• Lleihau maint testun
  • Ailosod maint testun
  • Cynyddu maint testun
  • Newid i arddull ddiofyn
  • Newid i arddull Dyslecsia
  • Newid i arddull Cyferbynnedd Uchel
Llundain 2012 Gemau Olympaidd

Tri pheth y gallai Wenlock eu gwneud yn ystod Taith Gyfnewid y Fflam

Byddwch yn greadigol gyda Wenlock!

Sut ydych yn meddwl mae Wenlock, masgot Gemau Olympaidd Llundain 2012, yn ymwneud â Thaith Gyfnewid y Fflam? Isod ceir tri syniad, efallai y gallwch chi feddwl am fwy.

  • Camera yw llygaid Wenlock, gall recordio'r holl bethau cyffrous y gall Wenlock eu gweld. Gwnewch lun o Wenlock fel gwyliwr yn y dorf pan fo Taith Gyfnewid y Fflam yn dod i'r dref. Gwnewch lun o'r hyn yr ydych yn ei feddwl y mae Wenlock yn ei weld fel gwyliwr yn y dorf pan fo Taith Gyfnewid y Fflam yn dod i'r dref. All Wenlock weld pobl yn chwifio baneri neu Gludydd y Fflam yn cario'r Dortsh?
  • Smaliwch eich bod yn Wenlock mewn drama chwarae rôl. Dewiswyd Wenlock i gario'r Fflam, felly meddyliwch am sut deimlad fyddai hyn, wrth i Wenlock ddal y Fflam yn uchel a balch.
  • Dyluniwch grys-T neu fest rhedeg y gallai Wenlock ei wisgo yn ystod Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd.