Mae'r gweithgareddau hyn yn seiliedig ar thema Taith Gyfnewid y Fflam. Rhowch gynnig ar y gweithgareddau hwyliog a chreadigol hyn yn y dosbarth, neu efallai y gallwch feddwl am rai eich hun.
1. Pasio'r llun.
Mae'r plant yn eistedd o gwmpas bwrdd mewn grwpiau o tua pump. Ar bob bwrdd mae taflen lân fawr o bapur A3 a phensiliau llunio. Wedi i'r amserydd gychwyn, mae gan y plant bum munud i lunio ar y papur.
Thema'r llun yw 'Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yn Dod i'r Dref!' Mae pob plentyn yn cyfrannu i'r llun, gan ei wneud mor lliwgar a llachar â phosibl. Gallant wneud llun o'r bobl yn y dorf, y rhedwyr, y baneri, y Dortsh etc.
Pan fo'r amserydd yn dod i ben mae'r plant yn 'pasio'r llun' i'r bwrdd nesaf. Bydd yr amserydd yn cael ei ail-osod a'r plant nesaf yn cyfrannu at y llun.
Dylai'r prosiect llun carwsel yma orffen pan fo'r holl blant wedi cyfrannu at bob llun. Er enghraifft, os oes yna 25 o blant yn y dosbarth, a phum lentyn ar bob bwrdd, dylid cael pum llun gorffenedig y mae pob plentyn wedi cyfranu atynt.
Arddangoswch y lluniau yn y dosbarth, neuadd yr ysgol neu'r brif dderbynfa i ymwelwyr gael eu hedmygu.
2. Collage Tortsh
Gwnewch un petryal mawr o bapur trwy styffylu darnau o bapur A3 at ei gilydd. Styffylwch y papur i'r wal fwyaf, yn dibynnu ar y lle sydd gennych ar gael.
Lluniwch amlinelliad y Dortsh Olympaidd ar y papur. Mae'n rhaid i'r plant ddod â llun maint pasport ohonynt eu hunain i'w ludo i fôn y dortsh, i gynrychiloi'r 8000 o redwyr fydd yn cario'r Fflam. Gellir estyn y gweithgaredd hwn o'r ystafell ddosbarth i'r neuadd neu'r dderbynfa, a gellir atodi lluniau o holl aelodau staff, yn cynnwys y pennaeth, y glanhawyr etc.
Gellir gosod testun byr wrth ymyl y Dortsh sy'n egluro sawl rhedwr fydd yn cael eu dewis a sut y maent yn cael eu dewis.
Gellir hefyd orchuddio'r Dortsh gyda lluniau o bobl o'r ysgol neu'r gymuned ehangach y mae'r gymuned yn teimlo sy'n haeddu cyfle i redeg gyda'r Fflam.
3. Y Dortsh mewn rhifyddeg
Ysbrydolwyd dylunwyr y Dortsh Olympaidd gan thema 'grym tri'.
Dyma'r trydydd tro i'r Gemau gael eu cynnal yn Lundain:
Mae yna dri Gwerth Olympaidd: parch, cyfeillgarwch a rhagoriaeth
Mae yn dri gair yn yr Arwyddair Olympaidd: 'Cyflymach, Uwch, Cryfach'
Ac felly mae tair ochr i Dortsh Olympaidd Llundain 2012.
Rhowch gynnig ar y gweithgareddau hyn ynglŷn â'r rhif tri.
- Mae tair ochr i'r Dortsh Olympaidd. Canfyddwch wrthrychau tair ochr eraill a'u trefnu i dair set - bach, canolig a mawr.
- Mae Tortsh Olympaidd Llundain 2012 yn 800mm o uchel. Canfyddwch dri gwrthrych arall sydd yr un uchder â'r Dortsh Olympaidd.
- Llenwch y rhifau coll yn y dilyniant rhifau Tortsh Olympaidd yma 3, - 9, 12,-,-. Stopiwch pan gyrhaeddwch yr eilrif nesaf.













