Rhowch gynnig ar dri syniad cyffrous ynglŷn â llythrennedd, pob un yn seiliedig ar thema Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd.
Yn yr adran hon ceir tri syniad cyffrous ynglŷn â llythrennedd, pob un yn seiliedig ar thema Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd. Gallwch ddarllen am sut y bu i ysgol gynnal ei digwyddiad Taith Gyfnewid y Fflam ei hun, neu geisio ysgrifennu cerdd siâp ar siâp Tortsh, neu chwarae rôl stori cyffrous am sypreis wedi ei chuddio mewn bocs - gallwch hyd yn oed greu diweddglo eich hun i'r stori!
1. Ysgol yn cynnal Taith Gyfnewid y Fflam ei hun mewn diwrnod chwaraeon ysgol a ysbrydolwyd gan Lundain 2012.
Digwyddiad mawr Dathlu Chwaraeon!
Taith Gyfnewid y Fflam - Diwrnod mawr o chwaraeon - 46.94kb
Mae Kim yn poeni am Wythnos Dathlu Chwaraeon yn yr ysgol gan nad chwaraeon yw ei phwnc gorau. Mae'n poeni na fydd yn cael ei dewis i redeg mewn unrhyw ras nac yn cael cyfle i ennill unrhyw fedal.
'Paid â phoeni,' meddai Mam. 'Rwy'n siŵr y cei di dy ddewis ar gyfer rhywbeth.' Mae Pickles, ei chath, yn canu grwndi i'w chysuro.
Ar fore dydd Llun, mae athrawes Kim yn gwneud cyhoeddiad yn y dosbarth. Mae'r brifathrawes, Mrs Reynolds, wedi gosod cystadleuaeth i weld pwy all ddylunio'r Dortsh orau ar gyfer eu digwyddiad Taith Gyfnewid y Fflam yn ystod eu Dathliad Chwaraeon Ysgol. Mae Kim wedi ei chyffroi'n fawr gan ei bod yn dda iawn iawn mewn Celf a Dylunio.
Mae Kim yn dylunio Tortsh ragorol. Mae'n treulio'r gyda'r nos gyfan wrth fwrdd y gegin yn gwneud ei chynlluniau Nid yw Pickles erioed wedi ei gweld yn gweithio mor galed ar unrhyw beth ar gyfer yr ysgol. Mae ei dyluniad hyd yn oed yn goleuo i edrych fel fflam! Mae ganddi dortsh batri y tu mewn iddi a phapur sidan coch, oren a melyn ar y top, fel bod y papur yn gloywi fel fflamau pan ddaw golau'r dortsh batri trwyddynt. Mae hyn wedi gwneud argraff fawr ar Mam.
Mae Kim yn mynd â'i dyluniad yn falch i swyddfa'r pennaeth. 'Waw', meddai Mrs Reynolds. 'Rwyt ti wedi gweithio'n galed iawn ar hyn, Kim Mae'n ddyluniad gwych!'
Mae Kim yn gwylio'r cloc yn y dosbarth, yn disgwyl am y gwasanaeth arbennig ar ddiwedd y diwrnod pan fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi. O'r diwedd, mae'n amser mynd i'r neuadd. Mae Kim yn nerfus wrth iddi ddisgwyl i Mrs. Reynolds wneud ei chyhoeddiad. Mae Mrs. Reynolds yn sefyll ac yn rhoi araith faith am ba mor falch yr oedd gyda'r holl ddyluniadau rhagorol. 'Wedi llawer o feddwl,' meddai Mrs. Reynolds, 'mae yna un dyluniad yr oeddwn yn meddwl oedd y gorau ohonynt i gyd, ac mae'r dyluniad hwnnw'n perthyn i... Kim Chung!' Mae Kim yn teimlo mor gyffrous ac yn rhuthro ar y llwyfan i ysgwyd llaw'r pennaeth wrth i bawb glapio.
Y diwrnod canlynol, mae plant Blwyddyn 6 yn treulio eu gwers Wyddoniaeth yn creu'r Dortsh o ddyluniad Kim.
