynydd
- Ymchwilydd
- Cofnodwr
- Triniwr Data
Pa swydd fyddech chi orau ynddi?
Darllenwch y disgrifiadau swydd a phenderfynwch pa rai fyddech chi'n hoffi eu gwneud. Cofiwch eich bod yn gweithio fel tîm, felly bydd arnoch angen cydbwysedd o ran sgiliau a sicrhewch bod pawb yn hapus gyda'u dewis.
Cydlynydd
Eich rôl yw gofalu bod popeth yn gweithio'n rhwydd. Ydy pawb yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud, ac erbyn pryd y mae angen ei gwblhau? Chi fydd yr un fydd yn arwain unrhyw gyfarfodydd a byddwch yn rhoi cymorth i bobl pan fyddan nhw angen mymryn o help ychwanegol
Ai dyma'r swydd i chi?
I fod yn gydlynydd da mae'n debyg bod angen i chi deimlo'n gyfforddus ynglŷn â siarad o flaen grŵp ac egluro'ch syniadau i blant ac oedolion eraill. Rydych yn hoffi bod yn drefnus. Rydych yn dda am wrando ar bobl a gallwch wneud penderfyniadau.
Ymchwilydd
Gwaith ymchwilydd yw casglu'r holl wybodaeth sydd ei angen fel y gallwch wneud penderfyniad ynglŷn â beth i'w wneud nesaf ar sail tystiolaeth dda. Mae'n debyg mai chi fydd yr un fydd yn holi pobl i weld beth yw eu barn. Efallai y byddwch yn ymwneud â chanfod beth sy'n digwydd mewn mannau eraill, felly byddwch yn cysylltu ag eraill trwy e-bost neu ffôn ac yn chwilio am ffeithiau ar y rhyngrwyd.
A oes gennych chi yr hyn sydd ei angen?
Mae'n debyg bod 'pam' yn air a ddefnyddiwch yn aml! Rydych yn naturiol chwilfrydig a rydych yn hoffi canfod ffeithiau i fodloni'ch chwilfrydedd. Ond mae angen i chi fod yn drefnus iawn, yn wrandäwr da, ac yn hyderus ynglŷn â throi at bobl a gofyn cwestiynau iddyn nhw.
Cofnodwr
Y Cofnodwr fydd yn gofalu am gadw'r holl dystolaeth ynglŷn â'ch cynlluniau. Bydd angen i chi gofnodi'r penderfyniadau a phwy a'u gwnaeth. Byddwch eisiau postio lluniau a straeon ynglŷn â'ch cais ar eich blog.
Ai hon yw eich swydd ddelfrydol?
I fwynhau gwaith cofnodwr, mae'n debyg eich bod yn rhywun sy'n mwynhau ysgrifennu. Efallai eich bod hyd yn oed yn cadw dyddiadur a'ch bod yn gyfarwydd â chofnodi manylion. Ond rydych hefyd yn hoffi'r syniad o bostio gwybodaeth ar eich blog, gan eich bod yn gallu adnabod stori neu lun da fyddai'n gwneud eich cais yn ddiddorol iawn.
Triniwr Data
Y triniwr data fydd yn gyfrifol am gyflwyno'r holl dystiolaeth a gasglwyd o'r gwahanol arolygon a chyfarfodydd. Mae'n debyg eich bod yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiadur fel y gallwch wneud yr holl ffeithiau a ffigurau yn hawdd i'w deall.
Ydych chi'n barod am hyn?
Mae'n debygol iawn mai mathremateg a TGC yw dau o'ch hoff bynciau. Ie wir, ac mae'n debyg eich bod yn credu ei bod yn bwysig gorffen pethau'n iawn a gwneud iddyn nhw edrych yn dda. Yn sicr, nid ydych yn hoffi gadael pethau ar eu hanner.













