Tameidiau pum munud hwyliog ynglŷn â Thaith Gyfnewid Fflam Olympaidd 2012!
Dyma rai syniadau sydyn y gallwch eu defnyddio yn y dosbarth pan fo gennych bum munud i'w sbario. Mae'r syniadau hyn yn ddelfrydol ar gyfer amser cylch neu i'w defnyddio cyn cinio neu amser chwarae.
- Sefwch mewn cylch a phasio 'tortsh' o gwmpas. Dywedwch enw'r person yr ydych yn ei phasio iddo.
- Pasiwch eich 'tortsh' eich hun ar draws y cylch. Dewiswch rywun, dywedwch ei enw, cerddwch ar draws y cylch a phasio'r 'dortsh'.
- Eisteddwch mewn cylch. Gofynnwch i rywun ddechrau trwy sibrwd y geiriau 'Taith Gyfnewid y Fflam' i'r person sy'n eistedd y nesaf iddo. All y geiriau fynd yr holl ffordd o gwmpas y cylch ar yr un pryd? Rhowch gynnig arni gyda gair arall megis 'Fflam' neu 'Cludydd'.













