Caneuon Actol
Brrr...mae'n oer y tu allan! Canwch y caneuon actol hyn a byddwch gyffrous ynglŷn â Gemau Olympaidd a Pharalympaidd y Gaeaf yn Vancouver!
Canwch y caneuon actol hyn am dair camp boblogaidd y gaeaf.
Fe'u seiliwyd ar yr hen ffefryn 'Ten Green Bottles'.
Dechreuwch ar ddeg neu canwch un ar ôl y llall gan ddechrau ar bump.
Sgiwyr Cyflym
Pum sgiwr cyflym yn rasio i lawr y bryn
Pum sgiwr cyflym yn rasio i lawr y bryn
Petai un sgiwr cyflym mewn damwain sydyn, syn...
Byddai pedwar sgiwr cyflym yn rasio i lawr y bryn!
Daliwch i ganu'r holl ffordd i lawr at ddim.
Ystumiau: cwrcydwch a phlygu'ch pengliniau, edrych yn syth ymlaen a thynhau'r breichiau i'ch ochr.
Eirafyrddwyr
Pum eirafyrddiwr yn gwneud rhyw ffansi fflip
Pum eirafyrddiwr yn gwneud rhyw ffansi fflip
Ac mae un eirafyrddiwr mewn damwain yn cael slip...
A gadael pedwar eirafyrddiwr i wneud eu ffansi fflip!
Ystumiau: neidio, troi rownd a glanio ar bengliniau ymhlyg.
Sglefrwyr iâ
Pump o sglefrwyr yn troelli 'mlaen ac ôl
Pump o sglefrwyr yn troelli 'mlaen ac ôl
Petai un o'r sglefrwyr yn syrthio ar ei ben-ôl...
Byddai pedwar sglefriwr yn troelli 'mlaen ac ôl!
Ystumiau: troi'n osgeiddig mewn cylch gan ymestyn y breichiau.
Nawr ceisiwch lunio ystumiau!
Allwch chi lunio penillion ar gyfer bobsled, sgi-neidio neu gwrlo?













