Darllenwch stori am ddiwrnod Taith Gyfnewid y Fflam!
Cewch ddysgu yn ein stori am sut mae Max, Mam a Billy'r ci yn mwynhau diwrnod gwych pan fo Taith Gyfnewid Fflam Llundain 2012 yn ymweld â'u tref Gallech actio'r stori, neu wneud llun o'r diwrnod hapus. Gallech hefyd geisio dweud wrth rywun am eich hoff ddiwrnod allan gyda'ch teulu.
Taith Gyfnewid y Fflam - Diwrnod mawr Mam - 47.96kb
Mae'r haul yn llifo drwy'r llenni. Mae'n fore bendigedig. Mae Max yn teimlo rhywbeth yn neidio ar ei wely. Billly'r ci ydyw.
'Billy, y ci gwirion!' Meddai Max wrth iddo roi mwytha mawr i'w hoff gi.
Mae Max a Billy yn mynd lawr y grisiau am frecwast.
"Bore da Max, bore da Billy.' meddai Mam. Mae Mam yn llawn cyffro. Mae'n ddiwrnod arbennig iawn.
'Rydych chi ar eich traed yn gynnar.' meddai Max.
'Ni allwn gysgu. Rwy'n temlo cymaint o gyffro!' meddai Mam. 'Rwy'n barod am fy niwrnod mawr.'
Mae Taith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yn dod i dref Max heddiw, a dewiswyd mam Max i gario'r Fflam Olympaidd drwy'r dref. Dewiswyd mam Max o lawer iawn o bobl oherwydd ei bod yn gweithio'n galed iawn yn y dref i godi arian i bobl sy'n sâl iawn. Llynedd fe gododd dros fil o bunnau trwy neidio allan o awyren! Ac mae ganddi ofn uchder!
Mae pawb y mae hi wedi eu helpu wedi ysgrifennu llythyrau i ddweud pa mor garedig a chymwynasgar yr oedd a'i bod yn haeddu gwobr arbennig, a pha mor wych fyddai iddi gael cario'r Fflam Olympaidd yn ei thref.
Roedd Max mor falch pan glywodd fod ei fam wedi cael ei dewis.
'I chi mae hwn Mam.' meddi Max wrth iddo roi amlen iddi.
'Beth yw ef?' gofynnodd Mam.
'Dim ond cerdyn a wnes i chi ar gyfer eich diwrnod arbennig.' meddai Max.
Mae Mam mor hapus. Mae'n rhoi mwytha mawr i Max, ac mae Billy'r ci yn ymuno hefyd!
Mae prif strydoedd y dref yn llawn o bobl ar ochr y strydoedd. Maent yn bloeddio ac yn chwifio baneri. Addurnwyd y dref gyda phosteri a baneri a fflagiau lliwgar a llachar. Mae pawb yn llawn cyffro. Mae hyd yn oed y parciau a'r gerddi yn edrych yn hyfryd gyda blodau lliwgar a blanwyd yn arbennig ar gyfer Gemau Llundain 2012. Mae pawb yn y dref mor falch y dewiswyd eu tref hwy. Bydd Taith Gyfnewid y Fflam yn mynd o gwmpas y wlad a bydd 8,000 o wahanol bobl yn cario'r Fflam am tua 300m bob un. Mae Mam Max yn un o'r rhai lwcus!
Mae Mam yn barod yn ei lle. Mae Max a Billy yn y dorf gyda Taid. Mae Billy yn gwthio'i drwyn du trwy'r dorf o'i flaen fel y gall weld yn iawn.
Mae Mam yn dechrau teimlo'n nerfus. 'Gobeithio na fyddai'n syrthio o flaen yr holl bobl yma.' meddyliodd.
'Dewch ymlaen Mam!' gwaeddodd Max o'r dorf. Mae'n chwifio baner fawr. Mae Mam yn chwifio'n ôl ac yn chwythu cusan ato.
Mae Mam yn edrych y tu ôl iddi. Gall weld dyn, Cariwr y Fflam, yn dod tuag ati yn dal y Dortsh Olympaidd. Nid yw tortsh Mam wedi ei chynnau eto. Pan fo'r dyn yn cyrraedd Mam, mae'n cynnau eu thortsh hi gyda Fflam ei dortsh ef. Mae'n gwenu ac yn gwylio Mam wrth iddi gario'r Fflam yn falch.
Mae traed Mam yn dechrau symud wrth iddi ddechrau rhedeg. Waw! Am deimlad, dal y Dortsh Olympaidd a chlywed bloeddiadau'r dorf. Mae Mam yn wên o glust i glust.
Mae Max yn gwylio'i Fam o'r dorf. Mae Taid a Max yn clapio ac yn gwaeddi'n uwch na neb, ac mae Billy'n cyfarth hefyd.
Gall Mam eu clywed wrth iddi redeg gyda'r Fflam, gan ei dal yn uchel
uwch ei phen. Am brofiad anhygoel!
Mae dynes arall yn disgwyl mewn cadair olwyn ac mae Mam yn rhedeg tuag ati. Mae Mam yn defnyddio'r Fflam y mae hi'n ei chario i gynnau Fflam ar dortsh y ddynes. Mae pawb yn clapio.
Mae Max, Billy a Taid yn rhuthro draw at Mam ac yn ei chofleidio.
'Chi yw Mam orau'r byd!' meddai Max, 'a fi yw bachgen bach balchaf yn y byd.'
'Ie', cyfarthodd Billy, 'a fi yw ci balcha'r byd!' Wff, wff!
'A fi yw mam mwyaf lwcus y byd,' meddai Mam gyda gwên fawr ar ei hwyneb wrth iddynt gerdded i'r dorf i fwynhau'r dathliadau!