Mae Mrs. Reynolds yn curo ar ddrws dosbarth Kim ac mae'r athro yn ei gwahodd i mewn. Mae'n dal y Dortsh ac mae pawb yn rhyfeddu ar sut mae'n goleuo gan edrych fel fflamau. 'Nawr, fel gwobr arbennig, oherwydd iddi wneud gwaith mor arbennig...' dywedodd Mrs. Reynolds. 'Hoffem i Kim gario ei Thortsh yn y daith gyfnewid yng Nghystadleuaeth Chwaraeon yr Ysgol.' Mae pawb yn clapio ac yn cymeradwyo Kim. Mae Kim mor falch ac ni all ddisgwyl i fynd adref i ddweud wrth Mam a Pickles.
Mae diwrnod Cystadleuaeth Chwaraeon yr Ysgol yn cyrraedd ac mae Kim yn disgwyl yn llawn balchder gyda'r Cludwyr y Fflam eraill i gymryd rhan yn y daith gyfnewid ar y buarth. Mae'n cario ei Thortsh buddugol yn uchel yn yr awyr yng nghymal ola'r ras ac yn ei gosod yn ofalus ar y podiwm...fel y gall y cystadlu ddechrau!
2. Cerdd siâp
- Tynnwch lun mawr o siâp y Dortsh Olympaidd ar bapur A4, rhowch y gerdd ganlynol i mewn ynddo neu ysgrifennwch un eich hun, gan sicrhau bod y geiriau'n ffitio yn siâp y Dortsh.
- Beth am ddangos eich cerddi siâp Tortsh Olympaidd ar eich bwrdd arddangos Llundain 2012 fel y gall pobl eraill eu mwynhau hefyd?
- Cofiwch edrych ar wefan Winning Words i ddysgu mwy am farddoniaeth siâp.
3. Beth sydd yn y bocs? - drama a ysbrydolwyd gan Daith Gyfnewid y Fflam
Golygfa agoriadol drama yn seiliedig ar dri chymeriad (y plant i barhau'r stori...)
Roedd Ana a'i ffrind Jamal yn helpu hen daid Ana, Archie, i lanhau ei garej lychlyd. Wrth iddynt symud bocsys, canfu Ana gist o ddroriau del oedd angen ei glanhau'n dda.
Agorodd y drôr uchaf, a'r tu mewn roedd bocs lledr coch bychan gyda chlasbyn aur.
'Edrycha!' Edrycha beth ydw i wedi ei ddarganfod!'
Mae wyneb Archie'n goleuo.
'Felly, dyma ble mae ef! Rwyf wedi bod yn chwilio am hwn ers blynyddoedd!'
'Alla i ei agor?' ymbiliodd Ana.
'Mewn munud, yn gyntaf rwyf eisiau dweud popeth wrthych am y bocs bach hwn.'
Eisteddodd Archie, Jamal ac Ana ar focsys pren sigledig.
'Ydych chi'n gwybod pa ddigwyddiad arbennig sy'n dod i Lundain yn 2012?'
'Wrth gwrs, rydym wedi bod yn dysgu am hynny yn yr ysgol. Y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd!' meddai Ana a Jamal gyda'i gilydd.
'Ie, rydych yn iawn. Ond nid dyma'r tro cyntaf i'r Gemau Olympaidd ddod i Lundain. Hwn yw'r trydydd tro. Fe'u cynhaliwyd yma gyntaf yn 1908 pan na allai Rhufain ei chynnal gan nad oeddent yn barod wedi i losgfynydd mawr ffrwydro yn eu gwlad. Yna, yr eildro oedd ym 1948, y tro cyntaf i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a dyfalwch pwy gymerodd ran yn y Gemau hynny?'
'Nid chi?' ochneidiodd Ana.
'Agora'r bocs i weld...'
Gall y plant barhau'r stori. Dyma'r rhan gychwynol (Act 1); mae angen iddynt greu rhan ganol (Act 2) a diweddglo (Act 3) trwy ddrama, canu, dawns neu feim.
Awgrymiadau ar gyfer gorffen y stori:
- A yw'r dortsh y tu mewn i'r bocs?
- A oes llun o Archie yn cario'r Fflam yn nhaith gyfnewid 1948 yn y bocs? Rhowch gynnig ar dynnu llun o Archie yn cario'r Fflam.
- A oes rhaglen o Seremoni Agor Gemau 1948 yn y bocs? Rhowch gynnig ar greu'r rhaglen.
- Efallai bod yna erthygl o bapur newydd am Archie ym 1948 yn y bocs. Rhowch gynnig ar ysgrifennu'r erthygl.













