• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Paralympaidd

Rhagor am eich tîm Bydd Barod

Rhagor am eich tîm Bydd Barod

Gwibio yn y Gemau Olympaidd

-Eich ffordd at rwydwaith Bydd Barod

Rhan un

Fel pencampwr gwych, bydd yn rhaid i chi fod yn benderfynol a meddwl am syniadau gwych, ond mae'r camau at lwyddo, a chael mynediad i rwydwaith Bydd Barod o fewn eich cyrraedd.

Dyma beth i'w wneud:

  1. Oherwydd i chi fod yn ddigon chwilfrydig i ddarllen mor bell â hyn, rydych chi wedi cychwyn ar eich taith yn barod. Gofynwch i'ch athro roi help i chi gofrestru diddordeb eich ysgol yn rwydwaith Bydd Barod. Mae mor hawdd a hynny - rydych chi ar y blociau cychwyn.
  2. Meddyliwch am sut y gallech drefnu a chynnal eich cais i fod yn rhan o rwydwaith Bydd Barod. Gallech, er enghraifft, benderfynu siarad â Chyngor yr Ysgol - neu pa bynnag grŵp sy'n gwrando ar farn a syniadau disgyblion yn eich ysgol - amdano, neu sefydlu Clwb Bydd Barod newydd gwych. Gallech gyfarfod amser cinio, ar ôl ysgol neu ba bryd bynnag sydd orau i chi.
  3. Dechreuwch gasglu tystiolaeth gan wahanol grwpiau o bobl yn yr ysgol ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n teimlo bod y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yn rhan o'ch ysgol yn barod. Isod fe welwch lawer o ddeunyddiau arolygu i chi eu hargraffu a'u defnyddio ar gyfer eich ymchwil.
  4. Postiwch ganlyniadau'r arolygon, holiaduron, cyfweliadau etc ynghyd â lluniau neu ddarluniau ar flog eich ysgol.
  5. Sefydlwch pa rai o'r Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd yr ydych am ganolbwyntio arnyn nhw gyntaf, er enghraifft, cyfeillgarwch, penderfyniad neu ddewrder. Gallwch eu cynnwys i gyd os dymunwch.
  6. Dechreuwch feddwl am sut y gallech wneud cysylltiad ag ysgol arall yn eich ardal i weld sut y maen nhw'n byw yn ôl y Gwerthoedd hefyd. Gallech efallai drefnu digwyddiad arbennig neu gyfnewid e-bostiau'n unig ar y cychwyn.

Lawrlwythwch rhai taflenni gweithgaredd i roi cychwyn arni.

Activity sheet - What we value 1 - 258.63kb

Activity sheet - What we value 2 - 255.63kb

Activity sheet - Keeping track of the results - 250.83kb

Pob lwc!

Cwestiynau y mae'n debyg y byddwch eisiau eu gofyn:

C: Nid wy'n sicr bod gen i unrhyw amynedd - pam ddylwn i?

A: Oherwydd fe fydd yn hwyl a byddwch yn dysgu tomen o bethau fydd yn help i chi am weddill eich bywyd, megis sut i gyfathrebu'n dda gyda phobl a sut i fod yn drefnus. Byddwch hefyd yn derbyn 'anrhegion' am ddim o dro i dro - pob math o sdwff yn cynnwys ymweliadau â'r Parc Olympaidd, diweddariadau gan rai o'r athletwyr gorau, cyfle i ennill gwobrau mewn llwythi o wahanol gystadlaethau, ac wrth gwrs y cyfle i edrych nôl ar Gemau Llundain 2012 pan fyddwch yn hŷn a chofio i chi wneud rhywbeth arbennig.

C: Pwy ydym ei angen i'n helpu?

A: Byddwn yn rhoi llwyth o help i chi ar y wefan hon yn cynnwys gemau, cyflwyniadau y gallwch eu defnyddio i ddweud wrth bobl arall yn eich ardal am rwydwaith Bydd Barod, cynghorion gorau, templedi, pethau i siarad amdanynt, ffeithiau rhyfeddol ac ychydig o jôcs mae'n debyg. Byddwch hefyd angen help gan eich athrawon/neu oedolyn arall yn eich ysgol megis rhiant neu lywodraethwr ysgol. Cyngor gorau: denwch eich Pennaeth i fod yn rhan ohono!

C: Pwy arall allen ni eu cynnwys?

A: Siaradwch ag aelodau eraill o'ch teulu am gais rwydwaith Bydd Barod eich ysgol a gofyn iddynt am eu syniadau. Efallai y byddan nhw hyd yn oed yn gallu rhoi o'u hamser i helpu yn yr ysgol, neu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun y maen nhw'n ei adnabod fyddai efallai'n gallu'ch helpu i wireddu'r syniad sydd gennych am ddigwyddiadau neu brosiectau arbennig. Gallech siarad â'ch Pennaeth am roi cyflwyniad ynglŷn â'r prosiect i lywodraethwyr yr ysgol neu gyfeillion yr ysgol.

C: Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn symud i fy ysgol nesaf?

A: Gall pob ysgol yn y wlad gymryd rhan yn Bydd Barod, felly efallai bydd eich ysgol nesaf eisoes wedi cofrestru erbyn i chi gyrraedd yno. Os nad, defnyddiwch y syniadau cychwynnol yr ydych eisoes wedi eu defnyddio er mwyn sefydlu grŵp yn eich ysgol newydd.

C: Beth sy'n digwydd os na fydd ein cais yn llwyddiannus?

A: Fydd hynny ddim yn digwydd. Y peth gwaethaf all ddigwydd yw bod yr aseswyr yn meddwl eich bod angen gwneud mwy o waith ar rai agweddau o'ch Cynllun, neu eich bod angen casglu ychydig mwy o enghreifftiau o bethau sy'n digwydd yn eich ysgol sy'n dangos eich bod yn 'byw yn ôl y Gwerthoedd'.

Unrhyw gwestiwn yr hoffech ateb iddo?

Anfonwch ef atom